Archif Digwyddiadau 2019
Crefftau Nadolig
Crefftau Nadolig cyfle i'r plant wneud cerdiau nadolig arbennig dan hyfforddiant Menna (Cardiau Menna). Bore Sadwrn Rhagfyr 14 - enwau i'r Amgueddfa trwy ebost neu adael neges ar y ffon £3.50 i gynnwys diod a ffrwythau.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Ychydig o lefydd ar ôl
Beth am ymuno gyda ni i wneud torch neu addurniad ffres chwaethus a naturiol i'ch cartref ar gyfer y Nadolig? Mae ychydig o lefydd ar ol ar y gweithdy dan hyffroddiant Marian, Siop Eluned, Pwllheli fore gwener nesaf (29ain) 10.30am. Pris £20 yn cynnwys yr holl andoddau a lluniaeth.
Cysylltwch i gadw'ch lle.
Llun/photo: Torch naturiol nadoligaidd gan Marian/ a seasonal wreath made recently by Marian.
RHAGLEN GWEITHGAREDDAU GAEAF 2019-20 NEWYDD
Dyma grynodeb o'n gweithgarwch dros fisoedd y gaeaf. Croeso cynnes i bawb ymuno a'r sesiynau amrywiol a difyr, a phob un er lles yr Amgueddfa - Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Gadewch neges ar y ffon, (01758 721 313) neu anfonwch e-bost i afllmm@yahoo.com gyda'ch ymholiad neu i sicrhau'ch lle /tocyn. Gwell byth, galwch heibio ar bnawn Sadwrn! Atebir pob neges o fewn 5niwrnod gwaith.
Pwythau Pwyllog
Ymunwch a ni fore Sadwrn yma (9/11/2019) yn yr amgueddfa am fore hamddenol o bwytho a sgwrsio. Beth bynnag yw eich hoff gyfrwng - brodio, gwnio, gwau, crosio, cwiltio, applique - mae croeso i chi ddod a'ch gwaith llaw gyda chi a mwynhau bore yng nghwmni pobl o'r un anian. Neu alwch heibio i gael ysbrydoliaeth ar gyfer prosiect newydd y gaeaf hwn!
10.30-12.00, £3 y sesiwn, croeso cynnes i bawb!
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Hyrwyddor'r Gymraeg
Mae 'r sesiynau sgwrsio anffurfiol wedi bod yn llwyddiannus ers eu dechrau yn ôl ym mis Mai, a'r newyddion da yw y byddent yn gallu parhau trwy fisoedd y gaeaf.
Dyma'r dyddiadau pwysig i'ch dyddiadur:
Tachwedd 30
Chwefror 29
Mawrth 28
Ebrill 25
Cofiwch, does dim rhaid aros am yr awr gyfan, galwch heibio unrhyw dro rhwng 11.00 a 12.00, mae croeso yn eich disgwyl!
Diolch yn fawr i'r Cymry lleol sydd wedi ymuno â ni. Mae cymathu yn holl bwysig.
Llun: bwrlwm sesiwn Hydref 2019
Hanner Tymor : Gweithgaredd i'r Plant - a chi!
Gyda hanner tymor ar y gorwel, rydym yn cynnig gweithdy arbennig dros ddau fore i greu model/collage i blant oed cynradd ac oedolion.
Pris £10 yn cynnwys lluniaeth i'r plant, paned i'r oedolyn a'r deunyddiau- bargen !
Rhaid cofrestru a thalu ymlaen llaw - cyntaf i'r felin .....
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Mared Llywelyn
Mae'r awdures leol Mared Llywelyn yn brysur iawn y dyddiau ma. Rydym yn ffodus iawn felly i gael ei chwmni yn yr Amgueddfa nos Iau nesa (19.9) am 7.30.
Testun ei sgwrs bydd sut mae hi wedi mynd ati i ymchwilio a sgriptio ei drama /sioe undyn ddiweddaraf, "Pwy sydd am fynd i'r mor?"
Comisiynwyd y ddrama gan gwmni 'mewn cymeriad' sy'n adnabyddus am gynhyrchu sioeau wedi eu seilio ar gymeriadau yn Hanes Cymru ar gyfer plant ysgol. Yn barod bu cynhyrchiadau clodwiw iawn yn dweud hanes Owain Glyndwr, Harri Tudur, Mari Jones, Buddug. Ond y tro hwn Eliseus Evans yw'r prif gymeriad.
Pwy, meddwch chi? Mared Llywelyn fydd yn ateb y cwestiwn hwn ac yn esbonio paham y bydd ei sioe yn cael ei pherfformio yma yn ein Hamgueddfa ni i ysgol yr ardal ...Dewch yn llu i gefnogi un o dalentau'r fro a'ch hoff amgueddfa! Mynediad £3
Harddangosfa ym mis Hydref:
Gwyliau o gwmpas Nefyn ddoe a heddiw
Mis Hydref 2019
Bob dydd Mercher i dydd Sul
10.30yb tan 4.00yp
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Noson Siantis
Mae'r noson Siantis wedi profi'n boblogaidd iawn yn y gorffennol ac rydym yn gobeithio cael criw da ohonoch on bord unwaith yn rhagor i godi'r angor - a chodi'r to - gyda noson hwyliog o ganu. Eleni, am y tro cyntaf rydym yn torri tir newydd trwy gael Cor Ceiri atom i gyflwyno detholiad o Siantis. Beth sy'n wahanol? Wel, genod yw Cor Ceiri, ond yn y dyddiau hyn o gydraddoldeb, pam lai !! Bydd cyfle i bawb ymuno yn yr hwyl, a darperir diod i iro'ch lleisiau. Dewch yn llu!
Tocynnau ar werth yn yr Amgueddfa, £5 oedolion a £2 i blant.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Y ffordd Dyrpeg i Borth - Dinllaen
Nos Iau, 29/8/2019
7.30pm,
Amgueddfa Forwrol Llŷn NEFYN.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
'Pilgrimage to Bardsey' (Traddodir y Sgwrs yn Saesneg)
Come and join us ! Relive the way of the pilgrims on their journey to Ynys Enlli/Bardsey
as related by
Andrew Jones (Vicar of Bro Enlli)
Dydd Iau 22/8/2019 7.30pm
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
SESIWN SADWRN GAEAF 2018-2019 AMGUEDDFA FORWROL LLŶN
Bydd yr Amgueddfa yn agored bob dydd Sadwrn drwy’r gaeaf rhwng 10.30 - 4 o’r gloch, a chroeso i bawb alw mewn, a mwynhau paned yn y caffi, siopa a gweld yr arddangosfa. Dyma’r digwyddiadau sydd wedi’u trefnu ar gyfer y tymor. Ffoniwch 01758 721313 a gadael neges neu yrru e-bost i afllmm@yahoo.com i gadw lle.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
I weld archif o hen ddigwyddiadau - Cliciwch yma