Archif Digwyddiadau 2022
30/12/22 Cyfle olaf eleni !
Bore Gwener 30ain o Ragfyr 2022 bydd yr Amgueddfa yn agored rhwng 11-1pm
Galwch heibio am baned poeth a sgwrs !
01/12/2022 Carolau yng ngolau Canhwyllau
7pm yng nghwmni Ann Williams, Llithfaen.
Ydy, mae ein noson carolau, gwin cynnes a mins pei yn ol eleni! Brysiwch i gael eich tocyn, £6 i gynnwys y danteithion.
Tynnir y Raffl Fawr yn y noson hon.
Click here for more information about Carolau yng ngolau Canhwyllau (PDF)
19/11/2022 Capten a'i Mêt!
(Digwyddiad yn Gymraeg)
10.30am
Sgwrs bywiog a diddorol yng nghwmni dwy brif lenor Y Genedlaethol eleni, dwy hogan leol, Meinir Pierce Jones ac Esyllt Maelor. Trwy docyn yn unig £3.
(Mae pob tocyn wedi ei wedi yn barod, ond croeso i chi roi'ch enw wrth gefn)
Click
12.11.2022 & 26.11.2022 Pwytho Pwyllog
10.30ish
Dowch i fwynhau bore o greu crefftau yng nghwmni pobl difyr tebyg i chi!
Croeso cynnes i bawb, tâl £3 - yn cynnwys paned.
3.11.22 Hanner tymor i'r plant
Bydd sesiwn arbennig i blant 5-10oed fore Iau Tachwedd 3ydd. Byddwn yn dysgu am arwydd y gragen sgalop ac yn creu blwch trysor... Lle i 12 o blant yn unig, enwau i'r amgueddfa ymlaen llaw.
£3.50 yr un i gynnwys diod a ffrwyth.
Cliciwch yma am ddogfen Hanner Tymor i'r plant (PDF)
29.10.22 Pwythau pwyllog
Sesiwn nesa o'n clwb creffau, i bawb o bob safon a genre- bore Sadwrn 29 Hydref tua 10.30. Croeso i bawb! £3 y. Cynnwys paned
21.10.22 Tri Cyprian
Sgwrs difyr efo cysylltiadau morwrol yng nghwmni Geraint Jones, Trefor, trwy gyfrwng Zoom.
Cofrestrwch i'r cyfarfod trwy ebostio'r Amguedfa neu ar wefan Cwmulus
Mae cyfieithu ar y pryd ar gael hefyd!
15.10.22 Arddangosfa Mis Hydref 15fed tan diwedd Tachwedd:
Enwogion o Fri
Llawrlwytho poster Enwogion o Fri (pdf)
8.10.22 Bore Coffi MacMillan 10.30am -1pm
Dowch yn llu am baned gyda ni a helpu ni godi arian at MacMillan a'r Amgueddfa. Tombola, raffl, stondin, ac wrth gwrs paned a chacen - mynediad £3. Dyma'r trydydd tro i ni gynnal y bore coffi enwog hwn - helwch ni i'w wneud yr un mwya llwyddianus hyd yn hyn !
22.10.22 CANSLWYD - Hanes Menywod: 'O Jam i Jazz' gyda Dr Mari Wiliam
Bore Sadwrn 22 Hydref am 10.30am
Dyma'r sgwrs olaf yn ein dathliadau lansio arddangosfa Merched y Mor Mynediad yn rhad ac am ddim. Bydd y sgwrs yn olrhain newidiadau yn y rol traddodiadol y ferch ar ddiwedd y 19eg ganrif ac i fewn i'r 20fed ganrif. Traddodir y ddarlith yn y Gymraeg.
22.10.22 Gweithdy Hanes Teulu Pnawn Sadwrn 1.30-5pm
Rydym yn falch iawn i gydweithio gyda Chymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd i gynnal y gweithdy hwn. Bydd y rhaglen yn cynnwys sgyrsiau gan aelodau amlwg o'r Gymdeithas, John Dilwyn Williams, Mair Read a Dewi Jones) ar nifer o wahanol dulliau ymchwilio i'ch achau. Mae'r cynnwys yn addas i ddechreuwyr a phobl profiadol, yn wir unrhyw un sydd á diddordeb yn hanes ei deulu.
Bydd arddangosfa fechan o waith ein gwirfoddolwraig prysur Gwerfyl Gregory sydd yn delio gydag ymholiadau a ddaw i'r Amgueddfa, stondin y gymeithas, sesiwn trafod 'top tips' a mwy ! Bydd lluniaeth ysgafn ar gael trwy' pnawn.
