Archif Newyddion
Taith Gerdded i Ddysgwyr Cymraeg
Am dro o gwmpas tref hynafol Nefyn Medi 25, 2pm
Mae'r Amgueddfa yn falch o gydweithio gyda Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd) i gynnal taith gerdded o amgylch
ein tref ddifyr a llawn hanes.
Meinir Pierce Jones fydd yn arwain y daith, a bydd yr iaith yn addas i ddysgwyr y Gymraeg. Rhaid cadw lle ymlaen llaw trwy gofrestru gyda
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Taith Gerdded
Ar lan y môr o Nefyn i Bodeilias efo ychydig o ddaeareg
Gan fod y daith ddiwethaf wedi ei dileu oherwydd tywydd gwael,
dyma ail gyfle ar Ddydd Sul Medi 13 am 1.30 yp
Mae cofrestru yn angenrheidiol gyda danevans1969@hotmail.co.uk
Dim mwy na 15 i gymeryd rhan
Cost £5 (£2 i blant))
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Mi fydd Amgueddfa Forwrol Llyn Nefyn yn cynnwys y siop ar caffi bach ar agor bob dydd sadwrn trwy'r Gaeaf 10:30 y.b.- 4:00 y.p.
Dosbarth i Oedolion creu addurn bwrdd hardd ffres ar gyfer y Nadolig gyda Doris Hughes (22.12.18)
Prynhawn Sadwrn yr 22 ain o Ragfyr rhwng 1:00 -3:30 mae yna ddosbarth i Oedolion creu addurn bwrdd hardd ffres ar gyfer y Nadolig gyda Doris Hughes £10 y pen sy'n cynnwys paned a mins pei. Ffoniwch 01758 721 313 i archebu lle.
Sesiwn Cardiau Nadolig i blant (08.12.18)
Prynhawn Sadwrn yr 8 fed o Ragfyr rhwng 2:00-3:30 mi fydd yno Sesiwn Cardiau Nadolig i blant 4 i 12 oed gyda Menna(Cardiau Menna) £2 y pen cynnwys diod a bisged.Ffoniwch 01758 721 313 i archebu lle
Amgueddfa wedi cau (01.11.18)
Ymddiheurwn na fyddwn yn agored heddiw; mae’r system wresogi wedi torri.
‘Merched a’r Môr’
Nos Iau 16 Awst
Sgwrs 2
Manon Eames
£3.50 y pen yn cynnwys panad
Yn yr Amgueddfa
TAITH BWS LLÊN GWERIN GLANNAU LLŶN
Dan arweiniad Llyr Titus
15ed o Orffennaf 2018
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
TAITH GERDDED YN ARDAL LLANBEDROG
Dan arweiniad Gwenan Roberts
1af o Orffennaf 2018
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Cliciwch yma i weld poster
RHAGLEN WEITHGAREDDAU 2018
Rhaglen Weithgareddau Amgueddfa Forwrol Llŷn 2018
Blwyddyn y Môr
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
COFFI A SGWRS
Coffi a Sgwrs
gan awdur The Ancient Wells of Llŷn
Mr Roland Bond
SADWRN 28 EBRILL 11.00am
AM DDIM
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
MAE'R AMGUEDDFA YN AGOR!
Arddangosfa wych o fywyd y mor
Bar Coffi
Mercher i Sul
10.30am-4.00pm
AM DDIM
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Swydd dymhorol ran amser yn Amgueddfa Forwrol Llyn
Mae Amgueddfa Forwrol Llyn yn chwilio am:
1st met
Swydd dymhorol ran amser yn Amgueddfa Forwrol Llyn
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Swydd dymhorol glanhawr ar gael
Mae’r Amgueddfa angen rhywun i wneud gwaith glanhau, cyn i ni agor ar gyfer y Pasg, ac wedyn yn rheolaidd trwy’r haf tan ddiwedd mis Hydref. Rydym angen rhywun cydwybodol a gonest. Am sgwrs bellach a ffurflen gais cysylltwch â Meinir Pierce Jones, Rheolwr Dyddiad cau 10 Mawrth. Gallwch anfon neges i Facebook yr Amgueddfa neu ffonio 07769928268Datblygiadau cyffrous yn 2018!
Fel y gwelwch o’r lluniau, mae criw wedi bod yn brysur iawn yn yr amgueddfa yn pacio, lapio a gorchuddio popeth. Pam? Wel, yn ystod ail wythnos Ionawr bydd gwaith adeiladu yn dechrau i godi storfa ail lawr dros ran o’r adeilad (uwchben y caiff a’r siop) i storio ein casgliad creiriau. Golyga hyn y cawn symud y casgliad o’r siop wag lle maen nhw’n cael eu cadw ar hyn o bryd i ddiogelwch yr amgueddfa. Bydd y gwaith wedi ei orffen erbyn i’r amgueddfa ailagor ar gyfer y Pasg.
