Archif Digwyddiadau 2021
Helfa Drysor
Ar ddydd Mercher, y 29ain o Ragfyr, byddwn yn cynnal helfa drysor drwy Lŷn i ddathlu fod goleudy Enlli yn dathlu ei benblwydd yn 200. Cewch ddewis eich trafnidiaeth; car, beic neu beth bynnag yr hoffech. £5 y tim yw'r gost, a bydd yr elw yn cael ei rannu rhwng yr Amgueddfa a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gallwch fwcio eich lle drwy ebostio afllmm@yahoo.com
Ffair Nadolig
Byddwn yn cynnal Ffair a Charol Nadolig ar ddydd Sadwrn 4ydd o Ragfyr, gyda'r Amgueddfa yn troi’n gaffi cabaret. Rydym yn cymryd ‘bwcins’ ar gyfer slot hanner awr. Am £3 y pen bydd paned a mins pei / bisged frau ac mi gewch eich hoff gân Nadolig yn cael ei pherfformio’n fyw o’r llwyfan yn arbennig i chi! Bydd y caffi yn agored o 10.30-4:00, felly dewiswch eich carol a'ch amser a bwciwch le ar gyfer y fenter newydd hon. Bydd raffl fawr (Hampr Nadolig), stondinau eraill, a nwyddau chwaethus ein siop gyda 10% disgownt. Gweithredir canllawiau Covid i’ch cadw yn ddiogel.
Gweithgaredd Awyr Agored Bore Sadwrn 27/11/2021
Ar lan y môr- llanw a thrai
Manylion:
Gweithgaredd ar gyfer plant 7-11oed oherwydd y pellter i gerdded yn bennaf. Caniateir plant iau, ond bydd angen i oedlyn gymryd cyfrifoldeb drostynt.
Rhaid cofrestru ymlaen llaw
Mae angen welingtons a dillad cynnes/glaw, a phecyn bwyd a diod.
Cyfarfod Amgueddfa Forwrol Llŷn, Nefyn 9.30yb i gerdded draw i’r traeth.
Bore: Helfa natur ar y traeth ( mor ar drai ); hanes y traeth
Cinio : yn ôl i’r Amgueddfa
I orffen : adolygu beth ddarganfuwyd, a chreu cofnod o’r hyn a gwelwyd.
Gorffen :tua 1pm
Arweinydd y daith yw’r naturiaethydd Anita (AnturNatur) Jina o’r Amgueddfa fydd yn ei helpu.
Archebwch: afllmm@yahoo.com 01758 721 313 / 07917 700 851 Pris : £2 y plentyn
Bydd newid i’r cynlluniau petai’r tywydd yn anffafriol
Dydd Sadwrn 30/10/21 Agoriad Swyddogol Madrun ein Sgerbwd
O'r diwedd ! Bydd pawb yn gallu gweld ein sgerbwd a'i bedd rhyfeddol yn dyddio yn ol i Oes y Tywysogion. Yn anffodus dim ond 15 o wahoddedigion fydd yn y seremoni agoriadol, felly rydym yn gobeithio 'ffrydio'n fyw' ar ein tudalen gweplyfr, am 2.30pm. Ond yn bwysicach - dowch draw i weld Mardun ein Sgerbwd a'n helpu ni i ddehongli ei hanes - rhowch 'Cnawd ar yr Esgyrn' ! Oriau agor Gaeaf : dydd Mercher a dydd Sul 11-3pm, neu ar gais i gymdeithasau/grwpiau.
Diolch i Gronfa'r Loteri a Garfield Weston Foundation am ariannu'r prosiect.
Madrun Ein Sgerbwd
O'r diwedd, mae'n amser i ni ddatgelu ein sgerbwd a'i bedd arbennig i chi.
Cynhelir yr Agoriad Swyddogol ddydd Sadwrn, ond mae 'na gyfle i bobl arbennig gael cipolwg sydyn ynghynt :
Gwirfoddolwyr ac Aelodau cynllun Cyfeillion yr Amgueddfa : ffoniwch i fwcio ymweliad bnawn Mercher 27ain;
Chwaraewyr y Loteri Genedlaethol : cewch chi gip o'r Arddangosfa newydd trwy ddangos tocyn loteri diweddar bnawn Iau 12-3pm;
Pobl Llŷn : dowch draw ar ol 4pm dydd Iau i'w gweld cyn dathlu noson g'langaea'.
Bydd adran newydd ar ein gwefan yn llawn hanesion am Madrun ein Sgerbwd cyn bo hir .. beth yw ei dirgelwch ?
Noson Glangaea' ar y cyd gyda'r Heliwr
Rhaid cofrestru i ddod i'r digwyddiad yn yr Amgueddfa (cyfyngiadau Covid) ac ar y daith gerdded (I&D). ebost neu alwad ffôn plis.
Newid amseroedd agor (dros dro)
Mae wythnos prysur o'n blaenau ! Gwyl Archeolegol LIVE, Gwyl Amgueddfeydd Cymru, Hanner Tymor AC dan ni'n agor ein Harddangosfa Newydd !
Newid amseroedd agor(22-30 Hydref)
Dydd Gwener 22ain : yn agored 12-4pm yn unig
Dydd Sul 24ain : oriau arferol (10-4pm)
Dydd Mercher 27 : Agored i'r cyhoedd 10-1pm yn unig
(Digwyddiad Madrun i Gyfeillion a Gwirfoddolwyr trwy drefniant yn unig yn y pnawn)
Dydd Iau 28 : 12-3pm Digwyddiad Madrun i Chwaraewyr y Loteri yn unig
Dydd Iau 28 : 4-6pm Digwyddiad Madrun i Bobl Lleol
Dydd Gwener 29 : Agored oriau arferol (10-4pm)
Dydd Sadwrn : Agoriad Swyddogol: Madrun ein Sgerbwd
Dydd Sul 31 : Agored oriau arferol (10-4pm).
Byddwn yn parhau i awyru, cyfyngu ar niferoedd a glanhau yn drwyadl er mwyn cymryd bob gofal o'n hymwelwyr.
Gweithgaredd Hanner Tymor Hydref 2021
Gwyl Archeolegol Llŷn
Mae'r Amgueddfa hon yn falch o fyd yn rhan o Wyl Archeolegol Llŷn a gynhelir 23-30 o Hydref dan arweiniad EcoamgueddfaLIVE'
Am ragor o fanylion dilynwch y ddolen : https://cy.ecomuseumlive.eu/ll%C5%B7n-archaeological-festival
Noson Sgwrs Rhithiol a Llun, Nos Fercher 20fed o Hydref am 7pm
Trychinebau TRI 'Cyprian' Bydd Geraint Jones, Trefor, yn cofio am y llongddrylliad enwog 140 o flynyddau yn ôl ac yn son am hanesion eraill diddorol. Holl arian y noson i'w rhannu rhwng Bad Achub Porthdinllaen a'r Amgueddfa. Tocynnau £5 yr aelwyd.
Atgoffa!
1. Taith gerdded i Dowyn (Llyn) Dydd Sadwrn yma 25/9 Ychydig o le ar ol!
2. Wythnos olaf ein harddangosfa Cynaeafu'r Mor. Dowch draw i weld gwledd o fwydydd!
Isio gwybod y diweddaraf am ein sgerbwd?
Gwrandewch ar raglen Aled Huws fore Mawrth nesaf wedi Newyddion 10 o'r gloch i glywed sgwrs Aled gyda Meinir Pierce Jones...
Oes y Tywysogion yn Nefyn
Bydd y gweithdy yma yn cael ei gynnal ar HYDREF 16eg yn cychwyn am 11am. Bydd unrhywun gyda diddordeb yn hanes yr ardal hon yn gallu elwa o fynychu'r sesiwn arbennig o dan arweiniad medrus Rhys Mwyn. Wedi anelu at bobl ifanc 10-13oed mewn cydweithrediad â Hunaniaith. Dowch i ddysgu am ein gwir hanes pan oedd Cymru yn wlad annibynnol. £3 y pen, cysylltwch â'r Amgueddfa i gadw lle.
Gwyl Bro Nefyn Fest
Gwyl Bro ar cyn gyda'r Heliwr!
Gwyl bro!
Mae'r Amgueddfa yn cynnal ychydig o ddigwyddiadau ddydd Sadwrn, felly byddwn tn agored dydd Sadwrn 4ydd 1-4,30 pm. Ni fydd yn agored dydd Sul 5ed.
Taith i Dowyn
Rydym yn falch iawn cyhoeddi bod Daniel am gynnal taith gerdded ddaearegol arall i ni, y tro hwn i Dowyn (Llŷn, nid Meirion na sir Ddinbych). Manylion ar y poster, cysylltwch â ni i gadw lle.
