Be Sy Mlaen
Diwrnod Daeareg, Dewch a Charreg
Ar Ddydd Sul y 26ain o Hydref, bydd gweithgaredd ‘Diwrnod Daeareg: Dewch â Charreg’ i blant yma yn yr Amgueddfa, yn dechrau am 10:00. Mewn cyd-weithrediad â Gŵyl Amgueddfeydd Cymru, GeoMôn, GwyrddNi, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bydd amrywiaeth o weithgareddau fydd yn rhoi cyfle i ddysgu am gysylltiad daeareg gyda'r byd o'n cwmpas, a sut gellir dysgu mwy am hanes, bywydeg a newid hinsawdd yn ei sgil.
Newyddion
Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol
Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Amgueddfa yn chael ei chynnal yma ar nos Fawrth yr ail o Ragfyr 2025 am 6:30 os oes gennych ddiddordeb dod.
Cyfle gwirfoddoli
Mae gennym gyfle gwirfoddoli cyffrous yma yn yr Amgueddfa. Diolch i nawdd Cronfa Cymunedol Adra, rydym am wneud podlediad o atgofion pobl am Nefyn...
Newid i ddarlithoedd O'r Mor i'r Mynydd
Yn anffodus mae darlith Dr J. D. Davies ar yr 21ain o Awst wedi cael ei ganslo. Ymddiheuriadau am hyn.










