Merched y Môr
Agoriad Swyddogol
Agorwyd ein harddangosfa newydd, ‘Merched y Môr’ yn ystod deuddydd y 25ain a’r 26ain o Orffennaf 2022. Bwth fideo yn portreadu pum merch sydd wedi cyfrannu at y byd morwrol ydyw, sef Ellen Owen (gwraig y capten), Jane Jones (harbwrfeistres Porthdinllaen), Beti Huws (trwswraig rhwydi pysgota), Mary Parry (perchennog llong), a Mali Parry-Jones (aelod bad achub Porthdinllaen). Cafodd ein Cyfeillion a’n Gwirfoddolwyr, ynghyd â chwaraewyr y Loteri, gyfle i weld yr arddangosfa o flaen llaw ar y dydd Llun. Yna, ar y diwrnod canlynol, agorwyd yr arddangosfa yn swyddogol gan Elinor Elis, gor-gor-nith Ellen Owen. Ar y nos Fawrth, daeth yr hanesydd Elin Tomos draw i roi darlith am rôl merched yn y bröydd llechi, oedd yn cyd-fynd â’r thema o roi cydnabyddiaeth i gyfraniad merched. Diolch i Sian Shakespear am gydlynu'r prosiect, a Rob Zyborski am ffilmio. Cydnabyddiaeth i’r actorion hefyd, sef Mared Llywelyn, Meinir Pierce Jones, Nel Roberts a Catrin Roberts, ac i Mali Parry-Jones am adrodd ei hanes hi. Arianwyd y Prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a’r Garfield Weston Foundation.