Dewis Ein Gwirfoddolwyr
Rhan 1: Meinir
Fy hoff eitem i yn yr Amgueddfa yw’r botel wisgi sy wedi dod o longddrylliad y Stuart. Drylliwyd y llong ym Mhorth Tŷ Mawr, Llangwnnadl ym 1901. Beth sy’n ei gwneud mor arbennig yw’r stori tu al iddi- y ffaith fod pobl Llŷn wedi bod i lawr ar y llong ac wedi rhannu’r ysbail !! Hefyd, roedd hon yn llongddrylliad go arbennig gan na chollwyd ddim un bywyd, ac roedd hi’n ddiwrnod tawel. Y si ydy fod y criw wedi bod yn mynd i’r afael â’r cargo, ac mai dyna sut y drylliwyd y llong!
Rhan 2: Elinor
Fy hoff eitemau i o bell yw'r lluniau llongau sydd yma. Maent yn llawn o hanes bywiog y llongau a'r llongwyr, yn lleol ac ar y cefnfor pell.
Fy hoff arteffact yn yr Amgueddfa ydi ffoto o deulu sy’n sefyll mewn balchder tu allan i’w cartref. Ceir yno dad a mam a phedwar mab, ynghŷd âg un ferch hefyd, yn destun diolch. Saif y pedwar mab o amgylch eu rhieni, sy’n eistedd, gyda’r ferch yn sefyll rhwng ei rhieni yn hyderus orffwys ei dwylo ar eu cluniau. Mae’n llun cartrefol, gyda’r tad wedi ymlacio, a’r fam, efallai, ar bigau drain am i’r camera wneud ei waith er mwyn iddi gael mynd yn ôl at ei gorchwylion, rhywbeth yr oedd digon ohonynt gyda theulu mor lluosog!
Fe wyddom pwy ydyn nhw, ac ym mhle roeddent.
Y tad ydy’r Capten William Jones Evans a hwn fu’n gartref iddo gydol ei oes. Fe’i ganwyd yma yn 1845, fel ei dad, John Evans. Yn wir, roedd John Evans arall, ei daid, wedi byw a ffermio’r lle. TIR BACH, Pistyll, ydi’r tŷ, ac mae’n hen dŷ gosgeiddig ar lôn fechan welir ar y chwith o’r ffordd sy’n arwain o Nefyn i Bistyll. Mae golygfa wefreiddiol o un ochr i’r tŷ, yr olygfa am Drefor; yr un modd o’r achr arall i’r tŷ, yr olygfa am Bortin-llaen. Ac fel erioed, gellir syllu i’r môr.
Yn hogyn ifanc iawn, gadawodd William Jones Evans Dir Bach a mynd yn llongwr, ynteu’n rhyw ddeg oed yn brenntis a amrywiol longau – Susan ac Ellen, Velocity, Profit a Loss i enwi rhai ohonynt. Enwir y llongau hyn drosodd a throsodd yn hanes bywydau morwyr eraill o’r ardal hon.
Cwblhawyd William Dystysgrif Mêt yn 1866 a’i Dystysgrif Capten yn 1870. Fellly, roedd yn gapten profiadol pan briododd Margaret Owen ym 1888. Un o ardal Pistyll oedd hithau hefyd, yn ferch fferm Gwynus.
Ganwyd eu mab hynaf, John Evans arall, ym 1888. Yn hytrach na morio na ffermio mynd yn athro ysgol wnaeth o. Fe’i ceir yn byw gyda’i wraig Mary a briododd yn 1923 yn Nglyddyn Mawr, y Ffôr yn 1939.
Ganwyd ail fab John a Margaret yn 1890 a fo oedd yr un a arhosodd adra i ffermio. Trigodd yn hen lanc yn Nhir Bach, a bu farw yn Ysbyty Gallt y Sil, Caernarfon yn 1973.
Ganwyd y trydydd mab, William ym 1892, ychydig wyddom amdano ond ei fod wedi gadael Tir Bach.
Ganwyd y pedwerydd mab, Griffith Owen Evans, ym 1894 a bu’n gweithio fel cynorthwydd yn y Swyddfa Bost yn Aber-soch. Priododd Mary Gertrude Williams ac erbyn 1939 roeddent yn byw ym Mhendorlan, Aber-soch, lle gweithiai fel goruchwyliwr masnachol. Bu farw Griffith ym 1953, a Mary yn 1970.
Plentyn ola’r teulu oedd Margaret, a anwyd ym 1896. Priododd yn ganol-oed, yn 49mlwydd oed wedi oes yn cadw tŷ i’w brawd Owen yn Nhir Bach. Ei phriod oedd Robert John Griffith, gŵr gweddw o Lannor. Fe’u priodwyd yng Nghapel Pen-mount, Pwllheli ym 1946. Bu marw Margaret yn Ysbyty Eryri, Caernarfon, yn 1956, ac fe’i claddwyd yn Nefyn. Deng mlynedd yn ddiweddarach, claddwyd ei gŵr gyda hi.
Rhan 4: Dilys
Mae fy hoff rannau o'r Amgueddfa yn newid o hyd ! Ambell waith hoffaf y ffilm - yn enwedig ar ddiwrnod oer glawog dro arall, dwi wrth fy modd yn y caffi pan fydd pobl diddorol yn sgwrsio gyda ni a'i gilydd, yn rhannu ein treftadaeth dros baned a bara brith. Dro arall byddaf yn mwynhau'r lluniau digidol, ond mae'r peth gorau un ar y gweill.... (i'w barhau)