Amdanom Ni
Ein Gweledigaeth
Ein nod yw:
‘cynnal amgueddfa gyffrous fel atyniad gwych, gan ddefnyddio creiriau hanesyddol, dogfennau a’r dechnoleg diweddaraf er mwyn arwain y gymuned leol ac ymwelwyr – o bob oed – ar daith gofiadwy drwy hanes morwrol a chymdeithasol Llŷn’
Trysorfa o Hanes Morwrol Penrhyn Llŷn
Yr Amgueddfa ydi’r lle i ddod er mwyn cael cip ar hanes cyfareddol yr ardal. Daw ddoe yn fyw wrth weld hanes yr hen gapteiniaid a mordeithiau pell, y smyglo a’r darganfyddiadau diddorol diweddar. Mae bob math o drysorau i’w gweld yma: arteffactau morwrol, offer pysgota, peintiadau llongau, hen fapiau ac ati.
Rydym ar Lwybr Arfordir Cymru a Llwybr y Pererinion. A gallwch ddilyn teithiau cylchol, addas i gadair olwyn neu bram, oddi yma.
Dewch i gael blas ar hanes morwrol Pen Llŷn: anturiaethau, llongddrylliadau, pysgota Penwaig a mwy:
- - Casgliad o greiriau hynod
- - Ffilmiau difyr i’w gwylio
- - Arddangosfeydd parhaol a thymhorol
- - Sgyrsiau a theithiau cerdded
- - Casgliad gwych o hen ffotograffau
Mae croeso mawr i blant yn yr Amgueddfa! Mae yna gemau hwyliog, caban llong, pwlis chwarae, cwis, sesiynau crefft a mwy.