Penddelw
Daeth y penddelw, sy’n mesur 970mm x 750mm x 520mm i ddwylo Amgueddfa Forwrol a Threftadaeth Llŷn o Amgueddfa Forwrol Seiont II yng Nghaernarfon pan ddaeth dyddiau’r amgueddfa honno i ben. Roedd wedi bod yn eiddo Amgueddfa Caernarfon am flynyddoedd lawer ond nid oedd unrhyw fanylion ar gael am ei hanes. Rydym wedi llwyddo i gasglu gwybodaeth gan Richard Hunter, hanesydd penddelwau bod y penddelw “biled” hwn yn perthyn i long Americanaidd o’r cyfnod cyn 1870. Mae nifer o ffynonellau yn awgrymu iddo ddod o weddillion y llong American Governor Fenner (adeiladwyd ym 1827, yn Swanzey, Mass. a’i henwi ar ôl Llywodraethwr Rhode Island ar y pryd).
Adroddiad y Penddelw gan Margaret Adkins - cliciwch yma
I weld mwy o luniau - cliciwch yma