Casgliad
CRONOMEDR MOROL
Gwnaed gan:
Joseph Sewill
61 Castle St, Liverpool
Gwneuthurwr ar gyfer y Morlys
Rhif cyfresol: 5793 (tua diwedd yr 1870au)
Rhodd yw’r cronomedr morol hwn i’r amgueddfa gan John Davies, ŵyr William Davies, sef ein Capten am y Tymor. Byddai hwn (neu un tebyg iddo) wedi cael ei ddefnyddio ar y Monkbarns, sef Llong y Tymor.
Datblygwyd cronomedrau morol gyntaf yn y 18fed ganrif. Roedd cywirdeb y cronomedr wrth ddweud faint o’r gloch oedd hi, ynghyd â llywio wybrenol yn galluogi morwyr i bennu hydred yn fwy manwl gywir. Roedd hyn yn welliant mawr ar dduliau mordwyo cynharach oedd yn pennu lledred yn unig. Pwrpas cronomedr yw mesur lleoliad penodol gwybyddus, er enghraifft Amser Cymedrig Greenwich - Greenwich Mean Time (GMT). Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth fordwyo. O wybod beth yw GMT am hanner dydd yn lleol gall llywiwr ddefnyddio’r gwahaniaeth amser rhwng safle’r llong a Meridian Greenwich i bennu hydred y llong. Wrth i’r ddaear droi yn gyson, gellir defnyddio’r gwahaniaeth amser rhwng y cronomedr ac amser y llong yn lleol i gyfrifo hydred y llong yn berthynol i Feridian Greenwich (a ddiffinnir fel 0°) gan ddefnyddio trigonometreg sferaidd. Y dyddiau hyn, gall rhai sy’n llywio ddefnyddio almanac môr a thablau trigonometrig lleihau-golwg i fesur yr haul, y lleuad, planedau gweladwy, neu unrhyw un o’r 57 seren sydd wedi’u dewis ar gyfer llywio ar unrhyw adeg pan fo’r gorwel i’w weld.
Bellach mae llongau a chychod yn defnyddio cymhorthion electronig wrth fordwyo, Systemau Lloeren Mordwyo Byd-eang fel arfer. Ond mae gallu defnyddio cronomedr yn fanwl gywir, sef llywio wybrenol, yn dal i fod yn ofynnol ar gyfer rhai ardystiadau morwyr rhyngwladol fel Swyddog â Chyfrifoldeb am Oruchwylio Mordwyol, swyddogion Bwrdd, Capen ac Is-gapten ac mae o gymorth hefyd i gapteiniaid llongau hwylio ar y cefnfor ar longau hwylio pleser preifat pellter hir. Mae cronomedrau morol modern wedi’u seilio weithiau ar glociau cwarts sy’n cael eu cywiro o bryd i’w gilydd gan signalau GPS neu signalau amser radio.