#haf o hwyl Awst 23
Mae criw #haf o hwyl wedi bod yn brysur yn creu murlun llawn lliw o'r mor - yr wythnos nesaf (ddydd llun 23 Awst) bydd angen cwblhau'r llun - oes rhywun 4-7oed am ddod i helpu Capten Mel?
Cysylltwch i gynnig helpu !
Helfa Trychfilod
Pwy sy'n gwybod beth sydd yn cuddio yng nglaswellt hir ein gweirglodd?
Helpwch ni i ddod o hyd i drychfilod yng nghwmni'r naturiaethydd Anita.
Pnawn wedi ei drefnu ar y cyd gyda Hunaniaith ar gyfer plant 7-10 oed.
£3 i gynnwys lluniaeth.
Pnawn Mercher Awst 26 am 2pm.
Enwau i'r Amgueddfa ymlaen llaw os gwelwch yn dda.
Haf o Hwyl
Dan nawdd Llywodraeth Cymru a'r prosiect #Haf o Hwyl mae'r Amgueddfa yn gallu cynnal nifer o weithgareddau i blant yn ystod mis Awst eleni . Y gobaith yw cynnal digwyddiadau hwyliog ar thema'r mor yn yr awyr agored i blant 4-7 oed.
Bore Mercher 11eg fydd y sesiwn cyntaf, y sesiynau eraill ar fore Mercher 16fed a'r 23ain, 10am - 12pm. Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle, cysylltwch á'r Amgueddfa.
Rhywbeth i'r Bobl Ifanc
DIGWYDDIAD WEDI EI OHIRIO
Dewch draw i fwynhau pnawn yng nghwmni ein hoff archeolegydd Rhys Mwyn! Bydd Rhys yn cynnal sesiwn bywiog a gwerthfawr ar Oes y Tywysogion yng Ngwynedd i ni ar AWST 18fed am 3pm.
Wedi anelu at bobl 10-13oed, ond ac wedi trefnu ar y cyd gyda Hunaiaith.
Cost : £3 i gynnwys lluniaeth.
Enwau i'r Amgueddfa os gwelwch yn dda,
ARDDANGOSFA NEWYDD !
Rydym yn falch i gyhoeddi bod ein Harddangosfa newydd yn barod i chi gweld - 'Cynaeafu'r Mor', sy'n dweud hanes pysgota ar y cefnfor a'r glannau, cynnyrch pysgod cregyn a gwymon -mae'n anhygoel faint o fwydydd blasus rydym yn cynaeafu yma yng Nghymru.
Mae'r Arddangosfa ar ffurf pop-up, ac ar fenthyg o Amgueddfa'r Glannau yn Abertawe. Bydd hi i'w gweld tan fis Medi.
Ymestyn dyddiad cau cystadleuaeth collage ein gweirglodd wyltt!
Dyma enghraifft o'r gwaith ffantastig rydym wedi eu derbyn hyd yn hyn.
Rydym wedi penderfynu cadw'r gystadleuaeth yn agored tan ddiwedd mis Gorffennaf er mwyn rhoi cyfle i CHI anfon eich cyfanwaith atom. Beth amdani?
Arddangosfa Newydd
Dyma'r Arddangosfa newydd rydym wedi benthyg o'r Amgueddfa yn Abertawe-ar gael i chi gweld yn fuan !
Archeolegol lleol
Cyfle olaf i weld yr arddangosfa hon o hen eitmau archeolegol lleol.
Gwobrau Enwi Madrun
Dyma’r ddau ddisgybl lwcus ennillodd ein gwobrau am enwi y sgerwbd, ‘Madrun’. Llongyfarchiadau i Guto Bryn Williams, 11 oed a Mabon Arwel Williams, 9 oed! Diolch i Ysgol Pentreuchaf ac Ysgol Tudweiliog am gael ymweld i gyflwyno’r ghwobrau.
- 300621-guto
Guto Bryn Williams
- 300621-mabon
Mabon Arwel Williams
Dewch am dro i'r hen fynwent
Dewch am dro i'r hen fynwent i weld ein gweirglodd wych sy ddim ond 4mis oed ! Beth am dynnu ychydig o luniau a'u hanfon atom mewn collage ? Helpwch ni i ddathlu ein bywyd gwyllt, rhan o'n hetifeddiaeth !
Taith Gerdded i'r cryf a heini!
Cynhelir taith dywys i ben Garn Buduan ac i lawr yn ôl i'r Amgueddfa dan arweinydd y cerddwr a hanesydd lleol Dawi Griffiths. Y dyddiad yw Dydd Sadwrn Gorffennaf 17eg. Gweler y poster am fanylion yn llawn. Rhagor o fanylion wrht gofrestru - afllmm@yahoo.com neu 01758 721 313 (gadewch neges tu allan i oriau agor).
Diwrnod y weirglodd - Carwch ein Cynefin
Cynhaliwyd sesiwn yn yr awyr agored yn ddiweddar, gyda'r gwahoddiad i bawb i ddod i fwynhau ein gweirglodd newydd yng nghefn yr Amgueddfa. Gobeithio bydd y tywydd cystal yn 2022 !
Carwch ein Cynefin – Gweirglodd newydd Nefyn !
Be sy’n digwydd ? :
Dewch i weld ein gweirglodd wyllt newydd yn y fynwent yma !
Beth am gofnodi’r blodau a gwellt sy’n ailfeddiannu’r llecyn? Chwiliwch am drychfilod!
Cyfle i drafod bioamrywiaeth a sut i datblygu’r llecyn i’r dyfodol
Sadwrn Mehefin 12. 11am-3pm
Lluniaeth ar gael.
Rhaid bwcio ar wahan i ymweld â’r Amgueddfa
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Cyhoeddi enw'r sgerbwd
Yn dilyn cystadleuaeth frwd (gyda dros 200 yn anfon eu hoff enw atom), cyhoeddwyd heddiw ar raglen Aled Hughes mai enw'r sgerbwd yw MADRUN.
Diolch i bawb am eu cymorth, a bydd gwobr ar ei ffordd i ddau a ddewisodd Madrun :
Guto Ysgol Pentreuchaf, a Mabon Ysgol Tudweiliog
Trwy gyd-digwyddiad , heddiw yw diwrnod santes Madrun (Mehefin 9fed)!
Diolch, bawb, a diwrnod Madrun Hapus!
Diolch yn arbennig i Foundation Garfield Weston a Chronfa Dreftadaeth y Loteri am eu nawdd.
Yr ENW !
Cyhoeddir enw ein sgerbwd ar BBC Radio Cymru, 'excliwsif' ar rhaglen Aled Hughes: fore Mercher 9fed o Fehefin am 9:30 !! Cofiwch wrando. Fel arall bydd y manylion yma ar y wefan erbyn y pnawn. Diolch i bawb am eich help.
Ar agor, ac yn falch o groesawu ein hymwelwyr cyntaf
Diolch yn arbennig i'n criw o wirfoddolwyr ffyddlon, fel Margaret, yma i helpu!
Sut rydym yn cadw ein staff a’n hymwelwyr yn ddiogel 2021
Rydym wedi gweithio’n galed i agor ein Hamgueddfa yn ddiogel. Rydym yn awyddus I gynnig y profiad gorau posib I chi yn y modd mwyaf diogel. Rydym wedi darllen a chymwyso’r wybodaeth gyfredol gan Lywodraeth Cymru, GIGCymru, VisitWales a’r Ffederasiwn Amgueddfeydd. Rydym wedi comisiynu Asesiad Risg Covid19 a gweithredu’r argymhellion.
Rydym yn safle gofrestredig I safon ‘”BAROD AMDANI”
Dyma’r mesurau y gwelwch ar waith yn Amgueddfa Forwrol Llŷn, Nefyn :
- Safleoedd diheintio dwylo - wrth y fynedfa a thrwy’r Amgueddfa
- System apwyntiadau ymweld er mwyn rheoli niferoedd sy’n cynnig ymweliadau personol - hyd at 45munud
- Awyru - ffenestri a drws yn agored
- Sgrîn yn y dderbynfa a’r caban
- Darparu cyfarpar diogelu personol (PPE) I’n gwirfoddolwyr a staff a hyfforddiant Covid19 ar eu cyfer
- Ad-drefnu’r Amgueddfa gan newid ychydig ar ddefnydd rhai o’n harddangosfeydd
- Caffi tecawê yn unig, a danteithion newydd lleol I’w mwynhau ar y meinciau picnic !
