Ein Partneriaid
Cylchdeithiau Digidol Newydd Llŷn
Mewn cydweithrediad gyda Partneriaeth Tirlun Llŷn mae’r Uned AHNE wedi llunio cyfres o deithiau digidol, wedi eu seilio ar Borthdinllaen, Nefyn, Pwllheli, Llanbedrog, Rhiw ac Aberdaron.
Mae’r teithiau, sydd wedi eu pecynnu mewn “App”, yn ffordd wych o fwynhau amgylchedd naturiol Llŷn drwy gerdded ar lwybrau cyhoeddus neu dir mynediad agored. Gyda’r “App” fe allwch darllen am hanes, natur a nodweddion diddorol ardal y daith wrth i chi gerdded. Y gobaith yw y bydd yr “App” hefyd yn lleihau’r galw am daflenni gwybodaeth ac arwyddion allan yn y maes.
Llawrlwythwch yr wybodaeth o’r wefan gyda Wi-Fi i’ch ffôn neu dabled ddigidol ymlaen llaw. Unwaith byddwch wedi llawrlwytho’r system, mae’n hawdd i’w ddefnyddio ac ni fydd angen signal ffôn arnoch wrth grwydro chwaith.
http://www.ahne-Llyn-aonb.org/40/cy-GB/Teithiau-Digidol