Archif Digwyddiadau 2025
Sgwrs gyda Jean Brandwood
Dewch draw i’r Amgueddfa ar nos Iau yr 11eg o Fedi am 7yh i glywed Jean Brandwood yn sgwrsio am ei llyfrau 'A Welsh Learner’s Ramble Along the Llŷn Coastal Path' ac 'A Welsh Learner’s Hill and Eisteddfod Ramble in Llŷn' a’r profiadau y tu ôl iddynt. Mynediad yn £5.
Darlithoedd 'O'r Môr i'r Mynydd'
Dewch draw i wrando ar bedair darlith sy'n rhan o brosiect 'Golwg ar Hanes Llŷn o'r Môr i'r Mynydd' dan nawdd Cronfa'r Degwm Cyngor Gwynedd, ar nosweithiau Iau am 7yh. Mae manylion y darlithoedd ar y poster.
Mordaith y Mimosa
Gan ei bod hi'n 160 mlynedd ers i'r Mimosa hwylio i Batagonia eleni, mae gennym arddangosfa newydd yma yn yr Amgueddfa. Mae plant Ysgol Nefyn wedi bod yn brysur yn plotio taith y llong ar fap o'r byd, ac yn gwneud gwaith ymchwil i gael ffeithiau am yr hanes. Felly dewch draw i'w weld!
                          
17.06.25 - CHWILIO AM WYBODAETH AM BENWAIG
Amcanion y project
Ein nod yw nodi mannau silio penwaig ym Mor Iwerddon drwy ddefnyddio ffynonellau hanesyddol (e.e., hen bapurau Newydd ac adroddiadau pysgodfeydd), gwybodaeth leol a data modern (e.e., mapiau'n nodi gwaddol gwely'r môr).
Wybodaeth sydd ei hangen 
				            
				          • Ble yn lleol y daliwyd y penwaig? 
				            • Pryd yn ystod y flwyddyn y cyrhaeddodd y penwaig? 
				            • Ble wnaeth y penwaig silio? 
				            • Sut oedd y penwaig yn cael eu defnyddio'n lleol? 
				            
Mae arnom angen eich help CHI! 
				            
				          Rydym yn chwilio am unrhyw un sydd gwybodaeth leol am benwaig, yn y gorffennol o'r presennol. 
				            • Y diwydiant pysgota - p'un a ydych yn rhan ohono ar hyn o bryd neu wedi ymddeol 
				            • Pysgotwyr mor 
				            • Y fasnach bysgod/diwydiant bwyd m6r 
				            • Haneswyr - lleol a morwrol 
				            • Asiantaethau’r llywodraeth a chyrff anllywodraethol 
Allwch chi gynnig unrhyw wybodaeth?
				            Neu'n adnabod rhywun a allai?
Cyswllt
20.05.2025 - Sgwrs Wirfoddoli
Ydych yn ystyried gwirfoddoli? Ddim yn siwr beth fyddai'n ei olygu?
Beth am alw draw i'r Amgueddfa am 2yp ar ddydd Mawrth yr 20fed o Fai am baned a sgwrs anffurfiol i weld beth sy'n bosibl.