I weld mwy o luniau - cliciwch yma
Raffl Flynyddol
Llongyfarchiadau i Mr Graham Deakin, Croesoswallt, enillydd y brif wobr yn ein Raffl Fawr Flynyddol sef peintiad dyfrlliw gwreiddiol o Eglwys Santes Fair gan Denise Henry. Y gwobrau eraill oedd: ffon fugail – Mr Gareth Cowell, Bangor; te i ddau yng Nghaffi Ni – Mr Gwilym Jones, Nefyn a photel o jin Hendricks – Mr R H Williams, Maidenhead
Cymru a'r Mor 2017
Aberystwyth
Dydd Sadwrn Hydref 28
Mynediad am Ddim - Croeso Cynnes i Bawb
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Cliciwch yma i weld y rhaglen
Cardiau Nadolig
Mae’r Amgueddfa wedi cynhyrchu cardiau Nadolig dwyieithog arbennig o waith yr arlunydd Denise Henry eleni. Rydym yn eu gwerthu am £1 yr un neu 6 am £5. Gallwn anfon gwerth £5 neu fwy i chi drwy’r post. Archebwch rhag blaen i osgoi siomiant.
Cliciwch yma i weld yr cerdyn
Arddangosfa Hanes Y Clio
16 Medi tan 30 o Hydref
Ar agor: 10:30yb - 4:00yp
Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth
Sgwrs: Lord Nelson a fi: y garwriaeth
Meinir Pierce Jones
Nos Iau 31:08:17 7.30pm
Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth
Sgwrs: The Wreck of the Royal Charter
Mr Peter Day
Nos Iau 23:08:17 7.30pm
Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth
Sgwrs: Oes ’na le i hogyn fynd yn llongwr?
Dr Huw Roberts, Caernarfon
Nos Iau 17:08:17 7.30pm
Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth
Sgwrs: Archaeological Dig at Meillionydd
Raimund Karl & Katharina Moller
Nos Iau 10.08.17
Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth
Sgyrsiau Haf
Mae ein Sgyrsiau Haf yn dechrau nos yfory, nos Iau 3 Awst. Bydd Nerys Kimberley yn dweud ei hanes yn hwylio'r Iwerydd yn y cwch Ghost Rider. 7.30 yn yr Amgueddfa. £3.50 yn cynnwys paned. Croeso cynnes i bawb
Gwobr Trysor Cudd
Cliciwch yma i weld y tystysgrif
Bore Coffi
Cynhelir Bore Coffi fore Sadwrn 10 Mehefin o 10.30 tan 12.00.
Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth
Arddangosfa Mis Mehefin
Edrych ymlaen at fis Mehefin, a rhywbeth gwahanol! Bydd yr arddangosfa yn cychwyn efo Bore Coffi ar 10 Mehefin - croeso i bawb. Bydd y lluniau ar werth.
Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth
Amseroedd Agor
Bydd yr Amgueddfa yn agor eto dydd Sadwrn 8 Ebrill. Byddwn yn agored dros bythefnos gwyliau'r Pasg (Mercher i Sui) ac wedyn yn agor bob dydd Gwener/Sadwrn/Sul tan wyliau'r Sulgwyn, pan fydd amserlen yr haf yn dechrau (Mercher i Sui tan 30 Medi).
10.30am-4pm MYNEDIAD AM DDIM
Rhaglen Haf 2017
Cliciwch yma i weld y rhaglen
Claddu Am Hanes
Arddangosfa o Ddarganfyddiadau Archeolegol Diweddar Yr Amgueddfa
Gyda ffilm o Nefyn trwy'r oesoedd yn dangos 11.30 yb a 3.00 yp
dydd Mercher i dydd Sui, 15fed Ebri/1 tan 4ydd Mehefin
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Ahoi!! - Diwrnod Môr-ladron
Parti mawr i fôr-ladron bach!
Y Ganolfan, Nefyn
Sul 9fed o Ebrill — 2.00-3.30—£3
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Gwirfoddoli gyda’r Amgueddfa
Dyma Gethin Jones o Nefyn sydd wedi bod yn gwirfoddoli yn yr amgueddfa fel rhan o'i gwrs Bagloriaeth Gymreig yng Ngholeg Meirion-Dwyfor. Rydym wedi bod yn ddigon lwcus i dderbyn set gyflawn bron o'r Llanw, a bu Gethin wrthi yn rhestru eitemau o ddiddordeb lleol. Sylwodd fod yna ddau rifyn o'r Llanw ar gyfer Chwefror 1986. Pam, tybed?!
