Llong y Tymor
MONKBARNS
Llong ddur, dri mast â rigin llaw
Adeiladwr: A.McMillan & Son, Dumbarton, Yr Alban
Perchnogion: D. Corsar, Lerpwl. (1895 i 1912) Cwmni’r Flying Horse
Lansiwyd: Mehefin 1895
Tunelledd: 1911 GRT
Hyd: 267tr
Lled: 40tr 1 mod
Dyfnder: 23tr 6mod
D.S. Dyma un o’r llongau olaf i hwylio dan faner Prydain; march hedegog oedd ei phenddelw, sef Pegasus.
History:
1904 Dan law Capten Robinson hwyliodd o San Ffransisco i Falmouth mewn 110 o ddyddiau gyda llwyth o rawn, 2 ddiwrnod yn gynt na’r llongau cludo grawn cyflym (‘flyers’) Loch Carron a Marguerite Molinos.
1910 Taith ‘annymunol’ o Hamburg i Melbourne. Cafodd y llong ei dal mewn stormydd tymhestlog ym Môr y Gogledd am 17 diwrnod. Roedd Capten J. Parry yn falch o gyrraedd gyda’i gargo oedd yn cynnwys 750 câs o ddeinameit 300 casgennaid fach o bowdwr gwn.
1910 Y llong yn eiddo i Corsar ond yn cael ei rheoli gan Hardie &Co. Gwasgarwyd fflyd y ‘Flying Horse’ a gwerthwyd Monkbarns i John Stewart &Co, Llundain, am £4,850.
1911 i 1914 Hwyliodd Monkbarns y teithiau oedd yn arferol yn y dyddiau hynny o dan Gapten Donaldson, sef.
Ewrop i Afon Plate; Afon Plate i Newcastle De Cymru Newydd ( New South Wales); D.C.N. i borthladdoedd nitradau De America ac oddi yno i’r DU neu’r Cyfandir.
1923 Cyrraedd afon Mersey o dan Capten William Davies, a fu’n gapten arni ers 1919, y llong gyntaf i godi llwyth yn Lerpwl ers deunaw mis ,gyda chargo o halen craig.
1926 Ar daith o Valparaiso ar Ionawr 20fed trodd i mewn i borthladd Rio de Janeiro gan fod Capten William Davies yn ddifrifol wael. Bu farw mewn ysbyty yn y ddinas gan adael teulu ifanc trallodus yng Ngogledd Cymru . Parhaodd y Monkbarns ar ei thaith i Lundain yng ngofal yr is-gapten.
Yn ddiweddarach y flwyddyn honno fe’i gwerthwyd i Norwy am £2,500 i’w defnyddio fel llong lo.
Am wybodaeth bellach gweler llyfrau Basil Lubbock The last of the Windjammers, cyfrol 1 a 2.