- Siop - popeth yn y golwg wedi ei brisio, yn cynnwys nifer o eitemau newydd gan artistiaid lleol
- Cynyddu trefniadau glanhau - yn cynnwys rhwng pob ymweliad, a glanhau proffesiynol
- Arwyddion pellter cymdeithasol, mwgwd a gofal glanhau dwylo
- Peiriant talu di-gyswllt -
- Adborth llafar er mwyn casglu eich sylwadau (dim llyfr ymwelwyr yn anffodus)
Diolchwn I chi am ddeall y rheswm am y newidiadau hyn : er mwyn diogelu pawb.
Sgwrs hefo Meinir ar Radio Cymru
Meinir Pierce Jones o Amgueddfa Forwrol Llŷn yn sgwrsio hefo Aled Hughes a'u bod yn chwilio am enw i sgerbwd 800 oed.
Cliciwch yma i glwad sgwrs Meinir Jones
Dewiswch enw ein sgerbwd - wythnos olaf i bleidleisio
Dach chi wedi rhoi cynnig ar enwi ein sgerbwd ? Mae gennych tan ddydd Sul i ddewis eich hoff enw o'r rhestr yma.
Cliciwch yma i lawrlwythor' ffurflen.
Newyddion Covid
Ein camau ni at ddiogelu pawb.
Dod yn fuan.
Teithiau cerdded 2021
Mae'r Amgueddfa hon yn trefnu nifer o deithiau cerdded thematig wedi eu harwain gan arbenigwyr.
Mehefin 20 : Taith gerdded Ddaearegol yn ardal Cilan
Gorffennaf 17 : Taith gerdded hanesyddol i ben Garn Boduan.
Awst : Bwrdeistref Nefyn
Mwy o fanylion am y teithiau cerdded.
Bron yn barod
Mae'r siop yn siapio!
Gwaith ar y gweill : newyddion da !
Rydym yn cwblhau ein paratoadau ar gyfer ailagor yr Amgueddfa. Byddwn yn cymryd pob gofal o’n staff a’n hymwelwyr, ac yn gweithredu cynllun bwcio ymweliadau ymlaen llaw – trwy’r wefan hon, neu drwy ffonio. Croesewir ymholiadau rwan gan ein bod yn gobeithio agor cyn diwedd Mai. . Rhagor o wybodaeth i ddod yn y dyddiau nesaf…
Nwyddau newydd i’n siop !
Dyma ragflas …mae nifer o eitemau ‘’exclusive’ yma !
Ein cwch boncyff yn cael sylw eto!
Cofiwch wylio rhaglen Weatherman Walking BBC1 7.35pm nos Wener 23ain o Ebrill i weld Jamie Davies yn adrodd stori ryfeddol ein cwch boncyff Affricanaidd. Wedyn, edrychwch ymlaen at ddod i weld y cwch yn yr Amgueddfa yn y dyfodol agos...mwy o fanylion i ddod yn fuan
Barod i Fynd!
Mae'r amgueddfa wedi cael cael ei thystygrif Barod amdani 2021 yn barod
Dydd Gŵyl Dewi
Gwnewch y Pethau bychain - cofiwch am Amgueddfa Forwrol Llŷn
Ar ddiwrnod Trysorau Etifeddiaeth #HeritageTreasures rydym eisiau dweud DIOLCH YN FAWR i’n holl gefnogwyr, gwirfoddolwyr a ‘r Gronfa Dreftadaeth am eich ymdrechion a chymorth yng nghanol storm Covid19 i gadw AMGUEDDFA FORWROL LLYN shipshape yn hwylio ar frig y don. Dach chi’n drysorau yn cadw drysau etifeddiaeth Llyn yn agored ! @HeritageFundUK #HeritageTreasures
Pecyn o 5 cardyn Nadolig llawn nostalgia
Amguedddfa Forwrol Llyn aka Eglwys Santes Fair, Nefyn dan eira. Peintiwyd y llun gwreiddiol gan Denise Henry a chynhyrchwyd y cardiau dwyieithog i'r safon uchaf ar gyfer yr Amgueddfa. Cynnig arbennig eleni : 5 cardyn a amlenni dim ond £3 (£4 trwy'r post). Stoc cyfyngedig - archebwch yn fuan, a diolch am eich cefnogaeth.
- 011020-news-james
Jamie
- 011020-news-mo-a-lois
Mo Jannah y cyflwyndd yn sgwrsio gyda Lois
- 151020-criw-ffilmio
Y criw ffilmio
Ffilmio Weatherman Walking
Bu camerau a phrysurdeb yn ein Hamgueddfa wrth i ni groesawu cynhyrchwyr BBC y rhaglen boblogaidd 'Weatherman Walking'. Roedden nhw yma i recordio eitem am ein cwch boncyff gyda'r dihafal Jamie yn dweud yr hanes wrth Mo Jannah. Bydd y rhaglen ar eich teledu gwanwyn 2021, - gwerth ei gwylio.
- 011020-news-james
Jamie
- 011020-news-mo-a-lois
Mo Jannah y cyflwyndd yn sgwrsio gyda Lois
- 151020-criw-ffilmio
Y criw ffilmio
Arddangosfa Hydref 2020
Eleni rydym yn rhoi cyfle i chi weld un o'n hen arddangosfeydd a fu'n boblogaidd iawn yn ol ym 2017: Darganfyddiadau Archeolegol lleol.
Rhaid i chi drefnu ymlaen llaw i ymweld, ond os oes gennych ddiddordeb mewn archeoleg, hanes lleol Nefyn a Llyn, croeso i chi ddod i weld y casgliad. Gyda diolch yn arbennig i'n criw arteffactau am atgyfodi'r arddangosfa ar fyr rybudd.
Ymwelwyr a'r yr oes newydd.
Erbyn hyn mae'r Amgueddfa yn agored, am ba hyd wyddwn ni ddim...felly beth am drefnu eich ymweliad 'exclusive' yma? Dim ond un swigen teuluol ar y tro, hyd at 6 oedolyn. Dyma'r criw cyntaf i ymweld dan yr amgylchiadau newydd, ac ia, maent yn gwenu'n hapus o dan y gorchuddion
Mesurau edrych ar ol ein staff ac ymwelwyr
Mae'r Amgueddfa yn ofalus iawn i gadw pawb yn ddiogel, gyda digon o diheintyddion o gwmpas yr adeilad a phwyslais ar gadw pellter cymdeithasol priodol. Mae caffi ar ffurf tecawe, siop finimalistig ( staff yn gweini), taliadau cerdyn yn unig, a llnau rhwng pob ymweliad, yn ogystal a llnau trwyadl rhwng dyddiau agor. Rydym yn gweithredu'r system TaT ( tracio ac olrhain), yn cynnwys yr appTracioCovid. Mewn gair, rydym yn ceisio'n gorau glas i ofalu amdanoch. Os gewch gyfle, bwciwch eich apwyntiad a chefnogwch ni.
18.09.20 O'r diwedd! Mae'r Amgueddfa bellach yn agored i ymwelwyr gofalus.
Rydym yn hapus i dderbyn holiadau gan swigod teuluoedd neu unigolion i ddod i'r Amgueddfa. Mae llawer wedi gorfod newid oherwydd covid-19, felly cysylltwch yn gyntaf os gwelwch yn dda - mae'r croeso yr un mor gynnes.
Cliciwch yma am poster ail agor yr amgueddfa.
Ymwelwyr cynta'r haf !
O'r diwedd ddaeth yn amser croesawu ymwelwyr i'r Amgueddfa. Bu'n bleser mawr estyn cwpanau papur a bisgedi wedi eu lapio i griw o bererinion o Hafod Ceiri a fentrodd ar daith gerdded o Lithfaen i Nefyn ar bnawn Sul braf olaf fis Awst. Cyflwyniad i hanes y safle a lluniaeth tu allan yn unig am y tro, ond rydym yn gobeithio y bydd yn bosib i nifer cyfyngedig ymweld a'r tu fewn i'r Amgueddfa o fewn yr wythnosau nesaf....AROLWG AILAGOR
Rydym ni'n gweithio o hyd ar y newidiadau i'n safle er mwyn ailagor. Er enghraifft heddiw mae system newydd CCTV yn cael ei osod a fydd yn helpu monitro pellterau cymdeithasol call.A wnewch CHI ein helpu trwy lenwi'r holiadur yma a dychwelyd
Diolch yn fawr !
Rydym yn cymryd pob gofal wrth weithio i ailagor
Mae llawer o waith yn digwydd i 'dan y dec' yma, wrth i ni greu amodau'r bywyd normal newydd.