Tybed a hoffai rhywun arall wirfoddoli i barhau efo’r gwaith yma? Cysylltwch â ni os oes diddordeb gennych chi.
Enillydd ein raffl blynyddol ydi Elan Wyn Evans o Nefyn
Enillydd ein raffl blynyddol ydi Elan Wyn Evans o Nefyn. Mae’r llun yn waith gwreiddiol gan Caroline Dovey, Myfyr Mawr Dinas, sy’n gwirfoddoli yn yr amgueddfa bob haf ac yn aelod o’r grŵp Arlunwyr Sarn. Mae Elan wrth ei bodd efo’r llun o Ynys Enlli a gobeithio y caiff hi a’r teulu fwynhad mawr o edrych arno ar wal eu cartref.
Taith Bardd Mewn Bws: Y Môr a'i Donnau
Llenyddiaeth a chwedlau ardal Nefyn
Prynhawn Sul 12 Chwefror 2017
1.00pm - 4.15pm
Amgueddfa Forwrol Llŷn
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Gweithdy Addurniadau Nadolig
Tachwedd 19
10:30-12yh
7-11 oed
£3
Gyda Bethan Roberts
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Amgueddfa wedi cau nawr dros y geaef
Mae'r amgueddfa wedi cau nawr dros y geaef ond byddwn yn ailagor erbyn gwyliau'r Pasg. Os hoffech ymweld yn y cyfamser ffoniwch 07917700851 neu yrru neges destun i'r un rhif.
Dic Goodman gyda’i gyfaill, y diweddar John Arfon Huws, Bwlchtocyn
Dic Goodman gyda’i gyfaill, y diweddar John Arfon Huws, Bwlchtocyn. Treuliodd y ddau aml awr ddifyr yn adeiladu a rigio’r nobis yma. Nhw ill dau hefyd a luniodd y ddau englyn i’r Ifa a’r Hannah – roedd yn ddau ohonynt yn feirdd da ac yn greadigol mewn mwy na un ystyr! Dewch draw yr wythnos nesa i weld ein harddangosfa modelau mawr. Cewch groeso cynnes a 10% i ffwrdd yn y siop a’r caffi. Byddwn yn agored bob dydd rhwng 21 Hydref a 30 Hydref o 10.30 y bore tan 4 o’r gloch.
Gwyl Amgueddfeydd Cymru
Dewch i weld ein modelau mawr!
Agored bob dydd 21-30 Hydref
10.30am - 4pm am ddim
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Taith Gerdded Elizabeth Watkin-Jones
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Taith Gerdded Ddaearegol
Cawsom Daith Gerdded hynod ddiddorol bawn Sul 18 Medi dan arweiniad Dr Daniel Evans. Buom yn cerdded trwyn Cilan ac yn dysgu am ddaeareg yr ardal hon yn cynnwys olion hen waith manganîs bach ac un elfen hynod brin o’r enw ‘angular unconformity’! Cadwodd y glaw draw tan y diwedd un ac roedd pawb o’r criw wedi mwynhau'r daith yn fawr iawn.
Arddangosfa Archeolegol
Mae'r arddangosfa'r Amgueddfa o'r darganfyddiadau archeolegol ar safle'r Santes Fair wedi cael ei gohirio tan y gwanwyn nesaf. Byddwn yn ei hysbysebu ddigon ymlaen llaw.
Gwirfoddolwyr y Mileniwm
Dyma Llio Mererid Owen a Mared Erin Jones (o boptu i Luned Bengoch!) dwy fyfyrwraig leol sy'n gwirfoddoli gyda'r amgueddfa ac yn rhan o'r cynllun Gwirvol - Gwirfoddolwyr y Mileniwm. Mae'r cynllun yn un gwych - mae'r amgueddfa yn manteisio ar eu brwdfrydedd a'u diddordeb a hwythau yn cael profiadau gwerthfawr ar gyfer byd gwaith. Diolch o galon, genod!
