Crair y Tymor
System o arwyddo llythrennau’r wyddor yw semaffor, trwy chwifio pâr o faneri sgwâr sy’n cael eu dal â llaw mewn patrwm penodol. Bydd morwyr yn gallu defnyddio semaffor i gyfathrebu dros bellter, rhwng llongau er enghraifft, neu o long i’r tir. Baneri coch a melyn a ddefnyddir ar y môr, a baneri gwyn a glas ar y tir. Does dim rhaid cael baneri, ond maen nhw’n gwneud y llythrennau a drosglwyddir yn haws eu gweld.
Gan ymestyn y breichiau, bydd y baneri’n cael eu dal mewn gwahanol safleoedd i gyfleu bob llythyren yn yr wyddor. Mae’r patrwm yn edrych fel wyneb cloc, wedi’i rannu yn wyth safle: i fyny, i lawr, allan, uchel, isel, ar gyfer y llaw chwith a’r llaw dde (LH a RH). Mae chwe llythyren sy’n gofyn am ddod â’r llaw ar draws y corff fel bod y ddwy faner ar yr un ochr.
Dechreuwyd defnyddio’r system semaffor yn y byd morwrol yn yr 19eg ganrif, a châi lawer iawn o ddefnydd. Caiff ei defnyddio o hyd wrth ailgyflenwi stoc ar y môr ac mae’n ddull derbyniol o gyfathrebu mewn argyfwng yn ystod y dydd neu yn ystod y nos trwy ddefnyddio ffyn wedi’u goleuo yn lle baneri.
Yr achos enwocaf o ddefnyddio’r system semaffor oedd ym Mrwydr Trafalgar yn 1805 pan oedd Llynges Frenhinol Prydain yn ymladd lluoedd Sbaen a Ffrainc yn ystod Rhyfeloedd Napoleon. Defnyddiai llongau Prydain y dull yma trwy osod baneri i gyfathrebu negeseuon rhwng ei llongau. Gweithiai’r system yn dda iawn yn ystod y dydd, ond doedd dim modd gweld y baneri ar dywydd glawog neu mewn niwl.