Hen Luniau
Mae gan yr amgueddfa gasgliad da o hen ffotograffau, yn cynnwys rhai o longau a’u capteiniaid, tref Nefyn a’i phobl, pysgotwyr a’u cychod a’u rhwydau, grwpiau megis timau pêl droed, lluniau ysgol, carnifal neu ddau a badau a chriwiau. achub Porthdinllaen
Mae llawer o’r lluniau hyn mewn cyflwr gwael, wedi dirywio yn awyrgylch llaith yr hen amgueddfa wedi iddi gau, ond rydym yn awr yn y broses o’u trosglwyddo i gyfrifiadur lle gellir dileu marciau a sgriffiadau a gwneud y llun yn gliriach tra hefyd yn cadw cymeriad y darlun. Mae digideiddio’r lluniau hefyd yn eu diogelu ar gyfer eu defnyddio yn awr ac yn y dyfodol.
Er mwyn ychwanegu at ein casgliad, rydym yn hapus i fenthyca lluniau os nad yw’n bosibl eu trosglwyddo’n rhoddion i’r amgueddfa. Caiff y lluniau hyn eu copïo’n syth a dychwelir y gwreiddiol i’r perchennog rhag blaen.
Cafodd rhai o’r lluniau hyn eu harddangos ar eu newydd wedd yn ein boreau coffi ynghŷd â gwybodaeth yr ydym yn ei gasglu am hanes teuluoedd a thrigolion Nefyn a Morfa Nefyn yn y gorffennol. Ein gobaith yw ehangu’r gwaith hwn i gynnwys ardal gyfan Pen Llŷn.
Lluniau eraill yr ydym yn eu casglu yw copiau o gyfrifiad llongau o’r cyfnod 1861 – 1901 a’r tystysgrifau pwysig a gyflwynwyd i Gapteiniaid a Mêts.