Taith Gerdded Ddaearegol o gylch Cilan
Ffoniwch yr amgueddfa i gadw lle ar y daith 01758 721313
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Pnawn o hwyl a mwy
Awst 31, 14.00-15.45
4-11 oed £1.50
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Celfwaith Cerrig
Awst 24, 14.00-15.45
5-11 oed £1.50
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Gweithdy Haf i'r Plant
17eg o Awst 2-3.45yh
Amgueddfa Forwrol Llyn, Nefyn
Hwyl gyda Ffelt gyda Bethan Roberts
£1.50
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Digwyddiadau Hâf 2016
Gweithdai Hâf i'r Plant a Sgyrsiau Hâf Amgueddfa Forwrol Llŷn
Cliciwch ar y posteri am fwy o wybodaeth
Achrediad!
Yn ddiweddar derbyniodd Amgueddfa Forwrol Llŷn y newyddion gwych ein bod bellach yn amgueddfa achrededig. Ailagorodd yr amgueddfa ym mis Gorffennaf 2014 yn dilyn cyfnod o ailddatblygu ac ers hynny mae’r Pwyllgor Arteffactau wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau’r statws arbennig yma. Mae’r Cynllun Achredu yn gosod safonau a gytunir yn genedlaethol, sy’n ennyn hyder yn y cyhoedd a chyrff llywodraethu ac ariannu, ac yn galluogi amgueddfeydd i asesu eu perfformiad a datblygu eu gwasanaethau.Yn y llun (o’r chwith i’r dde):
Gwerfyl Gregory
Margaret Adkins
Jilly Roberts
Elinor Ellis
Meinir Pierce Jones (Rheolwr)
Noson Shantis
Nos Wener 05.08.16 7.30yh
Yn yr Amgueddfa £5
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Profiad Gwaith
Dyma Arwel Roberts o Goleg Meirion-Dwyfor, Llandrillo-Menai a fu’n gwneud Profiad Gwaith efo ni yn yr amgueddfa. Bu’n ymchwilio i hanes bad achub y George Moore, Porthdinllaen (gweler yn y llun y botel ddŵr oedd arni) ac yma gwelir Arwel wrth ymyl model o’r llong hwyliau Eivion a wnaed gan ei daid, Mr Goronwy Davies o Rydyclafdy.
Cyfarfod Blynyddol
Cynhelir ein Cyfarfod Blynyddol yn yr amgueddfa nos Iau 14 Ebrill am 7.30 o’r gloch. Croeso cynnes i bawb.
Arddangosffa ddigidol Hwylio 'Mlaen
Mae ein harddangosffa ddigidol newydd sbon Hwylio 'Mlaen yn fyw rwan - cliciwch yma
Here are a few taster photos
Hwylio 'Mlaen 2015-16
Bydd yr arddangosfa hon ymlaen drwy fis Mehefin. Cofiwch ddod i weld. Mae’n portreadu pobl ifanc yr ardal sy’n gweithio ar y cefnfor neu’n lleol mewn gwaith morwrol heddiw.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Hwylio 'Mlaen 2015-16
04/06/16-30/06/16 yn Amgueddfa Forwrol Nefyn
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Bore o Hwyl i Blant
Dydd Iau 2 Mehefin yn Amgueddfa Forwrol Nefyn
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Taith Gerdded Elizabeth Watkin-Jones 24 Ebrill
Mae lle o hyd ar ein taith gerdded arbennig ddydd Sul 24 Ebrill am 2 o'r gloch yng nghwmni Dafydd Rhun drwy fro enedigol Elizabeth Watkin-Jones. Cychwyn o'r amgueddfa am 2 o'r gloch - taith tua awr a hanner i ddwy. £3.00. Gyrrwch neges neu ffonio 0791 7700851 i ni gadw lle i chi.
Cyhoeddi 'The Captain's Wife'
Sadwrn 30 Ebrill 2016, yn Amgueddfa Forwrol Llyn, Nefyn
Cliciwch yma fam fwy o wybodaeth
Cyfarfod Blynyddol
Cynhelir ein Cyfarfod Blynyddol yn yr amgueddfa nos Iau 14 Ebrill am 7.30 o’r gloch. Croeso cynnes i bawb.
Elizabeth Watkin-Jones a'i Merched
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Agor Dros y Pasg
Byddwn yn ailagor ar gyfer y Pasg dydd Mercher 23 Mawrth.
Yr oriau ydi 10.30 y bore tan 4.
Dim tâl mynediad
Caffi a siop
Croeso cynnes iawn i bawb
Wal Newydd
Wal Newydd
Yn ystod misoedd Tachwedd, Rhagfyr a Ionawr gwnaed gwaith i ailadeiladu rhan o wal y fynwent sy’n amgylchynu Eglwys Santes Fair, Nefyn sy’n gartref i’r amgueddfa. Cwmni Peirianneg Gelli a fu’n gyfrifol am y gwaith, ac mae’r wal ar ei newydd wedd yn edrych yn ardderchog. Yn ddiweddarach, cynhaliwyd gwasanaeth byr yn y fynwent i ailgladdu’r gweddillion a ddaeth i’r golwg yn ystod y gwaith ar y wal.