Yma gwelir aelodau o'r criw arteffactau yn cofnodi creiriau - yn yr awyr agored, a gwirfoddolwyr yn twtio'r cwch yn y fynwent....diolch o galon i Mair, Emrys, Marc, Elinor a Margaret.
Oes gynnoch chi awydd gwirfoddoli efo ni? Cysylltwch trwy ebostio: afllmm@yahoo.com.
Rydym yn cymryd pob gofal wrth weithio i ailagor, diogelwch ac iechyd pawb sydd uchaf ar ein rhestr.
Mwy o newyddion yn fuan.
Menter Newydd Cyffrous - Ein Siop ar-lein.
A'r Amgueddfa yn parhau ynghau ar hyn o bryd rydym am fentro cynnig siopa ar lein. Cyn bo hir, bydd nifer o eitemau unigryw i'r Amgueddfa ar werth, cewch dalu'n ddiogel gyda paypal a derbyn eich nwyddau i'ch drws, (neu drefnu galw i'w nol os ydych yn byw yn lleol). Ffordd hwylus i ddangos eich cefnogaeth i'n Hamgueddfa. Gwyliwch uchod am adran 'siopa' !- Teatowel
Teatowel - Souvenir from Nefyn
- Tlysau Clustiau
tlysau clustiau hardd - ar gael mewn nifer o batrymau
Taith Gerdded
Bu'r tywydd o'n plaid yn ddiweddar pan aeth criw o gefnogwyr yr Amgueddfa ar daith gerdded ar hyd traeth Nefyn. Gyda golygfeydd godidog, cwmni difyr ac arweinydd brwd - roedd y daith yn siwr o fod yn llwyddiant! Daniel Evans oedd yn ein tywys ac roedd ei wybodaeth eang o ddaeareg yn ein cyfareddu ! Ymhen dim roedden ni'n chwilota am gerrig yn y tywod. Bu'n daith addysgol a difyr.
Mae taith arall wedi ei threfnu ar gyfer pnawn Sul 16eg o Awst, felly brysiwch i archebu eich lle!
Y Daith Gerdded
Mae ychydig o lefydd ar ol ar ein Teithiau cerdded. Dowch i ymuno a ni - byddwn yn gofalu am y pellterau cymdeithasol, bydd yn gyfle llenwi'ch sgyfaint ag awyr iach o'r mor, dysgu am ein daeareg a chefnogi 'r Amgueddfa !
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Cwis Rhithiol!
Mae llawer wedi gofyn pryd mae' cwis nesaf - dyma ni 'r trefniadau. Ymunwch gyda ni am noson o hwyl, heb adael eich cartref clyd!
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Newyddion Agor
Nid ar hyn o bryd, ond gwatsiwch y wefan hon!
Nid yw Amgueddfa Forwrol Llyn yn agor ei drysau i'r cyhoedd heddiw (Gorffennaf 27), ond agorir mor fuan ag sy'n bosib.
Rydym yn ddiolchgar iawn am grant y Gronfa Dreftadaeth (grant i ddiogelu a gwella 'r profiad ymweld), a hoffwn ddiolch yn arbennig i chwaraewyr y Loteri am alluogi'r grant arbennig hwn. Diolch i'ch haelioni chi hoffwn weld lluniau fel isod yma eto....
Detholiad o'n gweithgarwch i'r gymuned gyfan - rhywbeth i bawb o bob oed.
Taith Gerdded
Ar lan y môr o Nefyn i Bodeilias efo ychydig o ddaeareg.
Bydd dau gyfle:
Gwener Awst 7ed am 1730 neu Sul Awst 16ed am 1400
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Agor neu Beidio?
Mae'r Pwyllgor a staff yma yn wynebu penderfyniad anodd wrth i'r Llywodraeth roi'r golau gwyrdd i Amgueddfeydd ail agor. Fyddwn ni ddim yn rhuthro.
Diogelwch pawb sydd yn flaenoriaeth i ni, iechyd ein staff, trigolion lleol, a'n hymwelwyr oll. Dim ond os fedrwn sicrhau ein bod yn cymryd pob gofal posib i gadw pawb yn saff byddwn ni'n agor ein drysau eleni.
Dach chi'n holl bwysig i ni; hoffwn glywed eich sylwadau ar y sefyllfa.
Anfonwch air at
afllmm@yahoo.com
DIOLCH O GALON I'N HOLL GEFNOGWYR
Daw eto haul ar fryn, a bywyd i'n hannwyl amgueddfa
Diolch o galon i'n holl gefnogwyr - rydym wedi pasio'n targed £2,000 ar Justgiving - mewn llai na mis ! Bydd y gronfa yn parhau yn agored, gyda'r arian ychwanegol yn mynd tuag at brynu offer PPE arwyddion ayyb, i ddiogelu pawb pan ddaw'r diwrnod ail-agor....https://www.justgiving.com/crowdfunding/amgueddfaforwrolllyn?utm_term=42mmXqwxn
NEGES PWYSIG
Mae ein cyfeiriad justgiving wedi newid!!
Nodwch os gwelwch yn dda, a pasiwch y neges ymlaen!
https://www.justgiving.com/crowdfunding/amgueddfaforwrolllyn?utm_term=42mmXqwxn
JUSTGIVING
Mae apel yr Amgueddfa am arian i dalu biliau dros yr haf bellach wedi cyrraedd 80% o'r targed - dan ni'n agosau at y tir, hogia ! Diolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu a phasio'r neges ymlaen, mae'n hyfryd gwybod bod gynnon ni gymaint o ffrindiau.
EIN CWIS RHITHIOL
Bu noson y cwis rhithiol yn rhyfeddol o lwyddiannus! Llawer o ddiolch i'r cwisfeistri, Meinir a Geraint, am drefnu'r cyfan, ac i bawb a 'fynychodd'. Y tim buddugol oedd Sianelen, Kelvin ac Ifan Pleming (Llithfaen).
DIOLCH
Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu i'n hapel ar Justgiving, rydym wedi codi 40% o'r targed o fewn wythnos !! Mae haelioni a chonsyrn pobl dros ein Hamgueddfa yn codi calon yn yr amseroedd anodd hyn.
Cwis hwyl zoom dwyieithog!
7.30yh, Nos Sadwrn - 23.05.2020
Mae Meinir Pierce Jones yn cynnal Cwis Zoom i lansio'r apel.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
APEL
Mae'n hynod o ddistaw y dyddiau hyn o gwmpas ein Hamgueddfa. Dim ymwelwyr, dim grwpiau ysgol, dim cymdeithasau - NEB. Sy'n golygu dim incwm.
Ond, mae biliau sylfaenol yr Amgueddfa yn parhau eisiau eu talu, costau fel yswiriant, trydan, dwr, ffon a rhyngrwyd, diogelwch, cynnal a chadw sustemau, a hyd yn oed ein gwefan.
Er mwyn dod dros y broblem hon rydym yn agor apel am roddion ariannol gan garedigion a chyn-ymwelwyr i'r Amgueddfa.
Mae tudalen Amgueddfa Llyn ar wefan Justgiving Crowdfunding.
Byddwn hefyd yn cynnal gweithgareddau i godi arian er mwyn parhau i dalu'r biliau hyn a sicrhau y byddwn yn gallu ail-agor yn y dyfodol.
Helpwch ni i achub Amgueddfa Forwrol Llyn rhag boddi'r Haf yma, os gwelwch yn dda.
Cadw'n ddiogel, aros adra
Yn anffodus ni fyddwn yn gallu eich croesawu i'r Amgueddfa oherwydd yr argyfwng presennol. Anfonwn dymuniadau gorau at bawb yn yr amser anodd hwn, ac edrychwn ymlaen at eich gweld pan ddaw dyddiau gwell.
Enillwyr ein Raffl Blynyddol
Gydag ymddiheuriadau am yr oedi cyn cyhoeddi enwau, dyma enillwyr ein raffl 2019:
Llun wedi ei fframio : Rhiannon a Clive James, Caernarfon;
Pecyn o lyfrau : Tracey Smith, Nefyn;
Hampar o nwyddau 'Dragon' : Sheila Davies, Pwllheli
Tocyn Caffi Ni : Iola Jones, Yr Amwythig.
Diolch am eich cefnogaeth. Trefnir raffl eto eleni, felly pob lwc i bawb tro nesaf!
NODYN PWYSIG: Covid 19
Rydym yn canslo pob digwyddiad torfol o heddiw ymlaen (Mawrth 17eg) - Tiwn Tonig, Pwythau Pwyllog, Sesiynau Sgwrsio, Crefftau Plant a Gweithdy Archaeoleg Rhys Mwyn.
