Llŷn
‘Oriel fyw yn llawn darluniau ydi Penrhyn Llŷn’
Pen Llŷn yw’r tafod tir sy’n ymestyn allan i’r môr yng ngogledd orllewin Cymru. Ar fap, dyma’r ardal i’r chwith o bentrefi Llanaelhaearn a’r Ffôr a thre Pwllheli a’r A497 sy’n rhedeg o Bwllheli i Nefyn. Mae’r rhan fwyaf o’r ardal hon yn rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn (AHNE Llŷn) - symbol yr AHNE ydi’r frân goesgoch sy’n magu mewn sawl llecyn yn yr ardal.
Ardal amaethyddol ydi hon yn bennaf, gyda ffermydd magu gwartheg tewion a defaid a rhywfaint o gnydau fel haidd, had rêp a thatws. Mae’n hardd ym mhob tymor ac mae digonedd o lwybrau cerdded i lefydd fel Garn Fadrun, Garn Boduan, Mynydd Tir Cwmwd yn Llanbedrog a’r holl lannau moroedd. Nefyn a Phwllheli ydi’r unig ddwy dre, er bod Abersoch hefyd yn dynfa fawr gyda siopau a thai bwyta deniadol. Pentrefi ydi gweddill anheddau yr ardal – Botwnnog, Sarn, Aberdaron, Penrhos, Morfa Nefyn ac yn y blaen. Prif ddiwydiant arall Llŷn ydi twristiaeth. Mae poblogaeth y penrhyn yn treblu yn ystod yr haf ac ymwelwyr yn mwynhau traethau tywodlyd fel Llanbedrog, Nefyn a Phorthor a bydd parciau carafannau a meysydd gwersylla yn llawn. Cynhelir marchnad ym Mhwllheli ar ddydd Mercher a dydd Sul ac mae yno sinema a chanolfan groeso i ymwelwyr yn y Llyfrgell.Mae’r Gymraeg yn dal ei thir yn dda yn Llŷn er gwaetha’r mewnlifiad cyson dros y 25 mlynedd diwethaf. Mae yma 12 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn Llŷn a dwy ysgol uwchradd, sef Ysgol Botwnnog a Glan-y-môr, Pwllheli. Ym Mhwllheli hefyd ceir Coleg Meirion-Dwyfor i ddisgyblion 16-18 oed sy’n rhan o grŵp Llandrillo-Menai.
Dros y canrifoedd mae Llŷn wedi ysbrydoli beirdd, llenorion, arlunwyr a ffotograffwyr lu yn cynnwys Christine Evans, Myrddin ap Dafydd, R S Thomas, Emrys Parry a Wini Jones Lewis.Mae Llŷn yn gyfoethog o ran ei threftadaeth forwrol gyda chlybiau hwylio ym Mhwllheli, Abersoch ac Aberdaron, a rasys hwylio drwy’r tymor o’r Pasg tan ddiwedd Hydref. Daw unigolion hefyd i bysgota môr, deifio a mwynhau amrywiol chwaraeon dŵr fel sgio dŵr ac i fwynhau’r traethau. Gyda’r môr yn ei amgylchynu ar dair ochr, mae gan Lŷn draddodiad morwrol hir a chyfoethog yn cynnwys adeiladu llongau, pysgota, mordeithio, llongddrylliadau a môr-ladron sy’n ymestyn o’r canol oesoedd hyd heddiw.
I weld mwy o luniau - cliciwch yma