Raffl Blynyddol
Tynnwyd raffl blynyddol yr amgueddfa ddiwedd 2015. Hoffai’r amgueddfa ddiolch i bawb a gefnogodd y raffl a gododd dros £750. Bydd ein raffl newydd yn dechrau ddiwedd Mawrth eleni.
Dyma’r enillwyr:
Darlun o Borth Dinllaen (rhoddedig gan Daniel ac Ann Evans): Mr Pete Scott, Hafoty, Edern
Taleb Pryd Bwyd £20 (rhoddedig gan Westy Nanhoron :) Mrs Mair Jones, Cartrefle, Nefyn
Taleb Petrol £15 (rhoddedig gan Siop a Garej Morfa): Mr Derek Cropper, Swydd Gaerhirfryn
Pecyn Anrheg (rhoddedig gan Cwrw Llŷn): Mr Dafydd Williams, Pen Morfa, Dinas Dinlle
Peiriant Paned Sydyn (rhoddedig gan Daniel ac Ann Evans): Miss Eileen Jones, 10 Nant y Felin, Nefyn
Gwaith ar y wal newydd o gwmpas yr amgueddfa
Mae gwaith ar y wal newydd o gwmpas yr amgueddfa o Stryd y Mynach i Stryd Llan yn mynd yn ei flaen yn dda er gwaetha’r tywydd gwlyb, a disgwylir y byddi cwmni Peirianneg Gelli wedi gorffen cyn diwedd mis Ionawr. Mae’r wal newydd yn edrych yn wych!
Ecoamgueddfa gyntaf Cymru
Mae’r Amgueddfa wrth ei bodd ein bod yn un o saith safle’r ecoamgueddfa yn Llŷn – ecoamgueddfa gyntaf Cymru. Llongyfarchiadau i Dr Einir Young a Gwenan Griffith am eu gwaith arloesol a’r wobr – Effaith Orau yn Ddiwylliannol a Chymdeithasol. Prosiect digidol yw hwn i hyrwyddo twrisitaeth ddiwylliannol, a thwristiaeth tu allan i’r cyfnod brig yn yr haf er mwyn dod ag incwm ychwanegol sylweddol i’r ardal.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
WOTGA
Fore Sadwrn 14 Tachwedd daeth criw o dywyswyr WOTGA (Wales Official Tourist Guides Association) i ymweld â’r amgueddfa gyda’u tywysydd hwytha, Rhys Mwyn, fel rhan o’u taith o gylch y gogledd, a Phenrhyn Llŷn. Roedd yn braf iawn eu cyfarfod, criw hwyliog a dymunol, a sefydlu cysylltiad gwerthfawr gyda’r grŵp yma i’r dyfodol. Yn y llun (ar y chwith) gwelir Buddug Jones, un o’r gwirfoddolwyr, a fu’n helpu ar y bore yng nghwmni Rhys Mwyn ac yn y llun arall, rhai o swyddogion WOTGA gyda Meinir P Jones, rheolwr y amgueddfa.
Y Nant a'i Phobl – DVD newydd yn ein cyfres Atgof Aur
Mae ein DVD sbon Y Nant a'i Phobl ar werth nawr o siop Llên Llŷn Pwllheli am £7.Neu gallwch archebu copi trwy ffonio'r amgueddfa ar 01785 721313. Arni mae rhai o drigolion a Nant yn sôn am eu bywydau cynnar yno, a cheir hanes y chwareli, a rhai o hen straeon y lle hudolus hwn. Presant Nadolig bach difyr!
'Y Nant a'i Phobl'
Dewch yn llu. Bydd yn bnawn difyr iawn. Ffoniwch 01758 721313 i ni gadw lle i chi. Bydd y ffilm yn anrheg Nadolig delfrydol i deulu a chyfeillion. Ar werth yn Llên Llyn Pwllheli neu drwy’r amgueddfa
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Aradgoch yn cyflwyno Hola!
Cliciwch yma for more information
Gweithgareddau Tymor yr Hydref Amgueddfa Forwrol Llŷn
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Arddangosfa Hen Luniau
Arddangosfa Hen Luniau Morfa Nefyn
16 Medi tan 11 Hydref 2015
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Gweithdy Plant
Bu’r gweithdy Crysau T i blant ar 19 Awst yn llwyddiant mawr! Mrs Joy Brown oedd yn arwain y gweithdy a chafodd y plant i gyd addurno eu crysau T eu hunain, a chael eu henwau wedi eu hargraffu mewn lliw ar eu cefnau.