Byddwn yn asesu'r sefyllfa o ddydd i ddydd ynglyn ag agor i'r cyhoedd , a byddwn yn gadael i bawb wybod trwy'r wefan hon, posteri a'r cyfryngau cymdeithasol.
Lles ac iechyd ein gwirfoddolwyr a'r cyhoedd sy'n holl bwysig i ni ac yn dylanwadu ar ein penderfyniadau.
Gyda diolch am ddeall ein sefyllfa, ac am eich cefnogaeth.
Ddathlu'r Pasg yn yr Amgueddfa
Pnawn Mawrth Ebrill 7fed.
Dowch i'r Amgueddfa i wneud tipyn o waith ar draddodiadau'r Pasg a chreu rhywbeth arbennig i addurno'r cartref. Manylion ar y poster - enwau i'r Amgueddfa i gadw lle os gwelwch yn dda.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Pnawn llawn Archaeoleg!
Dowch i'r Amgueddfa bnawn Sadwrn 28 o Fawrth erbyn 12.30 i fwynhau cloddio yng nghyfnod arbennig o hanes. Bydd RHYS MWYN yn trafod Nefyn yn Oes y Tywysogion, ac yn mynd a ni i weld llefydd o bwys.
Enwau i'r Amgueddfa os gwelwch yn dda, cofiwch wisgo ddillad addas
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Arddangosfa o waith Pwythau Pwyllog
Fel rhan o weithgareddau Llesiant dan nawdd Cyngor Gwynedd mae'r Amgueddfa wedi bod yn cynnal sesiynau amrywiol, gwaith crefft, canu, ac ysgrifennu creadigol yn ystod y misoedd diwethaf. Bydd cyfle i weld y gwaith llaw fore Sadwrn nesaf, sef Mawrth 7fed. Dyma ychydig o luniau,ond gwell byth yw galw heibio a gweld drosocheich hunan. Croeso i chi i gyd.
Ychydig o waith Pwythau Pwyllog
Dathlu Dydd Gwyl Ddewi a Llesiant
. |
Eleni dathlwyd diwrnod ein nawdd sant yng nghwmni rhai o drigolion cartrefi gofal Plas Hafan (Nefyn) a Bryn Meddyg (Llanaelhaearn). Diolch i Gwyneth a Janet am weini'r te pnawn, ac i Geraint Jones, Trefor, am ddod atom ni i ddarparu 'r adloniant.
Bu'r achlysur yn gyfle i godi ymwybyddiaeth am fanteision llesiant,a braf oedd arddangos gwaith crefftau ein grwp llwyddiannus, Pwythau Pwyllog.
Sesiwn Sgwrsio Chwefror 29, 11am
Os na ydach am fentro i bared Pwllheli na Chaernarfon, neu dowch draw am baned a sgwrs yma yn yr amgueddfa forwrol. Croeso cynnes i bawb!
Gweithgarwch hanner tymor i blant
Cynhaliwyd bore crefftau yn yr amgueddfa yn nwylo medrus Margaret Taylor Hill, pryd wnaethant fodelau o Nefyn. Tipyn o sialens i'w cyblhau o fewn y ddwy awr, ac yn anffodus oherwydd y tywydd ni fu'n bosib mynd am dro, ond gobeithio cynnal sesiwn arall yn fuan. Beth amdani? Dyma waith y bore.
Cyfarfod Gyffredinol Blynyddol
Cynhelir ein cyfarfod blynyddol Dydd Mawrth 3ydd o Fawrth am 5.30pm yn yr Amgueddfa. Croeso cynnes i bawb. (Nodwch newid amser).
Pwysig: dalier sylw - Gohirio a newid dyddiad ein Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol
Ni chynhelir ein AGM nos Fawrth 11eg, bu rhaid gohirio'r cyfarfod.
Noder os gwelwch yn dda y dyddiad a'r amser newydd:
Nos Fawrth 3ydd o Fawrth am 6.30pm
Ymddiheuriadau am y fyr rybudd, a gobeithio gweld criw da ar y 3 ydd o Fawrth.
Croeso cynnes i bawb.
Gweithgaredd Hanner Tymor i Blant oed Cynradd.
Dydd Iau Chwefror 20fed 10.30-12.30 yma yn yr Amgueddfa, bydd sesiwn crefft gyda Margaret Taylor-Hill.
Pris £4 i gynnwys diod a ffrwyth. Oedolyn i aros gyda'r plentyn.
Cyfle i greu model neu collage o'r ardal. Sbïa o gwmpas! Y tŵr, Garn Boduan, y traeth, môr, cae chwarae, llyfrgell, llwybrau, beth hoffet ti ei gynnwys yn y model? Ty'd draw.
Lle i 12 o blant yn unig. Enwau ymlaen llaw i'r amgueddfa os gwelwch yn dda.
Cardiau Santes Dwynwen
Dyma rai o'r cardiau Santes Dwynwen a wnaed yn sesiwn Pwythau Pwyllog ar ddiwrnod ein Nawdd sant cariadon. Hyfryd ynte!
Bydd Sesiwn nesaf Pwyllau Pwyllog ar fore Sadwrn Chwefror 8fed, 10.30-12.00, £3 y sesiwn. Dowch i ymuno â ni!
Grwp cyntaf 2020 yn yr Amgueddfa
Heddiw, Ionawr 23ain daeth criw o ymwelwyr o Ddyffryn Nantlle i'r Amgueddfa, y grwp cyntaf eleni! Cawsant groeso, a chyfle i grwydro o gwmpas y lle cyn cael cyflwyniad byr a gwylio ein DVD gwych. Mae llawer o ymwelwyr -blant ac oedolion- yn licio ceisio gwneud un o'n c'lymau, ond heddiw mi ddaeth un ddynes arbennig i roi tro, a llwyddo!
Mae Annie Barr yn 88 oed, ac roedd hithau wedi gwirioni ei bod yn cofio sut i wneud cwlwm rîff ers ei dyddiau girl guides. Roedd pawb wedi gwirioni gyda'i llwyddiant!
Ia, wir, mae rhywbeth i bawb yma yn Amgueddfa Nefyn. Pryd dach chi am ddod draw? Beth am drefnu ymweliad?
Traddodiad Santes Dwynwen yn yr Amgueddfa
Dowch draw i ddechrau eich dathliadau Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru, trwy greu cardyn unigryw i'w roi i'r rhywun arbennig yn eich bywyd chi. Pris y bore yn cynnwys holl ddeunyddiau- dim ond £3, croeso cynnes i bawb!
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Tiwn Tonic
Cynhelir y sesiwn cerddoriaeth nesaf ddydd Mawrth Ionawr 21ain ; 4.15-5.30.
Dewch draw i fwynhau cyd chwarae rhai o'n hoff alawon- mae detholiad o offerynnau i chi eu trio, neu dowch a'ch ffefryn eich hun. Dim miwsig!
£3 y sesiwn.
Pwythau Pwyllog
Mae'r sesiynau gwaith llaw yn mynd o nerth i nerth. Ar gais y mynychwyr rydym wedi cytuno i gynnal sesiynau bob pythefnos am weddill y tymor. Dyma'r dyddiadau i'w cofio:
Ionawr 25; Chwefror 8, 22; Mawrth 7,21.
Croeso cynnes i bawb, o bob oed, pob gallu a phob cyfrwng!
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Cofiwch am Santes Dwynwen- beth am wneud cardyn unigryw i'ch anwylyd?
Dewch draw i'r amgueddfa fore Sadwrn 25ain o Ionawr, ymlaciwch, a threulio ychydig o amser yn gwneud cardyn Dwynwen personol ac unigryw i'r un arbennig yn eich bywyd
Pecyn yn cynnwys deunyddiau i greu cardyn sy'n dangos eich cariad; cyngor a chymorth wrth law (os oes angen).
Dim ond £3. Beth amdani? Yr elw i'r Amgueddfa.
Cynnyrch Pwythau Pwyllog
Dyma ychydig o'r gwaith gwych sy'n mynd ymlaen yn sesiynau Pwythau Pwyllog.
Bae Nefyn a'r Eifl. Gwaith Meinir | Brodwaith metalig Elinor. |
Dowch â'ch prosiect ac ymuno â ni! Croeso i bawb, pob cyfrwng a gallu. Bydd sesiwn arbennig ar Ionawr 25- manylion i ddod. |
“Dim ond Geiriau”
Pnawniau Mawrth yn Amgueddfa Forwrol Llŷn, Nefyn
1:30 – 3:30
Dyddiad Dechrau 21/01/2020
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
“Tiwn Tonic”
Pnawniau Mawrth yn Amgueddfa Forwrol Llŷn, Nefyn
16:15 – 17:30
Dyddiad Dechrau 14/01/2020
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Pwythau Pwyllog
Boreau Sadwrn Amgueddfa Forwrol Llŷn, Nefyn
10.30-12.00
Dyddiad Dechrau 11/01/2020
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Noson Pwy sa'n Meddwl!
