Ein Sgerbwd - Madrun
Portread
Cafodd Seren Morgan Jones ei chomisynu i ddod a 'Madrun y sgerbwd' yn gysyniad gweledol. Wrth ystyried y wybodaeth archeolegol, crewyd y portread hwn i dybio sut y byddai wedi edrych o bosibl.
Yn wreiddiol o Aberystwyth, graddiodd o Brifysgol y Celfyddydau, Llundain yn 2009. I weld mwy o'i gwaith, ewch i https://serenmorganjones.carbonmade.com/
Ariannu
Cafodd y prosiect hwn ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Sefydliad Garfield Weston
Crynodeb o’r Adroddiad Archeolegol
- Bedd Cist, wedi ei leinio â cherrig, oedd yn nodweddiadol o’r cyfnod canoloesol cynnar, a gafodd ei ddarganfod. Ond, cafodd y bedd ei ddyddio yn y cyfnod rhwng 1165 a 1270, sydd yn ei wneud yn enghraifft hwyr iawn o fedd o’r math yma. “One cannot help but wonder why the return to a much earlier mode of burial is adopted in this instance as it is clearly a conscious decision to bury the individual in this way”.
- Roedd tair carreg gron ar y bedd, gyda dwy ohonynt yn gwarts, oedd yn arfer cyn-Gristnogol. “It is considered that these stones were carefully selected and deliberately placed here as part of a form of grave decoration or ritual practice”.
- Cafodd y bedd ei ddarganfod 0.50 medr islaw lefel y ddaear.
- Sgerbwd dynes yn ei phumdegau oedd yn y bedd, ac amcangyfrwyd ei bod yn oddeutu 154cm o daldra. Darganfuwyd nad oedd hi wedi bod yn bwyta bwyd o’r môr, ond yn hytrach bwyd o’r tir gan fwyaf.
- Roedd pen y ferch wedi cael ei osod ar ochr Orllewinol y bedd, sydd yn nodweddiadol o gladdedigaeth Gristnogol.
- Nid oedd arwydd clir o iechyd gwael, dim ond anaf i’w choes a allai gael ei gysylltu â gwaith corfforol ond nid yw’r cysylltiad yn bendant.
Enwi 'Madrun'
Wedi i'r cyhoedd fod yn pledleisio dros eu hoff enw ar gyfer y sgerbwd, allan o'r dewis o Angharad, Dyddgu, Ethi, Gweirful, Gwenhwyfar, Gwladys, Hawys, Madrun, Nêst, Rhianon, Senena and Tangwystl, 'Madrun' ddaeth i'r brig. Y ddau ddisgybl lwcus ennillodd ein gwobrau am ei henwi oedd i Guto Bryn Williams a Mabon Arwel Williams.
Agoriad Swyddogol
Ar 30 Hydref 2021, cafodd arddangosfa newydd yr Amgueddfa ei lansio, am y sgerbwd a gafodd ei darganfod o dan muriau'r Eglwys, a gafodd yr enw 'Madrun'. Daeth nifer o bobl oedd wedi bod ynghlwm a'r prosiect o'r dechrau ynghyd i weld yr arddangosfa gorffenedig am y tro cyntaf.
Ail-greu y bedd
Dydd Sadwrn 30/10/21 Agoriad Swyddogol Madrun ein Sgerbwd
O'r diwedd ! Bydd pawb yn gallu gweld ein sgerbwd a'i bedd rhyfeddol yn dyddio yn ol i Oes y Tywysogion. Yn anffodus dim ond 15 o wahoddedigion fydd yn y seremoni agoriadol, felly rydym yn gobeithio 'ffrydio'n fyw' ar ein tudalen gweplyfr, am 2.30pm. Ond yn bwysicach - dowch draw i weld Mardun ein Sgerbwd a'n helpu ni i ddehongli ei hanes - rhowch 'Cnawd ar yr Esgyrn' ! Oriau agor Gaeaf : dydd Mercher a dydd Sul 11-3pm, neu ar gais i gymdeithasau/grwpiau.
Diolch i Gronfa'r Loteri a Garfield Weston Foundation am ariannu'r prosiect.