Be sy Mlaen
Diwrnod Daeareg, Dewch a Charreg
Ar Ddydd Sul y 26ain o Hydref, bydd gweithgaredd ‘Diwrnod Daeareg: Dewch â Charreg’ i blant yma yn yr Amgueddfa, yn dechrau am 10:00. Mewn cyd-weithrediad â Gŵyl Amgueddfeydd Cymru, GeoMôn, GwyrddNi, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, bydd amrywiaeth o weithgareddau fydd yn rhoi cyfle i ddysgu am gysylltiad daeareg gyda'r byd o'n cwmpas, a sut gellir dysgu mwy am hanes, bywydeg a newid hinsawdd yn ei sgil. Bydd cyfle i edrych ar y gwahanol fathau o gerrig a chen ym muriau’r Amgueddfa, dyfalu pwysau carreg, dod a charreg eu hunain i gael gwybod ei gefndir, a chael sgwrs am y cysylltiadau yn hanes Llŷn ac Ynys Môn. Bydd y gweithgareddau hyn yn mynd ymlaen yn ystod y dydd, felly gellir aros drwy’r dydd, neu ddewis digwyddiad i ddod iddo. Mae mynediad am ddim, ond mae angen archebu lle. Hefyd, rhaid i blant ddod gydag oedolyn, a dewch a bocs bwyd os am aros drwy’r dydd. Gellir archebu lle neu holi am amserlen benodol y dydd drwy ebostio afllmm@yahoo.com.