Cafwyd noson carolau unigryw yma nos Wener ddiwethaf. Roedd yr amgueddfa dang ei sang a phawb yn disgwyl am noson gartrefol o'r hen garolau poblogaidd. Ac mi gaethon ni'r carolau, do, ond mi hudodd Gwenda a' r hogiau yn parti Pwy sa'n meddwl y gynulleidfa gyda pherfformiadau gwych o ganeuon enwog Sbardun Huws, Meic Stevens ac eraill, a gwasgodd ambell i Sianti Môr hefyd i'r rhaglen! Noson arbennig, a phawb wedi mwynhau eu hunain. Diolch i'r gwirfoddolwyr am helpu gweini'r gwin cynnes a'r mins peis, ac i bob un a gefnogodd y noson. Rhaid enwi Janet Hughes yn arbennig am ei gwaith yn trefnu'r noson, ac addurno'r adeilad mor chwaethus. Diolch i Gwenda a'r hogiau, a diolch i Cynefin am ei nawdd i ddigwyddiadau'r Nadolig.
Cyfle i ymlacio yn lle stresio cyn dolig!
Cofiwch am ein bore gwaith llaw, 10.30-12.00 fore Sadwrn Rhagfyr 7fed Bore o bleser hunanol: ymlacio yng nghwmni da gyda 'ch hoff waith llaw a chwmni cynhaliol, dim ond £3.
Peidiwch a bod yn bigog, dewch i bwytho!
Bore llwyddiannus o baratoi ar gyfer y Nadolig
Daeth criw da at ei gilydd i greu torch nadoligaidd dan hyfforddiant Marian o Siop Eluned, Pwllheli. Diolch i Cynefin am nawdd i gynnal y gweithdy.
Apel: dowch draw, Nicola!
Mae'r ddol ddel yma wedi ei henwi : Seren . A'r enillydd yw Nicola, sydd yn byw yn lleol , 01758 yw'r cod ffon. Ond er imi ffonio a ffonio a gadael neges, mae Seren yn dal i ddisgwyl yn swyddfa'r amgueddfa. Dowch draw un pnawn Sadwrn, Nicola, i hawlio eich gwobr. Diolch i bawb a geisiodd ddyfalu'r enw.
Gwibdaith Flynyddol ein Gwirfoddolwyr
Eleni trefnwyd taith ychydig yn wahanol i'n gwirfoddolwyr, sef taith tren, ar lein y Cambrian lawr i'r Bermo (Abermaw). Mae'r dref hon, fel Nefyn yn llawn o hanes forwrol a difyr ac y mae'n haws dod o hyd i'r Bermo go iawn tu allan i dymor yr ymwelwyr. Wedi crwydro'r stryd fawr, mwynhau paned a syllu ar olygfeydd godidog yr aber, y bont a Chadair Idris (yn gwisgo ei chap gwyn) , buom yn ymweld a Sefydliad y Morwyr ar y cei ac ag Amgueddfa Ty Gwyn. Caethon ni groeso cynnes a hanes y ddau le gan wirfoddolwyr Bermo-criw tebyg i ni. Wedi rhyfeddu at y Ty Crwn (y Rheinws) cerddon ni hyd rhodfa'r mor yr holl ffordd draw i westy Min-y-Mor am ginio ysgafn blasus.
Yr unig drueni oedd nad oedd yn bosib i bob un o'n gwirfoddolwyr fod yn bresennol. Diolch o galon i bawb am eich cymorth yn ystod y tymor, a gobeithio yn wir y medrwch barhau i gefnogi a helpu am flynyddoedd i ddod, a dod ar y trip y tro nesaf!
Ac os dach chi'n chwilio am rywbeth gwerth chweil i wneud am ychydig o oriau, dowch i gysylltu dach chi, bydd croeso mawr i chi ymuno a'r criw y tymor nesaf!
Llun: o'r criw yn mwynhau eu cinio
Pwytho Pwyllog gyda'n gilydd
Mae Pwythau Pwyllog wedi profi'n llwyddiant ddydd Sadwrn diwethaf. Ymhlith y gwaith a gwelwyd yma roedd gwau cardigan, tapestri, gwaith cain gydag edau arian, a gwaithbrodio llun. Roedd pawb yn mwynhau 'r sesiwn hamddenol, gyda chyfle i gyfnewid syniadau a helpu'n gilydd. Fel canlyniad bydd y cyfarfod nesaf ar Fore Sadwrn 23 Tachwedd, 10.30-12.00 Beth am ymuno gyda ni?
Mae' amgueddfa yn ddiolchgar i gynllun 'Gyda'n gilydd' Cyngor Gwynedd am noddi'r sesiynau misol.
RHAGLEN GWEITHGAREDDAU GAEAF 2019-20 NEWYDD
Dyma grynodeb o'n gweithgarwch dros fisoedd y gaeaf. Croeso cynnes i bawb ymuno a'r sesiynau amrywiol a difyr, a phob un er lles yr Amgueddfa - Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Gadewch neges ar y ffon, (01758 721 313) neu anfonwch e-bost i afllmm@yahoo.com gyda'ch ymholiad neu i sicrhau'ch lle /tocyn. Gwell byth, galwch heibio ar bnawn Sadwrn! Atebir pob neges o fewn 5niwrnod gwaith.
Newid Oriau Agor diwedd 2019
Mae'r Amgueddfa ar gau 01.11.19 - 08.11.19, ac yn agor bob bnawn Sadwrn o 9fed o Dachwedd i 14eg o Ragfyr o 12.30- 3.30 pm. Dewch am banad bnawn Sadwrn - croeso cynnes iawn.
Cyfle olaf!
Dim ond dau ddiwrnod-dydd Mercher a dydd Iau Hydref 30 a 31 - sydd gennych i alw heibio a gweld ein Harddangosfa arbennig , hefyd i fanteisio ar ein Sêl.
Dowch yn llu! Agor 10.30-4pm
Eisiau: enw a chartref i mi!
Ia, mae'r ddol yma angen cartref newydd. Mae gennym ychydig o sgwariau enw ar ôl yma yn yr amgueddfa, rhowch gynnig ar enwi'r crefftwaith campus yma, (dim ond 50c) a phwy a wŷr, efallau bydd y ddol yn dod i fyw atoch chi ! (Presant hyfryd i unrhyw blentyn).
Dyma'r enwau sydd ar ôl:
Valerie, Shân, Valmai, Non, Gloria, carla, Ruth , Bethan, Beti, Elinor, Claire, Mary, Juliet Sioned, Mari ... beth amdani!
Byddwn yn datgelu ei henw ar Hydref 31, hanner dydd.
Bore Coffi MacMillan
Diolch o galon i bawb a wnaeth gyfrannu, helpu a chefnogi'r Bore Coffi MacMillan a gynhaliwyd fore Sadwrn 19eg o Hydref. Llwyddon ni i godi dros £300 !
Adroddiad llawn a lluniau i ddilyn.....
Sêl!
Chwilio am anrhegion chwaethus? Tyd draw i'r amgueddfa lle mae popeth yn ein siop ar werth am bris arbennig!
Cyntaf i'r felin......
(gwell byth i'n Cyfeillion: rhowch wybod i ni eich bod yn un o'n Cyfeillion ac mi gewch 40% i ffwrdd!!!)
Croesewir Cyfeillion newydd , ffurflenni wrth y dderbynfa, dim ond £10 y flwyddyn.
Lluniau: Nwyddau chwaethus, anrhegion delfrydol!
Bore Coffi MacMillan
Dewch i gael paned o goffi a chacen - a chodi arian i gefnogi Macmillan ar yr un pryd!
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Dros 300 o blant yn mwynhau sioe ryngweithiol wych 'mewncymeriad'
Diolch i bawb am gefnogi'r Sioe 'Pwy sydd am fynd i'r môr? yr wythnos ddiwethaf. Daeth dros 300 o blant i'r Amgueddfa i fwynhau dysgu am ein hanes diwydiannol a morwrol. Wythnos brysur, llawn chwerthin, cân a dysgu!
Croeso cynnes pob amser i ysgolion ymweld â ni. Cysylltwch i drafod eich anghenion.
