Bws Llŷn
Bws Arfordir Llŷn – O Ddrws i Ddrws
Bydd Bws Arfordir Llŷn yn mynd 4 diwrnod yr wythnos – dydd Iau, Gwener, Sadwrn a Sul rhwng Ebrill 2017 – 5ed Tachwedd 2017
Bydd dau fws yn mynd yn rheoliadd, un yn cychwyn o Llanbedrog ac yn mynd trwy Borth Neigwl i Aberdaron ac ymlaen i Nefyn, a’r llall yn cychwyn o Nefyn ac yn mynd trwy Borthor i Aberdaron ac ymlaen i Abersoch. Gall pobl ddal y bws, heb fwcio. Mae’r amserlen isod.Mi aiff y bws i Drefor hefyd ond rhaid bwcio hwnnw ymlaenllaw.
Mae wedi ei gynllunio ar gyfer pobl sydd eisiau cerdded arfordir Llŷn. Gallwch adael y car, dal y bws, a cherdded yn ôl
Sut i archebu? Trwy ffonio swyddfa O Ddrws i Ddrws 01758 721777 neu ebostio oddrwsiddrws@yahoo.co.uk
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth