Arddangosfeydd
Yma ceir rhestr lawn o’n harddangosfeydd, yn y gorffennol ac i’r dyfodol
Arddangosfeydd o'r gorffennol
Arddangosfa 2019
Arddangosfa 2018
Arddangosfa 2017
Arddangosfa 2015
Arddangosfa 2013
Arddangosfa 2012
Arddangosfa 2011
Arddangosfa 2010
Harddangosfa ym mis Hydref:
Gwyliau o gwmpas Nefyn ddoe a heddiw
Mis Hydref 2019
Bob dydd Mercher i dydd Sul
10.30yb tan 4.00yp
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Noson Siantis
Mae'r noson Siantis wedi profi'n boblogaidd iawn yn y gorffennol ac rydym yn gobeithio cael criw da ohonoch on bord unwaith yn rhagor i godi'r angor - a chodi'r to - gyda noson hwyliog o ganu. Eleni, am y tro cyntaf rydym yn torri tir newydd trwy gael Cor Ceiri atom i gyflwyno detholiad o Siantis. Beth sy'n wahanol? Wel, genod yw Cor Ceiri, ond yn y dyddiau hyn o gydraddoldeb, pam lai !! Bydd cyfle i bawb ymuno yn yr hwyl, a darperir diod i iro'ch lleisiau. Dewch yn llu!
Tocynnau ar werth yn yr Amgueddfa, £5 oedolion a £2 i blant.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Gwyliau yn Ardal Nefyn - Hydref 2019
Ein harddangosfa nesaf ym mis Hydref. Bydd gwledd o nostalgia, lluniau ac artiffactau lleol yn dehongli datblygiad y diwydiant twristiaeth yn ein hardal, wedi eu trefnu'n arbennig gan ein tim artiffactau i gloi'r tymor. Peidiwch a cholli'r arddangosfa arbennig hon'
Arddangosfa Hen Luniau
Arddangosfa Hen Luniau Morfa Nefyn
16 Medi tan 11 Hydref 2015
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Arddangosfa Ailddarganfod y Cyprian (Gŵyl Arfordir Llŷn)
Yn ystod y cyfnod 8-22 Awst 2013 fe wnaeth Amgueddfa Forwrol a Chanolfan Treftadaeth Llŷn gynnal arddangosfa yn ein Canolfan Haf ar y Groes, Nefyn oedd yn adrodd hanes llongddrylliad yr SS Cyprian a suddodd oddi ar Benrhyn Cwmistir, Edern ym mis Hydref 1881. Daeth y llongddrylliad yn enwog yn sgil gweithred arwrol y Capten, John Alexander Strachan, a gollodd ei fywyd wrth geisio achub bachgen, John William Klahn, oedd yn teithio ar y llong yn gudd.
‘Ailddarganfod y Cyprian’ oedd yr arddangosfa fwyaf cynhwysfawr hyd yma, gydag arteffactau a dogfennau, ac ymchwil newydd.
Edrychwch allan am arddangosfeydd newydd yn cynnwys Y Rhyfel Byd Cyntaf. – cliciwch yma