Llun: Plant ysgol Nefyn yn griw ar yr 'Amlwch Rose' gyda'r mêt, 'Seus Ifans o Nefyn
Môr o ganu hwyliog
Roedd yr Amgueddfa yn for o gân yn ein noson Siantis Môr. Diolch o galon i Gôr Ceiri, ei harweinydd Sianelen Pleming, a' i chyfeilydd Nerys Griffiths am gynnal noson hwyliog cartrefol. Enillydd y raffl oedd Jôs Giat-goch. Diolch i bawb am eu cymorth a'r cefnogaeth!
Llun 1: Sianelen Pleming a Chôr Ceiri .
Llun 2: Y gynulleidfa yn barod i ganu sianti.
Llun 3: Sianelen Pleming yn traethu ar hanes y sianti Cymraeg.
Groesawu partïon ysgolion lleol
Yn ein Hamgueddfa yr wythnos hon(23-27 Medi) rydym yn falch i groesawu partïon ysgolion lleol i fwynhau Sioe Hanes y Chwyldro Ddiwydiannol yng nghwmni'r Llongwr ifanc 'Seus o Nefyn (Tomos Wyn). Cynhyrchiad cwmni drama 'mewncymeriad' yw'r sioe undyn
'Pwy sydd am fynd i'r Môr?', gyda digon o hwyl, chwerthin a sŵn ynghanol y dysgu am hanes mordeithiau yn y 19eg ganrif. Awdur y sgript yw Mared Llywelyn.
Bydd yr amgueddfa yn agored fel arfer, ond gair o rybudd: bydd hi'n dipyn fwy swnllyd a bywiog nag arfer!!!
Llun 1: Tomos Wyn yn perfformio sioe 'Pwy sydd am fynd i'r Môr?' I wrandawyr ifanc Llŷn.
Llun 2: Yr actor a chanwr Tomos Wyn ac awdures y Sioe Mared Llywelyn.
Apel am help! 50 munud y mis
Mae angen Cymry Cymraeg i ymuno yn ein sesiwn sgwrsio!
Ers mis Mehefin rydym wedi bod yn cynnal sesiynau sgwrsio yma yn yr Amgueddfa i helpu cymathu pobl sy'n dysgu Cymraeg.
Ond mae angen mwy o siaradwyr rhugl i ddod i siarad gyda'r criw.
Peidiwch a bod yn swil, y cyfan mae angen ei wneud ydy siarad, siarad, siarad. Sgwrsio'n naturiol am bob dim dan haul, a mwynhau helpu ein llywodraeth gyrraedd targed uchelgeisiol.... dowch i cefnogi'r dysgwyr a'ch Amgueddfa.
Sesiwn nesaf : Medi 28 - 11 o'r gloch
Mared Llywelyn
Braf oedd croesawu Mared Llywelyn i'r Amgueddfa yn ddiweddar i gynnal noson. Cafwyd sgwrs am y sioe mae hi wedi sgwennu a sgriptio ar gyfer cwmni Mewn Cymeriad. Teitl y sioe yw 'Pwy sydd am fynd i'r mor?' ac roedd hi'n bleser clywed bod Mared wedi gallu
cynnwys manylion am hanes morwrol Nefyn yn y stori, sydd wedi ei setio yn nyddiau'r chwyldro diwydiannol. Mab i sgotwr o Nefyn yw'r prif gymeriad sy'n breuddwydio am fod yn gapten ar long ei hun ryw ddydd...
Rydym yn ffodus cael hogan dalentog fel Mared yn dewis byw a chyfrannu i'w bro. Diolch yn fawr, Mared, a phob dymuniad da i'r dyfodol.
Bydd y sioe yn cael DEG perfformiad yn yr Amgueddfa, gydag ysgolion cynradd y dalgylch yn dod yma i fwynhau gweld gwaith Mared. Y cyfarwyddwr yw Gethin Roberts, cyn myfyriwr yng Ngholeg Meirion Dwyfor, felly mae blas lleol i'r cynhyrchiad.
Braint yw cyflwyno ein hanes ni trwy gyfrwng gwaith hogan leol yma yn ein hamgueddfa i'r genhedlaeth iau. Diolch i Eleri Twynog, Mewncymeriad, Mared, Gethin, Tomos Wyn yr actor a chyflwynydd, ac i bob ysgol sydd wedi gweld yn dda i ddod i gefnogi'r fenter. Cydweithio hapus!
Llun 1: Mared yn trafod ei gwaith
Llun 2: Mae sioe 'Pwy sydd am fynd i'r môr?' Yn gofyn am gyfraniadau o'r gynulleidfa; sbïwch pwy gaeth ei 'presgangio' yn ddiweddar - Diolch, Mari Gwilym!
Taith Gerdded trwy Hanes Morwrol tref Nefyn
Ar fore braf o Hydref yn ddiweddar mentrodd criw ar daith o gwmpas y dref i weld llefydd o ddiddordeb hanesyddol a dysgu am ein hanes morwrol cyfoethog.
Ein harweinydd oedd Meinir Pierce Jones ac roedd pawb yn rhyfeddu at ei gwybodaeth wrth iddi ein tywys o gwmpas y dref. Eifon bwriad yw cynnal nifer o deithiau tebyg yn y dyfodol, felly gwyliwch ein gwefan am fanylion !
Llun : Y criw ar ddechrau'r daith
Ar Bererindod
Roedd yr Amgueddfa yn llawn nos Iau ddiwethaf i glywed Andrew Jones, Archdiacon Meirionnydd, yn traethu ar agweddau amrywiol iawn yn ymwneud á phererindota, yn y gorffennol a hyd heddiw. Trafodwyd dylanwadau, dyheadau, lleoliadau a llawer mwy mewn sgwrs difyr a goleuedig. Bydd disgwyl mawr am gyfrol Andrew, mae'n siwr.
Llun:
Pnawn difyr yn yr Amgueddfa
Mae'r amgueddfa arbennig hon yn croesawu pawb o bob oed, yn unigol, yn deuluoedd neu'n grwpiau.
Dyma ddau lun bnawn Mercher diwethaf...
1. Dysgwr o Gaer-wysg, (oedd ar gwrs yn Nant Gwrtheyrn) yw'r dyn chwareus hwn - plant sy'n gwisgo i fyny yn ein caban fel rheol! Mae cydweithio hapus gyda'r Amgueddfa a Nant Gwrtheyn, ac y mae'n bleser gennym gael ymweliadau gan ddosbarth o ddysgwyr yn rheolaidd.
2. Dyma ddwy chwaer ar eu gwyliau a ddaeth i'r amgueddfa a mwynhau'r gweithgareddau amrywiol sydd gennym i blant o bob oed: gwisgo i fyny, lliwio, ceisio ein cwis, darganfod aroglau a gwyddoniaeth y pwlis, a phaentio pysgod.
Brysiwch yma cyn diwedd y gwyliau, blantos! Gennym bethau difyr yn y siop i chi, a hufen ia blasus.
Oes gennych chi bnawn rhydd i ddod i ymuno á ni fel gwirfoddolwr? Cysylltwch a ni. Ceir hyfforddiant, help a hwyl !
Cwrs Cymorth cyntaf i staff a gwirfoddolwyr yr Amgueddfa
Rydym bob amser yn ceisio ein gorau glas i ofalu am ein hymwelwyr.
Yn ddiweddar bu nifer o'n gwirfoddolwyr ar gwrs Cymorth Cyntaf mewn Argyfwng a drefnwyd yma yn yr amgueddfa y cyd gyda 'r Heliwr (diolch i Bethan). Gan obeithio na fydd dim yn digwydd, wrth gwrs...
Llun 1: Ar y chwith, Arweinydd y Cwrs, Marc Jones, Penrhyndeudraeth" yn dangos sut i ddelio gyda thagu
Llun 2: Staff yr amgueddfa yn ymarfer CPR
Raffl
Raffl! Prynwch eich tocynnau raffl o'r amgueddfa. Gwobrau gwych!
Noson sgwrs
Cafwyd sgwrs hynod o ddiddorol a chynhwysfawr gan cyn-archifydd Gwynedd, Gareth Haulfryn Williams, nos Iau 15eg o Awst. Ei destun oedd datblygiad y diwydiant masnach morwrol yn Llyn yn yr ail ganrif ar bymtheg. Roedd yn braf gweld yr amgueddfa yn llawn, a hyfryd oedd gweld pobl yn oedi i sgwrsio dros baned cyn troi am adra. Diolch i Eleri Llewelyn Morris am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.Gareth Haulfryn "llwytho llongau Llyn"
Gweithgareddau Plant
Mae ein rhaglen o weithgareddau amrywiol i blant oed cynradd dros y gwyliau haf wedi bod yn llwyddiant ysgubol eleni. Mae pob sesiwn wedi bwcio'n llawn ac y mae rhestr wrth gefn hefyd! Diolch yn fawr i bawb am gefnogi'r amgueddfa, i Val Wynne Jones am drefnu rhaglen amrywiol gwych, ac i bawb sydd yn cynnal y sesiynau hwyliog hyn.