Noson ‘From Mailships to Emails’
Sgwrs wedyn, Elinor Ellis a Pamela Stunt
Daeth tyrfa fawr ynghyd nos Iau 20 Awst i wrando ar sgwrs gan Elinor Ellis am y datblygiadau ym maes ceblau cyfathrebu tanfor, a phwysigrwydd y rhan yma o’r byd yn yr hanes. Cafwyd cyfraniad hefyd gan Pamela Stunt, y bu ei thaid yn rheoli’r orsaf gebl leol o’i swyddfa ym Morfa Nefyn.
Sgyrsiau Haf
Cofiwch am y Sgwrs olaf yn ein cyfres Sgyrsiau Haf eleni:
‘O Nefyn i Rio – Hanes Capten William Davies’ gan John Davies (ei ŵyr) yn yr Amgueddfa, nos Iau 27 Awst am 7.30pm
Mynediad yn £2.00. Croeso cynnes i bawb
'Y Mimosa a'r Fordaith Gyntaf'
Sgwrs gan Eirionedd Baskerville fel rhan o ddathliadau 150 mlynedd Patagonia
Ym Amgueddfa Forwrol Llŷn, Nefyn - Nos Iau 13 Awst
£2 yn cynnwys paned ar y diwedd
CROESO CYNNES IAWN I BAWB
Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Noson Shantis
Cawsom noson ardderchog yn yr amgueddfa ar 31 Gorffennaf, pan ddaeth y grwp Dros y Bryn draw i ddiddori’r gynulleidfa gyda chasgliad o shantis Cymraeg a Saesneg, a rîls hwyliog. Sesiwn acwstig oedd hwn, gyda gitârs, banjo, ffliwt a chonsertina ac roedd yn braf clywed y gynulleidfa yn ymuno mewn sawl cytgan fel ‘Yarmouth Town’ ac ‘Ar lan y môr’.
Chwilio am rywbeth i ddifyrru’r plant?
Amrywiaeth o weithdai hwyliog yn Amgueddfa Forwrol Llŷn Nefyn
Pob prynhawn Mercher - 2-4 o’r gloch
drwy’r gwyliau
Addas i blant 6-10 oed
I archebu lle ffoniwch 01758 721313 neu 07917700851
Cliciwch yma am ddyddiadau a mwy o wybodaeth
Taith Pererin Gogledd Cymru
Fel mae y rhan fwyaf ohonoch yn gwybod, mae’r Amgueddfa Forwrol ar lwybr y pererinion i Enlli sy’n ymestyn ar hyd gogledd penrhyn Llŷn. Mae Taith Pererin Gogledd Cymru wedi datblygu pasport tebyg i’r un a geir ar daith y pererinion i Santiago de Compostella yn Sbaen. Plant ysgolion cynradd ar hyd y daith o Basingwerk i Enlli sydd wedi cynllunio’r stampiau. Yn y llun gwelir Nicola Smith, hi yw’r gyntaf i gael stamp Nefyn ar ei phasport – llun clamp o bysgodyn nawr gwyrdd!
Taith Gerdded Ddaearegol i Borthdinllaen
Dydd Gwener Mehefin 19, 7yhByddwn yn cerdded yng nghwmni’r tywysydd Daniel Evans ar hyd y maes golff i Dŷ Coch
ac wedyn ar hyd llwybr y traeth i Draeth Careg yr Afr cyn dychwelyd ar hyd y maes golff.
Ceir trafodaeth wrth gerdded am y ddaeareg yn lleol ac yn gyffredinol.
Hyd y daith fydd 1.5 i 2 awr, a bydd cyfle i gymdeithasu wedyn yn y Clwb Golff. Does dim
angen runrhyw wybodaeth ddaearegol i ymuno â’r daith!
Cyfarfod ym maes parcio Clwb Golff Nefyn yn barod i gychwyn am 7yh
Gwisgwch esgidiau a dillad addas
I lawrlwytho y poster - cliciwch yma
Noson i fusnesau lleol
Dydd Mawrth 19fed am 9 o'r gloch
Cliciwch y llun am fwy o wybodaeth
Premiere Nefyn
Mehefin 9 7.00yh
Y cyfle cyntaf i weld animeiddiad anhygoel Dylan Williams Stiwdio Trawscoed o hanes Nefyn drwy’r oesoedd.