Mae'n hanfodol eich bod yn gofrestru ymlaen llaw i fynychu'r digwyddiad hwn. Cyntaf i'r felin .... anfonwch air trwy ebost (afllmm@yahoo.com) neu ar neges testun 07917 700 851)
Bydd un mynychwr lwcus yn derbyn pecyn prawf DNA o'r het mynychwyr !
Ariennir y digwyddiad hwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.
Bydd y sgyrsiau yn Gymraeg, ond croeso i bawb.
20.09.22 Morio Canu
Morio Canu: mae'r daflen geiriau'n barod i chi, felly dowch draw bore Mercher Medi 21 am 11am i fwynhau'r hen ffefrynnau a chymdeithasu.
Diolch i Delwedd a Mantell Gwynedd am y nawdd i'r gyfres hon o weithgareddau cymdeithasol.
08.09.22 Sesiwn o ganu i'r plant lleiaf
Dyma sesiwn o ganu i'r plant lleiaf un, a'u hoedolion ! Dowch i ganu'r hen ffefrynnau - yn gwbwl anffurfiol a hwyliog. Geiriau ar gael, ond croeso i chi gynnig eich ffefrynnau hefyd !
Diolch am nawdd Mantell Gwynedd rydym yn gallu cynnig sesiynau 'Morio Canu' am ddim. Bydd thema gwahanol i bob sesiwn, a'r un fformat anffurfiol. Does dim angen llais o safon, dim ond llais i godi'r to !
Sesiynau eraill arfaethedig yw : caneuon o'r ffilm; Beatles, Tebot Piws, emynau, caneuon o'r rhyfel.. yn y bôn, beth bynnag dach chi isio canu !
1.09.22 Ein sgwrs haf olaf :
Eleni rydym yn cynnal 'bonws' ac ymestyn ein tymor sgyrsiau haf i fis Medi.
Berian Elias sy'n yn dod atom i sôn am Gasgliad y Werin Cymru' - prosiect digideiddio hanes o bob man er mwyn dangos gogoniant ein gorffennol i'r 'oesoedd a ddêl'. Gyda digon o luniau deniadol, hanesyddol i'n diddanu, peidiwch â cholli hwn. Dowch yn llu i fwynhau'r wledd !
11.09.22 Taith gerdded Porth-dinllaen Pnawn Sul Medi 11eg 2022
Bydd ein daearegydd poblogaidd Daniel Evans yn arwain taith gerdded ar benrhyn Porth-dinllaen - gan ein tywys trwy ddaeareg yr ardal gyfoethog hon. Rhaid cofrestru ymlaen llaw - a'r cyntaf i'r felin bydd hi, felly cysylltwch â ni heddiw!
25.08.2022 Newid i'n rhaglen
Nos Iau 25 Awst - 7pm.
Ymddiheuriadau, ond newid i'n rhaglen, oherwydd salwch Matt Jones.
Bydd cyflwyniad yn Saesneg ar ein Hamgueddfa, yn cynnwys pwt o'i hanes, datblygiadau diweddar, a thrafodaeth ar syniadau i'r dyfodol...noson hamddenol.
22.08.2022 - Bore Iau 25 Awst: Digwyddiad olaf #haf o hwyl yma eleni
Dyma digwyddiad olaf #haf o hwyl yma eleni: Sesiwn sgwennu a stori gyda Casia Wiliam. Yn hogan leol, ynhelir yn y Gymraegyn awdures ac yn ferch i awdures, pwy gwell na Casia i ddod atom ni i gynnal y sesiwn hwyliog hwn ! addas i blant 6oed a hýn, am ddim, diolch i 'n Llywodraeth a Chyngor Gwynedd, felly dowch draw 10.30-12 i fwynhau stori dda, enwau ymlaen llaw os yn bosib plis afllmm@yahoo.com / 07917700851.
18.8.2022 Helfa Natur gydag Anita Daimond
Dowch yn llu i chwilota yn y fynwent a chael hyd i ryfeddodau natur.
Yn addas i'r teulu cyfan. 10-12 y bore. Enwau i'r Amgueddfa ymlaen llaw os gwelwch yn dda. Un o weithgareddau #hafohwyl : am ddim diolch i grant gan ein llywyodraeth.
18.8.2022 Tir a Thywysgog
Dowch i wrando ar y dihafal Bob Morris yn siarad am gyfraniad gwlad Llŷn i waith ein Tywysogion yn y canol oesoedd. 7pm, lluniaeth ar gael cyn y cyfarfod).
