Gwobr Trysor Cudd 2019
Newyddion gwych! Mae’r Amgueddfa wedi ennill gwobr Trysor Cudd gan Croeso Cymru eleni! Mae’r amgueddfa yn atyniad gwych ar gyfer teuluoedd, grwpiau ac unigolion, ac mae digon i blant ei wneud yma - o chwarae yn y caban i wisgo mewn dillad o’r oes a fu. Dyma le gwych i ddod ar dywydd gwlyb – bydd croeso cynnes yn eich aros a chewch baned a chacen gartre yn y caffi. Dewch draw i’n darganfod ni!
I weld yr tystysgrif - cliciwch yma