Cyfleusterau
Caffi bychan, Siop, Adran Ymchwil (trwy apwyntiad). Meinciau picnic tu allan, a chwch chwarae i’r plant.
Y Caffi a'r Siop
Bydd te a choffi ar gael o’r caffi, ynghyd â bisgedi ac ati a hufen iâ.
Yn y siop gallwch brynu’r anrheg perffaith i’ch atgoffa o’ch ymweliad â’r amgueddfa. Mae gennym amrywiaeth o nwyddau a chofroddion sy’n adlewyrchu treftadaeth forwrol gyfoethog a thirwedd hudolus yr ardal. Ar gyfer y rheini ohonoch sy’n ymddiddori yn nhreftadaeth Llŷn, mae dewis eang o lyfrau gennym a chyfrolau hefyd am dreftadaeth forwrol Cymru.
Os ydych yn dymuno dod â chriw draw, gallwn drefnu lluniaeth ysgafn ar amser i’ch siwtio, gan gynnwys mis nos.