(Traddodir y ddarlith yn y Gymraeg, ond bydd yn addas i siaradwyr newydd lefel Canolradd +)
Mynediad £3
11.08.22 Y Dewr, Y Da, a'r Dieflig!
Y busnes hel achau 'ma !
Dewch i wrando ar Dafydd Wigley yn datgelu hanesion rhai aelodau ei deulu mewn sgwrs gyda'r teitl awgrymog -' y dewr, y da - a'r dieflig !
26.07.22 Mae arddangosfa newydd Merched y Mor ar agor!
Mae arddangosfa newydd Merched y Mor ar agor! Agorwyd yn swyddogol gan Elinor Ellis, merch Moraned Williams, a gafodd ei geni ar y llong hwylio Langdale yn 1909, a gor-nith Ellen Owen, un o'r merched yn y ffilmiau.
04.08.22 Sgwrs yn Saesneg gan y Dr Duncan Cameron
Mae ein tymor o sgyrsiau haf 2022 yn dechrau gyda sgwrs yn Saesneg gan y Dr Duncan Cameron, dyn a fu'n allweddol yn hyrwyddo'r 'Welsh Camino', sef llwybr gogleddol y pererinion o Abaty Basingwerk ger Treffynnon draw i Borth Meudwy a draw i Ynys Enlli. Dowch i deithio hyd y llwybr - heb chwysu dim!
Dogfen i'w ddod yn fuan....
25.07.22 - 22.08.22 Haf o Hwyl - Dwyfor
26.07.22 a 13.08.22 Merched y Môr
Mae cyfraniad merched i hanes wedi bod yn guddiedig tan yn ddiweddar, ond rydym o ddifrif am newid hyn ! Dyma ddwy ddarlith i agor cwr y llen ar rôl merched mewn cymdeithas. Bydd ein Harddangosfa newydd yn son yn benodol am gyfraniad Merched yn lleol yn agor ym mis Gorffennaf.
Mae'r dyddiad ar gyfer sgwrs Dr. Mari Wiliam wedi newid o'r 30ain o Orffennaf i'r 13eg o Awst. Cewch gyfle i ddysgu mwy sut newidiodd rol merched mewn cymdeithas yn ystod yr un cyfnod a mae'r ffimliau yn y bwth 'Merched y Mor' yn canolbwyntio arno.
- Merched y Môr
Mae'r dyddiad ar gyfer sgwrs Dr. Mari Wiliam wedi newid o'r 30ain o Orffennaf i'r 13eg o Awst. Cewch gyfle i ddysgu mwy sut newidiodd rol merched mewn cymdeithas yn ystod yr un cyfnod a mae'r ffimliau yn y bwth 'Merched y Mor' yn canolbwyntio arno.
04.08.22 Steddfod Hwyliog
Wedi methu â mynd i Dregaron eleni? Dim ots, ty'd draw i'r Amgueddfa am dipyn o hwyl yr Wŷl. Cyfle i serenu ar y gystadleuaeth chwibanu? dawns y llong? creu sianti môr? crefftau pum munud? gwneud tric? deud stori? ? Addas i blant dros 3oed - yng nghwmni oedolyn. Enwau'r plant a'u hoedran ymlaen llaw ogydd er mwyn llunio rhaglen addas.
04.08.22 - 25.08.22 Paid â bod 'bored' dros y gwyliau ! Sesiynau plant difyr yma!
Sgyrsiau haf difyr yn ol eleni !
Mae'r Amgueddfa yn falch o gyhoeddi ailddechrau cynnal ein sgyrsiau haf poblogaidd eleni, wedi bwlch o ddwy flynedd. Beth bynnag, oherwydd pryder parhaol y Covid byddwn yn cyfyngu ar y nifer o seddi, felly i fod yn siwr o le bydd modd cofrestru ymlaen llaw trwy gysylltu â'r Amgueddfa.
23.07.22 Creu Castell Tywod
Gwobrau i'r enillwyr a thystysgrifau i bawb!
23.07.22 Dewch ar Helfa Drysor i ddysgu mwy am dref hynafol Nefyn!
Dyma gyfle arall i bawb ddod ar helfa drysor ar droed Nefyn! Peidiwch a cholli allan!
14.07.22 Dysgu Cymraeg ? Tyrd i Gerdded
O Lan mor Trefor i Draeth Gorllwyn
09.07.22 Gwyl Ganoloesol Madrun
11:00 - 16:00 Mynediad am ddim
01.06.22 Hanner Tymor 2022
Gweithgareddau plant 'miri madrun' yfory wedi ei ganslo, dim digon o ymrestriadau.
