Capten y Tymor
CAPTAIN WILLIAM DAVIES 1865 - 1926
Ganed William Davies yn 1865 yn y Fron, Nefyn, yn fab i Hugh ac Ellin Davies. Aeth i’r môr yn 1881 gan weithio ar yr Agnes, yr Unicorn, yr Arabella, Queen of Cambria a’r Eivion fel llongwr cyfredin a llongwr medrus tan iddo basio ei dystysgrif 2il Fêt yn 1886. Dysgodd lawer gan Hugh Davies y gwneuthurwr hoelion o Nefyn, a ddysgai elfennau mordwyo. Arhosodd William Davies ar yr Eivion fel 2il Fêt ac wedyn fel is-gapten ar ôl pasio ei dystysgrif is-gapten yn 1889. Enillodd ei dystysgrif Capten yn 1891. Yn dilyn hyn, bu’n Gapten ar y Gwrtheyrn Castle a’r Gwydir Castle o 1894 tan 1914, gan hwylio i Awstralia a De America.
Roedd ganddo un brawd, John, a ymfudodd i Awstralia a dwy chwaer - Jane Mary a briododd Capten John Williams Nefyn, ac Annie Verona. Cartref y teulu oedd Victoria Terrace, Stryd y Ffynnon, Nefyn.
Priododd William â Grace Ellen Owen, athrawes a mech i setsmon o bentre Pistyll. Yng Nghapel Soar, Nefyn y priodwyd hwy ar 14 Tachwedd 1905 a chawsant un ferch, Ellen Gwyneth a dau fab, John Ifor a Gwilym Hugh. Bu’r teulu yn byw ym Mrynhyfryd ac yn ddiweddarach yng Nghraig y Môr, Nefyn.
Ysgrifennodd John Ifor Davies hanes ei deulu a’i fywyd yn Nefyn yn y gyfrol Growing Up Among Sailors. Mae dau ddigwyddiad yn y llyfr yn tystio i gryfder cymeriad Capten William Davies. Y cyntaf yw’r stori amdano yn gwnïo bysedd un o’i griw yn sownd yn ôl ar fordaith a’r ail yw’r hanes amdano’n cael damwain i’w wddf ac angen pwythau yn y clwyf dwfn. Gan fod y lleill yn anfoddog, aeth ati i wneud y gwaith ei hun.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd William yn gapten y Belford, a suddwyd gan y gelyn yn 1917 wedi i gomander y llong danfor orchymyn y criw i adael y llong a mynd i’r cychod. Clymwyd y cychod wrth ei gilydd ac wrth y llong danfor, ac oni bai fod y rhaff wedi torri, byddai’r llong danfor wedi eu llusgo nhw i gyd i waelod y môr.
Yn 1917, daeth William yn Gapten ar y llong Monkbarns oedd yn perthyn i fflyd John Stewart, gan hwylio i Awstralia a De America ac yno y bu farw ar 30 Mawrth 1926 yn Ysbyty’r Strangers, Rio De Janeiro, Brasil. Nid ydym yn gwybod yn iawn beth oedd yn bod arno, ond nid oedd wedi bwyta ers dau fis a grym ewyllys a’i galluogodd i gyflawni ei ddyletswyddau. Fe’i claddwyd yn Cemiterio Dos Ingleses yn Rio, diolch i drefniadau dau gyfaill da iddo Capten Griffith Jones, Pwllheli a Capten John Roberts, Criccieth, a fyddai hefyd yn tendiad y bedd.
Mae ysgrif goffad Esgob Ynysoedd y Falkland iddo yn terfynu gyda’r geiriau ‘… was as fine a skipper as ever trod a ship’s deck…’
Ceir manylion am y llong Monkbarns yn LLONG Y TYMOR a gwybodaeth am gronomedr, tebyg i’r un y byddai wedi ei ddefnyddio, yn yr erthygl ARTEFFACT Y TYMOR.