Hanes Yr Amgueddfa
Eglwys Santes Fair

Mae’r amgueddfa wedi’i lleoli yn Eglwys Santes Fair. Mae sylfeini Hen Eglwys Santes Fair yn dyddio o’r 6ed Ganrif, er fod yr adeilad presennol wedi’i ailadeiladu’n gyfan gwbl rhwng 1825-1827. Mae’r hen eglwys yn cartrefu casgliad unigryw yr Amgueddfa o arteffactau morwrol perthnasol ynghyd â gwybodaeth am longau sydd wedi’u hadeiladu yn lleol, y morwyr a’r capteiniaid. Yn y fynwent sy’n amgylchynu’r eglwys, mae beddi llawer o forwyr a chapteiniaid Nefyn a’r ardal leol. Mae cofnod o arysgrifeniadau cerrig beddi wedi’i dogfennu gan Gymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd [cyfres cofnodion M146].
I weld mwy o luniau - cliciwch yma
Hanes yr ailddatblygu

Sefydlwyd yr Amgueddfa yn 1977 gan grŵp o wirfoddolwyr oedd yn dymuno arddangos eitemau o ddiddordeb hanesyddol yn lleol. Bu’n rhaid cau yn 2000 yn sgil pryderon iechyd a diogelwch.
Yn 2007, daeth aelodau o’r gymuned at ei gilydd a ffurfio pwyllgor newydd i ailagor yr amgueddfa er budd ymwelwyr a thrigolion yr ardal. Sicrhawyd pecyn cyflawn o grantiau i wneud y gwaith yn cynnwys grant gan Gronfa Loteri’r Dreftadaeth, Llywodraeth Cymru, Cronfa Tir a Môr, AHNE Llŷn, Ymddiriedolaeth Drefol Nefyn, Cyngor Gwynedd a Chyfenter.
Yn yr amgueddfa ceir arddangosfa barhaol, llwyfan ar gyfer perfformiadau ar raddfa fach, cornel ymchwil, caffi a siop. Bydd mynediad am ddim er mwyn hybu pobl i ymweld yn aml. Trefnir rhaglen o weithgareddau i gynnal diddordeb gan gynnwys sgyrsiau amrywiol, gweithgareddau i blant a phobl ifanc,arddangosfeydd achlysurol a chyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith. Dechreuodd y gwaith adfer yng ngwanwyn 2012 gyda tho newydd ac yna ramp ar gyfer yr anabl. Gwnaed gwaith adfer sensitif a chyflawn ar yr hen eglwys ei hun yn cynnwys insiwleiddio, gosod llawr a ffenestri newydd a system wresogi Airsource.
Gwnaed un darganfyddiad syfrdanol yn ystod y gwaith o gloddio o dan y seiliau i gryfhau’r waliau pan ddaeth yr archeolegydd Matt Jones ar draws bedd cist hynafol o dan yr eglwys. Gallwch wylio ein ffilm sy’n adrodd yr hanes ‘Y Sgerbwd yn y Wal’.
Y Bedd Cist a’r Sgerbwd - cliciwch yma
Y gwaith adnewyddu

Dechreuodd y gwaith adnewyddu yng ngwanwyn 2012 pan roddwyd to newydd ar yr eglwys Santes Fair. Ariannwyd y gwaith hwn trwy grantiau gan AHNE Llŷn, Ymddiriedolaeth Drefol Nefyn a CADW.
Yng ngwanwyn 2013, adeiladwyd ramp newydd ar gyfer yr anabl. Ariannwyd y gwaith yma drwy grant y cynllun CADW Ein Treftadaeth a chymorth ariannol o Gronfa Tir a Môr. Cynlluniwyd y ramp i edrych fel y rheiliau ar fwrdd llong.
Ym mis Medi 2013, dechreuodd yr adeiladwyr ar y gwaith o fewn yr amgueddfa. Roedd hyn yn cynnwys insiwleddio’n drwyadl, gosod llawr ithfaen a llwybr ithfaen at y giât, adeiladu cegin a swyddfa , gosod ffenestri newydd ac ailbwyntio’r eglwys a’r tŵr. Ariannwyd y gwaith trwy grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol Llywodraeth Cymru.
Yn ystod y gwaith adeiladu bu’n rhaid gwneud gwaith i gadarnhau’r waliau a’r to, a dyma pryd y daeth y bedd cist a’r sgerbwd i’r golwg, ym mis Tachwedd 2013.
Y Bedd Cist a’r Sgerbwd - cliciwch yma
I weld mwy o luniau - cliciwch yma