Lluniau: Dyma hwyl! Bu'r plant yn creu llynges o rafftiau hwyliau gyda Margaret Taylor-Hill yn ddiweddar!
Hwyl a sbri diolch i Hunaniaith
Helfa Natur
Parti canu ar y traeth
Daeth criw o deuluoedd i draeth Nefyn i fwynhau gwledd o weithgareddau yn Gymraeg, wedi eu trefnu ar y cyd gyda Hunaniaith, sef Menter Iaith Gwynedd. Bu'r plant yn mwynhau gemau ar y traeth a helfa natur gyda Lea Connolly, cyn cael picnic. Ar ôl cinio daeth Gwenan Gibbard a'i thelyn i ganu casgliad o siantis mor a chaneuon eraill.
Diolch i bawb, yn enwedig Ifan Llewelyn am y trefniadau.
Dechrau da i sgyrsiau Awst
Cafwyd noson ddifyr yng nghwmni Peter Day, hanesydd morwrol a deifar tanfor profiadol yn ddiweddar, yn dysgu am 'fisti-fanyrs' deifars digywilydd !
Cofiwch am ein sgyrsiau eraill ym mis Awst 2019!
Teulu'r Traeth!
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Sgyrsiau nos Iau yn dechrau'r wythnos hon!
Dewch yn llu nos Iau yma (Awst 8fed) i'r Amgueddfa erbyn 7.30pm i glywed hanes llongddrylliad yr 'Iot Mary', a gollwyd yn 1675 ac a darganfuwyd yn 1971. Y Siaradwr yw Peter Day, Moelfre. Traddodir y ddarlith yn Saesneg.
Mynediad £3, paned a siop hwyr ar gael
Lansio Llyfr Awdures o Nefyn
Bu lansiad llyfr newydd yr awdures Ann Pierce Jones yn Amgueddfa Forwrol Llyn yn achlysur i groesawu un o blant Nefyn yn ol i'w chynefin.
Cafwyd noson hwyliog braf yng nghwmni Ann gyda darlleniadau o'i nofel 'Glasynys' gan Lois Elenid, ac adloniant swynol gan Twm Morys a Gwyneth Glyn.
Trefnwyd y noson ar y cyd gyda'r Amgueddfa, Gwasg y Bwthyn a Llen Llyn. Diolch i'r gwirfoddolwyr a ddaeth i helpu gweini ar y noson.
Plant Ysgol Morfa Nefyn a fu ar ymweliad i'r amgueddfa
Plant ysgol Morfa Nefyn a fu ar ymweliad yn ddiweddar i ddysgu am longddrylliadau arfordir Llŷn.
Plant Ysgol Tudweiliog a fu'n meddiannu'r Amgueddfa
Daeth plant blwyddyn 5 a 6 ysgol Tudweiliog i'r amgueddfa hon yn ddiwedar, a chymeron nhw drosodd am y diwrnod.! Do, bu dwsin o helpwyr ychwanegol yma, yn cynnig help llaw, ond hefyd yn cyfrannu at ein gwaith trwy ddod á'u gwaith ar longdrylliad y Steward, a hanes anfarwol Twm a Jac i ddangos i ymwelwyr. Roedd y plant wedi creu ffilm yn dweud hanes Twm a Jac, ac roeddent hefyd wedi rhaglenni gemau cyfrifiadurol ar destun y Stewart a'r Amgueddfa. Gwych ! Bu arddangosfa o waith celf a chrefft y plant yn yr amgueddfa dros y penwythnos, ac ymwelwyr yn dotio at y gwaith i gyd. Syniad y plant oedd cyfrannu cacennau i wneud stondin arbennig i'r diwrnod yn y caffi, a llwyddon nhw i godi £33.20.
Llun: Plant Ysgol Tudweiliog a fu'n meddiannu'r Amgueddfa (a gweithio'n galed yna) yn mwynhau seibiant gyda Mrs Janet Hughes.
Criw Merched y Wawr Talsarnau
Rydym pob tro yn awyddus i groesawu grwpiau, o bell ac agos, i ymweld â ni. Dyma griw Merched y Wawr, Talsarnau, Ardudwy.
Cymryd Seibiant o'r Môr
Mae Amgueddfa Forwrol Llyn yn hynod ddiolchgar i Gapten Meinir Pierce Jones am ei gwaith diflino yn cael yr amgueddfa hon yn 'ship-shape' a ffit i bwrpas. Mewn noson arbennig yn y Nanhoron yn ddiweddar daeth dros 30 o gyd-forwyr i ffarwelio a hi a chyflwynwyd llun trawiadol iddi o Eglwys Santes Fair fel arwydd o'n ddiolchgarwch iddi.
Hyrwyddo'r Gymraeg yn yr Amgueddfa
Ar y fore Sadwrn olaf yn y mis mae clwb sgwrsio wedi dechrau yn ein hamgueddfa. Daw griw o ddysgwyr am baned a sgwrs anffurfiol, ac y mae croeso cynnes i bawb ddod i ymarfer eu Cymraeg ac ennill hyder, dim ots pa safon. Mae Martyn Croydon, tiwtor i lawer ohonynt, yn dwad i helpu, ond sgwrsio'n naturiol yw'r nod, does dim gwers na chywiro!! Yn wir, mae croeso mawr i siaradwyr brodorol hefyd - dowch i gefnogi'r siaradwyr newydd!
Clwb Sgwrs yn cyfarfod mis Mehefin.
Llongyfarchiadau mawr i bawb
Mae gan yr amgueddfa hon griw o wirfoddolwyr ymroddedig sy'n gweithio'n galed - hebddynt ni fyddai'n bosib i'r drysau agor pum diwrnod yr wythnos yn ystod yr haf!
Un o'r pethau cyntaf wnaeth Jina oedd eu henwebu ar gyfer gwobr arbennig Wythnos Gwirfoddoli ym mis Mehefin, a do bu'r enwebiad yn llwyddiannus. Yn anffodus dim ond lle i dri oedd yn y dathliad, felly tynnwyd enwau o het a'n cynrychiolwyr yn derbyn tystysgrif hardd ar ran pob un ohonoch ym Morthmeirion oedd Gwyneth Jones, Margaret Roberts a Dilys Williams.
Diolchwyd i Val Wynne jones am drefnu'r rota bob mis.
Rydym bob amser yn hapus i gael gwirfoddolwyr newydd - cysylltwch á Val neu unrhyw aelod o'r pwyllgor.
Llun o'r gwirfoddolwyr a oedd yn cynrychioli'n holl wirfoddolwyr ac yn derbyn tystysgrif am eu gwasanaeth gwirfoddoli yn yr Amgueddfa gan Mantell Gwynedd. Yn y llun mae Dilys Williams, Margaret Roberts, Gwyneth Jones, gyda Val Wynne Jones sy'n trefnu'r rota gwirfoddolwyr. Llongyfarchiadau mawr i bawb.
Arddangosfa dros dro
Mae'r arddangosfa Porthladdoedd coll wedi dod i ben - Diolch i bawb a ddaeth i weld yr arddangosfa arbennig hon, ond mae ar ei ffordd yn ól i Abertawe erbyn hyn. bydd arddangosfa arbennig arall ar ddiwedd yr haf, pryd y byddwn yn olrhain datblygiad y diwydiant twristiaeth yn Nefyn a'r ardal.... rhywbeth i edrych mlaen ati.
Rhaglen gweithgareddu Haf i Blant
Mae rhaglen gweithgareddu Haf i Blant a Rhaglen sgyrsiau Haf yn barod. Bydd manylion yma yn y dyddiad nesaf.
ARDDANGOSFA PORTHLADDOEDD COLL
17 Ebrill - 30 Mehefin
Mae'r arddangosfa hon yn tynnu sylw at rai o'r porthladdoedd coli hyn. Fe'i paratowyd ar gyfer dathlu Blwyddyn y Mor 2016 ac mae ar ei howting gyntaf o Amgueddfa'r Glannau, Abertawe i Amgueddfa Forwrol Llyn.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Maelgwn Cymru
Ar Ionawr 25 a 26 bydd Sioe Deithiol Maelgwn Cymru yn cael ei chynnal yn yr amgueddfa. Galwch draw i rannu eich storiau, lluniau ac atgofion am y creaduriaid hynod yma.
Mynediad am ddim. Te a choffi ar gael. Croeso i bawb.
10.30am-4pm
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
I weld archif o hen newyddion - Cliciwch yma