Ecoamgueddfa
Datblygu Ecoamgueddfa gyntaf Cymru yma’n Mhen Llŷn!
Mae’r cysyniad o’r Ecoamgueddfa yn boblogaidd iawn yn rhai o wledydd Ewrop, ond hon yw'r gyntaf i gael ei datblygu yng Nghymru. Nod yr Ecomgueddfa ym Mhen Llŷn yw dathlu cyfoeth yr ardal gyfan wrth i chwech sefydliad treftadol ddod ynghyd i weithio mewn partneriaeth. Mae aelodau partneriaeth yr Ecoamgueddfa yn cynnwys, Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Felin Uchaf, Plas Heli, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgueddfa Forwrol Llŷn a Nant Gwrtheyrn.
Does dim model penodol ar gyfer unrhyw Ecoamgueddfa, yr un peth sy’n gyffredin rhwng pob un yw’r ffaith bod pob sefydliad yn cydweithio ac yn rhannu’r un weledigaeth. Mae hwn yn gyfle gwych i gynyddu balchder cymunedol ym Mhen Llŷn a chodi proffil yr ardal yn fyd-eang a thorri tir newydd wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd arloesol a chadarnhaol.
Gweledigaeth yr Ecoamgueddfa yw gweld cynnydd mewn twristiaeth ddiwylliannol, gan arwain at ddiwydiant twristiaeth pedwar tymor cynaliadwy, fydd yn dod a buddion economaidd i’r ardal yn ogystal â rhai cymdeithasol.
Am ragor o wybodaeth am Eco-Amgueddfa Pen Llŷn, cysylltwch gyda Gwenan Griffith ar post@ecoamgueddfa.org neu dilynwch yr #Ecoamgueddfa ar Twitter a Facebook fel Ecoamgueddfa, neu drwy’r hash nod #Ecoamgueddfa.