Y Bedd Cist a’r Sgerbwd
Yn ystod gaeaf 2013, yn sgil y gwaith adeiladu oedd yn mynd yn ei flaen wrth ailddatblygu’r amgueddfa, canfuwyd olion dynol o dan sylfeini’r eglwys. Nid oedd hyn yn syndod mawr oherwydd mai hon oedd eglwys y plwyf ac yn ôl y sôn yn dyddio’n ôl i’r cyfnod canoloesol cynnar. Adeiladwyd eglwys y plwyf newydd sef eglwys Dewi Sant yn 1901.
Fodd bynnag, pan gyrhaeddodd yr archeolegwyr i gloddio am weddillion yr hen eglwys, daethant ar draws olion bedd cistfaen (bedd wedi ei leinio â cherrig) yn ei gyfanrwydd. Roedd hwn yn ddarganfyddiad o bwys gan fod y math hwn o fedd yn nodweddiadol o’r cyfnod canoloesol cynnar. Daeth olion pedwar bedd unigol arall i’r golwg hefyd ond roedd y rhain wedi eu chwalu i raddau helaeth gan waith traenio yn ystod oes Fictoria a’r cyfnod wedi hynny.
Roedd y bedd cistfaen wedi ei leoli o dan sylfeini’r eglwys a adeiladwyd tua 1825-27, ac fel yn achos nifer o safleoedd eraill yn y cyfnod hwn, bu i adeiladwyr oes Fictoria aflonyddu cryn dipyn ar archeoleg y safle.
Yn ogystal, canfuwyd wal fawr yn rhedeg o’r pen dwyreiniol i gyfeiriad y gorllewin. Mae’r wal hon yn bwysig gan y gallai fod yn dystiolaeth archeolegol brin o eglwys briordy gynharach yn perthyn i’r cyfnod canoloesol (o bosibl y cyfnod canoloesol cynnar) . Nid yw mapiau sy’n dyddio’n ôl i ddiwedd y 18 fed ganrif yn dangos unrhyw adeiladau ar y safle hwn – golyga hyn y byddai’r eglwys yn perthyn o reidrwydd i gyfnod cyn y 1760au.
Erbyn hyn mae dadansoddiad gwyddonol yn cael ei gynnal ar yr olion hyn.Trwy gymorth profion radiocarbon, llwyddwyd i ddyddio’r sgerbwd a gafwyd yn y gist yn weddol agos i ddechrau’r 13eg ganrif.
Cadarnhaodd osteo-archeolegwyr hefyd mai sgerbwd dynes yn ei phumdegau oedd yn y gist. Byddai’r wraig hon wedi byw trwy gyfnod cyffrous iawn yn hanes Gogledd Cymru a thua diwedd ei hoes byddai wedi gweld uno Gwynedd a llawer o ganolbarth a de Cymru yn ogystal â dyrchafiad Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf).
Mae dadansoddiad isotopig o’r dannedd yn mynd rhagddo yn awr – gall daddansoddi’r dannedd ddatgelu gwybodaeth am ddeiet yr unigolyn ac am y fan lle cawsant eu magu. Mae hyn yn bwysig gan mai prin yw’r enghreifftiau o esgyrn sydd wedi goroesi’n llwyddiannus yng Ngogledd Cymru a bydd canlyniadau’r dadansoddiad hwn yn rhoi gwybodaeth werthfawr i ni am drigolion cynnar yr ardal.
Gan fod y wal wedi ei hailgladdu, mae arolwg daearyddol i’w gynnal yn y gobaith y bydd yn datgelu mwy amdani ac efallai yn cadarnhau ei bod yn perthyn i’r eglwys gynharach.
I weld lluniau C.R Archaeology - cliciwch yma
Gwefan C.R Archaeology - cliciwch yma