Hanes Llafar
Yma yn yr Amgueddfa rydyn ni yn casglu llwyth o gyfweliadau sain gan bobl wahanol. Mae hyn yn ein galluogi i gadw hanes cymeriadau’r ardal yn fyw. Mae gan bawb ei storïau, felly mae hi yn ANDROS o bwysig ein bod ni’n eu cofnodi cyn ei bod hi’n rhy hwyr. Mae’r prosiect yma wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus, ac erbyn hyn mae gan yr Amgueddfa lyfrgell sain ddifyr ar y naw, o hanesion lleol diddorol.
Ond mae llawer mwy o bobl ddifyr i’w cyfweld. Os oes storïau hanesyddol difyr gennych chi i’w rhannu gyda ni, ar bob cyfri cysylltwch gyda’r Amgueddfa cyn gynted â phosib. Mi allwn ni drefnu i’n gwirfoddolwyr ddod atoch chi a chael sgwrs dros baned o de.
I weld mwy o fideos - cliciwch yma