Nefyn
Mae Nefyn, gyda’i bae diogel ac eang a thraeth tywodlyd, yn hen dre ddiddorol llawn hanes. I’r gorllewin tua phentre Morfa Nefyn gwelir olion hen batrwm caeau o’r Canol Oesoedd; i’r gogledd mae cyrion Cors Geirch a thua’r dwyrain gwelir bryniau Garn Boduan, Mynydd Nefyn a’r Gwylwyr.
Cychwynnodd Nefyn fel pentre pysgota bach. Erbyn yr 11g G roedd castell mwnt a beili yma ac roedd yn un o brif ganolfannau Tywysogion Gwynedd. Ymlaen i’r 13G roedd y dre yn fwrdeistref frenhinol ac yn ganolfan casglu trethi a dyledion. Erbyn 1293 roedd 93 o drethdalwyr yn Nefyn gan gynnwys nifer o fasnachwyr, gofaint aur, tafarnwr ac offeiriad o’r enw Madog. Roedd tua hanner y boblogaeth yn berchen ar rwyd bysgota neu gwch, gan dystio mor bwysig oedd pysgota.
Llosgwyd y dre i’r llawr gan wŷr Owain Glyndŵr oddeutu 1400 oherwydd ei chysylltiadau â choron Lloegr a bu’n hir iawn yn ailgodi. Tre fach amaethyddol oedd yn bennaf gyda thair ffair bob blwyddyn a marchnad wythnosol, ond yn raddol datblygodd yn ganolfan fasnachol i ogledd Llŷn. Pan alwodd Edmund Hyde Hall, awdur A History of Caernarvonshire , yn y dref yn 1810 rhoddodd adroddiad manwl ohoni. To llechi oedd ar y tai mwyaf diweddar, adroddodd, er mai tai to gwellt oedd y mwyafrif o hyd. Credai Hyde Hall fod y ffaith fod llechi’n cael eu defnyddio o gwbl, yn un o arwyddion ‘improvement’ . Byddai’r llechi hynny wedi eu cludo o Gaernarfon neu Borthmadog ar y môr, oherwydd erbyn y cyfnod hwn roedd masnachu ar y môr, yn cynnwys mewforio, allforio ac adeiladau llongau, wedi gafael mewn difri. Rhwng 1770 ac 1860 adeiladwyd 150 o longau ar draeth Nefyn.
Mae hon yn dref â thraddodiad morwrol hir ac anrhydeddus. Mae llawer yn dal i sôn am drigolion y dre fel ‘penwaig Nefyn’ gan adleisio’r cyfnod hyd at tua 100 mlynedd yn ôl pan oedd Nefyn yn ganolfan diwydiant pysgota penwaig brysur iawn. Ar y wefan Rhiw.com rhestrir dim llai na 154 o gapteiniaid sydd wedi eu claddu neu â chofeb i’w coffau ym mynwent newydd Nefyn yn unig – cyfanswm anhygoel!
Tua 1400 yw poblogaeth Nefyn heddiw gyda 73.72% o’r boblogaeth yn enedigol o Gymru a 77.94% yn siarad Cymraeg. Mae’r Amgueddfa wedi cynhyrchu taflen Crwydro Nefyn, a gallwch lawrlwytho copi ohoni oddi ar y wefan hon.
Pamffled Crwydro Tref Nefyn - cliciwch yma