Cwch Boncyff
Darganfuwyd y cwch pren (logboat) hwn yng Nghaernarfon ar ddechrau’r 20fed ganrif wedi iddo dreulio cryn amser y tu allan i fodurdai yng Nghaernarfon ac yn Nefyn, a chyn i’r amgueddfa ei brynu yn y 1970au. Mae gwaith ymchwil diweddar wedi canfod mai coed caled o Orllewin Affrica a ddefnyddiwyd i adeiladu’r cwch ac mae eco-gymhariaeth ethnograffig yn dangos ei fod yn debyg i’r cychod a geir yn nelta’r afon Niger yng Ngorllewin Affrica – y pen blaen yn fain a sedd yn y starn. Un posibilrwydd yw ei fod wedi dod i Brydain ar un o longau Lerpwl oedd yn hwylio i Orllewin Affrica i gyrchu olew palmwydd. Tra byddai’r llongau drosodd yno,byddai’r Krooboys lleol yn rhwyfo draw atynt ac yn helpu ar y llong. Ambell dro byddent yn aros ar y llong ac yn dychwelyd gyda’r criw i Brydain, ac yn hytrach na thalu costau dadlwytho yn y porthladd, câi’r cychod pren eu taflu i’r dŵr.
Cafodd y ffram gynnal – ar gyfer sefydlogi cyflwr y cwch pren – ei hariannu trwy ymgyrch GoFundMe ar-lein. Llawer o ddiolch i’r rhai a’n cefnogodd. Mae adroddiad llawn ar y gwaith ymchwil gan un o wirfoddolwyr yr amgueddfa, Jamie Davies, ar gael i’w lawrlwytho yma.
GoFundme - cliciwch yma
I weld mwy o luniau - cliciwch yma