Taith Gerdded i Garn Fadrun
Mae'r tywysydd poblogaidd Dawi Griffiths yn parhau gyda'i gyfres o deithiau i gopaon Llŷn.
Eleni rydym am gerdded i ben Garn Fadrun.
Y dyddiad : Sadwrn Mehefin 11eg am 11am.
Pris £5.
Cysylltwch â'r Amgueddfa i gofrestru / neu am ragor o fanylion.
Taith Gerdded i Fryngaer Gaer Fadrun
30.04.22 Arddangosfa Blue Funnel yn agor
30ain Ebrill - 17eg Gorffennaf
1-4 y.p. Mawrth-Sul (a Dyddiau Llun Gwyl Banc
Mynediad Am Ddim
25.04.22 Cyfarfod cyffredinol blynyddol. (AGM)
Cynhelir cyfarfod arbennig agored i'r cyhoedd ar nos Lun 25ain o Ebrill am 7pm yn yr Amgueddfa. Croeso cynnes i bawb.
30.04.22 Arddangosfa o bwys i Gymru!
Mae'r amgueddfa hon yn falch i gyhoeddi y bydd arddangosfa arbennig yn agor ar Ebrill 30, sef Stori'r Welsh Navy, y Blue Funnel line, (neu 'r' Blw Fflw, ar lafar gwlad). Peidiwch â cholli hon! Rhagor o fanylion i ddod yn fuan.
13.04.22 Sgwp i'r Amgueddfa!
Nos fercher 13eg Ebrill cynhelir cyfarfod arbennig yng nghwmni 'r darlledwr ac archeolegydd enwog Julian Richards. Ei bwnc fydd ' Stonehenge:the story so far... ' Peidiwch â cholli'r cyfle i glywed y diweddaraf am y cerrig enigmatic hyn yng nghwmni arbenigwr ar y pwnc sydd wedi ymchwilio a chyhoeddi' n helaeth am dros ddeugain mlynedd.
12.04.22 Helfa Drysor Nefyn
Dewch ar daith o amgylch tref Nefyn i chwilio am gliwiau ac ateb cwestiynau!
Dewch draw i Amgueddfa Forwrol Llyn, Nefyn rhywbryd rhwng 1 a 2 o'r gloch ar 12fed Ebrill i ddechrau eich taith
£4 y tim
Darlith Herbert Wilson
Born in Nefyn : Herbert Wilson scientist famous for his pioneering work in DNA. We are proud to hold a zoom lecture on this eminent native of Nefyn. It will be in Welsh, but learners of a good standard will be able to follow the gist ad are very welcome.
i dderbyn y ddolen cysylltwch gyda'r amgueddfa trwy ebost afllmm@yahoo.com neu trwy'r wefan:
Cyfeiriannu : neu, paid byth a mynd ar goll !
Gweithgarwch hwyliog, hanfodol i bobl ifanc 10-13oed trwy'r Gymraeg.
Dydd Sadwrn Mawrth 26 yn cychwyn o'r Amgueddfa. ac yn mynd i - bwy a wyr ! dan arweiniad Gwydion Tomos, 'Ar y Trywydd'.
Rhaid cofrestru gyda'n partner, HUNANIAITH. hunaniaith@gwynedd.llyw.cymru
HANNER TYMOR MIS CHWEFROR
Newyddion da i rieni : mae ein gweithgareddau poblogaidd i blant yn dychwelyd !
Rydym wedi derbyn grant i gynnal dau ddigwyddiad ar gyfer plant 7-11oed yn ystod hanner tymor mis Chwefror . Lle cyfyngiedig, felly anfonwch air mewn da bryd i gadw lle i'ch plentyn.
1. Mercher 23ain o Chwefror, 2-4pm :
Stori'r Sgerbwd - mwy nag esgyrn.
Cyfle i weld sgerbwd go iawn, clywed beth o'r hanes ei ddarganfod, chwilota am ei stori a gwneud tipyn o waith celf a chrefft - i gyd mewn 2awr ! £2 yn unig yn cynnwys diod a ffrwyth.
2. Gwener 25ain o Chwefror, 10-1pm :
Ar lan y môr - llanw a thrai
Cerdded o'r Amgueddfa lawr i'r traeth i chwilio am bob math o greaduriaid yng nghwmni'r naturiaethwraig Anita Daimond, ychydig o hanes y diwydiant adeiladu llongau ers talwm cyn dychwelyd am bicnic yn yr Amgueddfa a chyfle i drafod a chofnodi'r trysorau. (£2 yn cynnwys diod).
Mae taflen wybodaeth bellach ar gael trwy gysylltu afllmm@yahoo.com