Datganiad Mynediad
Datganiad Mynediad
Nid yw’r datganiad mynediad hwn yn cynnwys dewisiadau personol o ran ein haddasrwydd ar gyfer pobl ag anghenion mynediad. Pwrpas y datganiad yw disgrifio’r adnoddau a’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig yma i westeinion/ymwelwyr.
Cyflwyniadô
Yn Amgueddfa Forwrol Llŷn, ym mhentref Nefyn, 6 milltir o dref farchnad Pwllheli cewch ymwelwyr y cyfle i ymchwilio i hanes morwrol a chymdeithasol yr ardal. Eglwys oedd yr amgueddfa yn yr hen amser (Santes Fair), ac mae’n hawdd dod o hyd iddi drwy chwilio am y llong dywydd ar dŵr yr eglwys.
Adeilad unllawr ydi Amgueddfa Forwrol Llŷn (gyda chroglofft lle caiff y creiriau eu cadw – dim mynediad i’r cyhoedd). Ar y llawr gwaelod mae ein harddangosfa, siop anrhegion a bar coffi.
Mae’r amgueddfa yn weddol fach a ddylai ymweliad ddim para mwy na tua awr. Mae croeso i ymwelwyr ofyn am gael gweld ffilm am hanes Nefyn, sy’n ychwanegu tua 25 munud at hyd ymweliad.
Mae aelod staff neu wirfoddolwyr wrth law bob amser os bydd arnoch angen unrhyw help.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu angen unrhyw help arnoch ffoniwch 01758 721313 neu ebostio afllmm@yahoo.com
Cyn Cyrraedd
Am fanylion am sut i gyrraedd a mapiau, defnyddiwch adran gyfarwyddiadau ein gwefan Fel arall, gallwch gynllunio eich taith mewn car neu ar drafnidiaeth gyhoeddus drwy ddefnyddio gwefan Cyngor Sir Gwynedd neu Traveline Cymru
Mae’r orsaf drên agosaf ym Mhwllheli, chwe milltir i ffwrdd. Rhif 8 yw bws Nefyn – a cheir bws tua unwaith bob awr. Mae ranc tacsis hefyd yn yr orsaf.
Saif yr Amgueddfa (LL53 6LB) ychydig bellter o’r ffordd (B) o Nefyn i Lithfaen. Dowch oddi ar y bws ar y groesffordd yng nghanol y pentref (Y Groes), cerdded ar hyd Stryd y Plas ar y dde, a chymryd y troad cyntaf ar y chwith, fydd yn eich arwain i’r Amgueddfa.
Cyrraedd a pharcio’r car
Mae’n iawn i ymwelwyr barcio o flaen yr amgueddfa (does dim cyfyngiadau) neu yn y maes parcio ar gornel Stryd y Mynach. Os gwelwch yn dda, parciwch ar ochr y ffrwd; preswylwyr lleol sy’n parcio ar yr ochr arall. Does dim tâl am barcio.
Mae grisiau a mynediad anabl yn arwain i’r amgueddfa. Mae’r ramp a’r llwybr sy’ arwian i’r amgueddfa ac at y lle picnic wedi’u palmantu. Mae croeso i gŵn tywys.
Mynediad a’r Dderbynfa
Mae’r mynediad i’r amgueddfa a’r siop ar y llawr gwaelod – ceir mynediad uniongyrchol a gwastad drwy’r cyntedd; does yna ddim canllaw. Mae’r dderbynfa gyferbyn â chi wrth i chi fynd i mewn i’r amgueddfa. Mae’r mynediad am ddim, ond mae yna flwch rhoddion, a bydd y staff neu’r gwirfododlwyr yn siwr o’i ddangos i chi!
Llawr gwenithfaen sydd i’r amgueddfa; nid oes rygiau na charpedi. Mae cadeiriau yma ac acw yn yr amgueddfa ar gyfer edrych ar hen luniau, gwrando ar hanes llafar a gwylio clipiau ffilm. Mae’r amgueddfa ei hun, y siop a’r bar coffi wedi’u goleuo’n effeithiol. Mae’r amgueddfa’n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Mae yna a ramp (sy’n cael ei gadw ar ochr dde’r brif ystafell, yn ymyl y cadeiriau) ar gyfer mynd i’r lwyfan, os bydd angen. Os bydd ymwelydd am fynd i fyny i’r llwyfan, dylai ofyn i aelod staff/gwirfoddolwr am help i osod y ramp yn ei le.
Ym mhen pella’r amgueddfa, ar y chwith i’r llwyfan, mae caban llong. Golau lamp gwan yn unig sydd ynddo. Pan aiff rhywun i mewn, bydd trac sŵn yn dechrau chwarae sy’n rhoi’r argraff o fod ar fwrdd llong. Ond does dim angen poeni, mae’r llawr yn wastad a dydi o ddim yn symud!
Siop a bar coffi
Wrth y fynedfa i’r amgueddfa, mae siop fach yn gwerthu anrhegion, cofroddion, teganau plant, llyfrau a chardiau (mae dau droellwr – un ar gyfer cardiau ac un ar gyfer llyfrau).
Yn y bar coffi ceir un bwrdd hir, a setl gefn uchel, gyda chdeiriau ar yr ochr arall. Gall defnyddwyr cadeiriau olwyn eistedd gyferbyn â’r fainc.
Dylai gwesteion eistedd a daw rhywun i weini arnynt, neu gallant ofyn wrth y ddesg. Gallwch gael te, coffi, diodydd oer, cacennau, bisgedi a hufen iâ, ond dim prydau bwyd. Rhowch wybod i ni am unrhyw alergedd bwyd.
Mae desg y dderbynfa yn isel, ac yn hwlyus i blant a defnyddwyr cadair olwyn wrth dalu am nwyddau.
Toiled
Mae yna un toiled ar gyfer dynion a merched, a’r anabl, sydd ar y dde wrth i chi fynd i mewn i’r amgueddfa. Mae’r drws yn 925mm (36½” ) o led. Mae yna 850 mm/33½ “ o ofod trosglwyddo i’r dde o’r toiled, wrth wynebu’r drws. Mae rheilen bob ochr i’r toiled ac un wrth y sinc. Mae’r llawr yn un gwrth-lithro.
Daw'r golau ymlaen yn otomatig. Mae’r sinc 780mm (31”) o’r llawr, ac mae rheilen ar yr ochr chwith. Cymerwch ofal; mae’r dŵr yn gallu bod yn boeth. Mae yna hefyd uned newid clwt/cewyn babi yn y toiled.