Bydd Dylan yn sgwrsio gyda Daloni Metcalfe am y broses o greu’r ffilm
Cliciwch ar y poster am fwy o wybodaeth
Gwyliwch y rhagflas o’r ffilm ar Youtube
Rhan o ddathliadau 150 mlynedd sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia
7 Mehefin 2015 am 2 o’r gloch
Taith Gerdded o gwmpas Nefyn yng nghwmni John Dilwyn Williams a the i ddilyn yn yr Amgueddfa
C R Archaeology - 13th century cist burial at Nefyn church, North Wales
"St Mary's Church, Nefyn, North Wales is believed to have been founded in the 6th century although the current building was built by the Victorians in 1825-27. Recent underpinning required the services of of C.R Archaeology."
Cliciwch yma i ddarllen yr erthygl i gyd
Agor dros y Pasg!
Bydd yr Amgueddfa yn agor dydd Gwener 27 Mawrth dros y Pasg. Oriau agor 10.30 tan 4pm. Ar gau 30 a 31 Mawrth. Ar agor Dydd Llun y Pasg. Bydd y caffi yn agored ac mae gennym le eistedd allan. Ar ôl hyn byddwn yn agored bob dydd Gwener, Sadwrn a Sul tan y Sulgwyn pan fydd oriau agor yr haf yn dechrau.
Swydd Ran Amser Dros Dro
Mae'r Amgueddfa yn awyddus i benodi rhywun i weithio'n rhan amser, dros dro yn ein caffi a siop dros y Pasg, ar benwythnosau ac yn ystod yr haf. Gyrrwch neges e-bost os oes gennych ddiddordeb cgaph neu ffoniwch 01758 720430
Dan Don o Hiraeth – Hanes Brodyr Tir Dyrys
Sgwrs gan Rhian Williams
Dim tâl mynediad.
Raffl.
Bydd paned ar gael ar y diwedd.
Cynhelir ein Cyfarfod Blynyddol am 6.30pm yno yr un noson. Croeso cynnes iawn i bawb
Amgueddfa Forwrol Llŷn, nos Wener 27 Mawrth : 7.30pm
Am fwy o wybodaeth - cliciwch yma
Cwch Chwarae wedi Cyrraedd
Bu prysurdeb mawr yng nghwrtil yr amgueddfa ddiwedd mis Chwefror pan ddaeth Alice Midmore, saer ifanc o Dregaron sydd wedi treulio cyfnod yng ghanolfan Sgiliau Traddodiadol Felin Uchaf Rhoshirwaun yn dysgu ei sgiliau saer coed, draw i roi’r cwch chwarae a ddyluniwyd ac a adeiladwyd ganddi, at ei gilydd yn ei briod le. Cwch o dderw a llarwydd ydyw hwn, ar batrwm y stimeri a arferai gludo ithfaen o chwareli Nefyn i wahanol fannau ar hyd yr arfordir yn cynnwys Iwerddon. Rhoddwyd grant i adeiladu’r cwh gan Gronfa Ardoll Agregau Cymru.
I weld mwy o luniau - cliciwch yma
Tymor Pysgota
Mae rhaglen addysg yr amgueddfa i blant cynradd wedi cael dechrau da iawn dan arweiniad Dylan Evans. Mae yn cynnwys Cyflwyniad ar bysgota cynaladwy, sesiwn dysgu gwneud clymau, stori am ddau bysgotwr a aeth i drybini, a hanes pysgota penwaig. Os bydd amser mae yna helfa drysor hefyd.
Dylan Evans yn dangos ei bod yn hawdd gwneud clymau – os ydych chi’n gwybod sut! | Meinir Pierce Jones yn dysgu’r plant am hanes y diwydiant pysgota penwaig yn Nefyn |
Rydym hefyd wedi cynhyrchu llyfryn gweithgareddau, Pysgota yn Llŷn, a llyfryn Saffari Traeth ar gyfer bob disgybl a bydd fersiynau Saesneg o’r rhain ar gael ar gyfer ymwelwyr haf.
Clawr ein llyfryn Tymor Pysgota a wnaed gan Mirian Fflur, myfyrwraig o Nefyn sy’n astudio Celf ym Mhrifysgol Caeredin.
NOSON GAROLAU
Cynhaliwyd Noson Garolau yn yr amgueddfa nos Fercher 10 Rhagfyr a bu’n llwyddiant mawr a’r lle yn llawn dop. Cafwyd eitemau hyfryd gan Ann Hafod a Seimon Menai ynghyd â chanu cynulleidfaol. Mwynahodd pawb y glasiad gwin cynnes a mins pei yn ystod yr egwyl. Archebwch eich tocyn yn gynnar at y flwyddyn nesaf!
Mwy o luniau yma yn fuan...
CYFLE CYFFROUS!
Mae Amgueddfa Forwrol Llyn yn awyddus i benodi unigolyn neu dîm bychan i weithio’n llawrydd ar brosiect ffilm yn ystod misoedd agoriadol 2015. Os oes gennych ddiddordeb ffoniwch (01758 720430) neu e-bostio (meinir.pj@tiscali.co.uk) . Dyddiad cau 22 Rhagfyr.
Gwella sgiliau digidol
Daeth criw o wirfoddolwyr yr amgueddfa draw yno ar 17 Hydref i gael hyfforddiant gan Gwenan Griffith swyddog yr Ecoamgueddfa a chael hwyl wrth fynd ati i wella eu sgiliau ar y we.
Cynhelir y sesiwn nesa ar 10 Tachwedd am un o’r gloch y pnawn ac mae croeso cynnes i’n gwirfoddolwyr i gyd.
Gwyliau Hanner Tymor
Bydd yr amgueddfa yn agor yn ystod gwyliau hanner tymor o ddydd Mercher (29 Hydref) tan ddydd Sul (2 Tachwedd) rhwng 10.30 a 4 o’r gloch. Bydd y siop a’r caffi yn agored hefyd.
Os ydych yn dymuno ymweld yn ystod misoedd y gaeaf fel grŵp o tua 8 neu fwy, boed yn ystod y dydd neu fin nos, ffoniwch 0791 7700 851 i drefnu.
Swydd rhan-amser dros dro
Mae'r Amgueddfa yn awyddus i gael rhywun i weithio yn y caffi/siop yn rhan amser yn ystod mis Medi a Hydref - yn cynnwys bob dydd Sadwrn a dydd Sul.
Ffoniwch 07917700851 yn syth neu yrru neges.
Diolch
Meinir Pierce Jones
Rheolwr
Yr Agoriad Swyddogol 2014
Daeth tyrfa fawr lawen ynghyd yn Nefyn ar 19 Gorffennaf ar gyfer agoriad swyddogol yr Amgueddfa, yn dilyn blynyddoedd o waith caled i godi arian a phroffil y prosiect. Roedd y cyfarfod yng Nghapel Isa a chafodd pawb grwydro i lawr wedyn i’r amgueddfa i gael golwg o gwmpas cyn dod yn ôl i gael te croeso neu fwynhau glasiad o Gwrw Llyn yn y gasebo tu ôl i’r hen eglwys. Yn y seremoni, canodd y baledwr Harri Richards gân a ysgrifennodd y diweddar Joni Owen i’r hen amgueddfa fach nôl yn 1977, cafwyd darlleniad o’r gyfrol Growing up Among Sailors gan Roger Stephens Jones , rhoddodd Anna Georgina eitemau cerddorol ar ei thelyn a siaradodd y cyn-ficer Wheldon Thomas am yr hen amgueddfa. Agorwyd yr Amgueddfa ar ei newydd wedd gan yr hanesydd a’r darlithydd J Dilwyn Williams.
I weld mwy o luniau - cliciwch yma
Sgyrsiau Haf 2014
Gorffennaf 10
Wales And Llŷn In Naval History
J D Davies (E)
Awdur - Britannia’s Dragon: A Naval History Of Wales
Gorffennaf 24
Cymry’r Cunard A’r White Star
Ifan Pleming (W)
Awst 7
Ss Gwynfaen - 110 Years On
Oswestry Sub Aqua Club & Llŷn Sub Aqua Club
Awst 21
Hanes Fy Nhaid Yn Y Rhyfel Mawr
Daniel Evans (W)
Y Ganolfan Nefyn Am 7.30 o’r gloch
Dim Tâl Mynediad
Simultaneous Translation Available For Welsh Lectures
Am Fwy o wybodaeth - cliciwch yma
Cwch J Glyn Davies
Dyma luniau’r cwch a roddwyd i’r amgueddfa gan Dr John Llywelyn Williams, Bethesda (rhoddodd J Glyn Davies y cwch i’w dad o J O Williams). Mae’n cael ei adfer yn Henfordd gan Steve Parks o Maritime Models (www.maritime-models.co.uk). Nawr ei fod wedi gorffen y gwaith ar gorff y cwch mae yn cychwyn adfer y mastiau a’r hwyliau.
I weld mwy o luniau - cliciwch yma