Newyddion
Nadolig Llawen
Nadolig Llawen, heddychlon i chi a phob dymuniad da ar gyfer 2023 oddi wrth staff, pwyllgor, a gwirfoddolwyr Amgueddfa Forwrol Llýn (yn Gymraeg)
Allweddellau i'r Amgueddfa!
Rydym yn hynod ddiolchgar i Gronfa Unigrwydd ac Ynysigrwydd Llywodraeth Cymru am y cyfle i ni fuddsoddi yn y piano digidol safonol hwn. Mae sain organ bendigedig arno hefyd. Bydd i'w glywed yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn fuan, ac wrth gwrs yn ein noson carolau. Gyda diolch i Ian Jones, Piano Cymru Porthmadog am ei gyngor proffesiynol a gwasanaeth. Bydd ein rhaglen 'morio canu' yn barod yn fuan, dowch i gysylltu os oes gennych syniad am ganeuon!
Gweithdy hanes teulu.
Cynhaliwyd ein gweithdy cyntaf dd Sadwrn 22ain o Hydref. Diolch i grant gan Gronfa Treftadaeth y loteri roedden yn gallu cynnig pnawn cyfan o wybodaeth arbenigol yn rhad ac am ddim i 25 o bobl awyddus i olrhain eu cyndadau, mewn cydweithrediad gyda Chymdeithas Hanes Teuluoedd. Cafwyd cyflwyniadau graenus a difyr gan John Dilwyn Williams, Mair Read a Dewi Jones, swyddogion ac aelodau'r Gymdeithas weithgar hon. Roedd arddangosfeydd o gynnyrch CHTG, a hefyd siampl o waith ein gwirfoddolwraig arbenigol Gwerfyl Gregory, sydd wedi bod yn helpu nifer o bobl gyda'u hymholiadau ar ran yr Amgueddfa hon. . Enillydd lwcus y pecyn prawf DNA oedd Wini Jones Lewis, Mynydd Nefyn. Gyda diolch yn arbennig i griw yr amgueddfa, Janice, Julia ac Eurwen, am helpu gyda'r lluniaeth. Cynhelir sesiwn arall yn y flwyddyn newydd i rannu profiadau a dysgu mwy. Hobi delfrydol i bawb!
Ras!
Bu'r Amgueddfa yn falch i gynorthwyo gyda threfniadau Ras Mynydd Nefyn ddydd Sul 23ydd o Hydref. Diolch am bob rhodd at yr Amgueddfa, a llongyfarchiadau mawr i enillwyr y tlysau hyfryd o ithfaen. Braf yw cydweithio yn ein cymuned!
Bore coffi blasus iawn
Daeth tua 70 o bobl trwy ein drysau fore Sadwrn diwethaf i gefnogi ein bore coffi er budd Macmillan a'r Amgueddfa. Bu'r genod yn y gegin yn hynod o brysur, felly Gwyneth wrth y bwrdd raffl, Dilys wrth y bwrdd cynnyrch gartref a Laura Wyn gyda'r tombola. Cododd dros £300 at y ddau achos teilwng. Diolch i bawb am y rhoddion, help ac yn arbennig diolch i bawb a, ddaeth.
Enillwyr y raffl oedd 1. Hampr - Gwen Cilie. 2. Potel o wisgi - Julia Griffiths. 3. Twb o 'celebrations' - Marian, Y Fron.
DELWEDD fel noddwyr i'r Amgueddfa
Noddwr arall ! Hoffwn ni groeso DELWEDD fel noddwyr i'r Amgueddfa, a diolch iddynt am eu cefnogaeth i ni.
Enillydd Gwobr Daniel Owen yn y Genedlaethol
Cyn-rheolwr ein Hamgueddfa yn enillydd Gwobr Daniel Owen yn y Genedlaethol, am nofel hanesyddol morwrol lleol campus!
Llongyfarchiadau gwresog i Meinir Pierce Jones am ei champ yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron eleni.
Bydd ei cyfrol 'Capten' ar werth yn yr Amgueddfa yfory. Mynnwch eich copi!
Cysylltiadau rhyngwladol
Am y tro cyntaf - ond ddim y tro olaf - bu'r Amgueddfa i lawr ar draeth Nefyn fore Sadwrn 23ain - er y glaw a'r tywydd anffafriol, er mwyn cynnal cystadleuaeth codi castell tywod.
Arwydd o gyfeillgarwch at y Cymry draw ym Mhatagonia oedd y digwyddiad. Mae criw wedi bod yn cynnal cystadleuaeth tebyg ers ychydig o flynydde yn rhan o ddathliadau Gwyl y Glaniad ym 1865. (Gwglwch i gael yr hanes yn llawn!)
Dyma'r cestyll buddugol, a'u hadeiladwyr Ianto a Caleb. Diolch yn fawr iawn i chi, hogia, am fentro, a gwneud hi'n gystadleuaeth o safon...mae'r lluniau wedi eu hanfon at ein ffrindiau draw yn yr Wladfa.
Gŵyl Ganoloesol Madrun
Ers talwm y fynwent oedd y lle i gynnal gwyliau mabsant neu ffeiriau... wel, mae’n wir deud bod yr Amgueddfa wedi cynnal digwyddiad yn deilwng o’r hen draddodiad hwnnw trwy fentro cynnal ei gŵyl awyr agored gyntaf erioed, Gŵyl Fadrun. Gan fod y fynwent yn anwastad, a’r fath beth â rheolau Iechyd a Diogelwch mewn grym yn ein hoes soffistigedig ni, bu’r Amgueddfa yn hynod o ddiolchgar am gael benthyg Cae Bryn Mynach gan Gyngor Tref Nefyn ar gyfer gweithgareddau mentrus megis dawnsio gwerin gydag Anti Neta, a sgiliau syrcas ( dan ofal Cimera).
Pwrpas yr ŵyl oedd tynnu sylw at ein Sgerbwd ( a enwyd Madrun gan blant lleol), a’r arddangosfa barhaol sydd i’w gweld yma, ac sy’n cynnwys ail-gread o fedd cist o gerrig lleol yn dyddio’n ôl i’r 12fed ganrif. (Dowch draw i’r gweld yn ystod y gwyliau haf!)
Crëwyd llwyfan y arbennig i’r ŵyl gan Mr Emrys Griffiths a gafodd ddefnydd ardderchog trwy’r pnawn : plant Ysgol Nefyn yn agor y digwyddiadau’n llawn asbri, perfformiadau cofiadwy gan Janet Hughes a Manon Prysor, a Gwilym Bowen Rhys yn cloi’r digwyddiad yn ei ffordd dihafal ei hun. O gwmpas y fynwent roedd nifer o stondinau- cacennau, gweithgareddau plant, crefftau gwlad, stondinau nwyddau, a brag arbennig i ddathlu’r ŵyl, cwrw Madrun, trwy gydweithrediad ein bragdy lleol, Cwrw Llŷn.
Roedd yr Amgueddfa yn agored, a llif cyson o bobl yn galw mewn i fwynhau lluniaeth, prynu tocyn raffl, gweld ein hartiffactau (yn cynnwys Arddangosfa dros dro Y Blue Funnel) – ac o bosib i ddianc o’r gwres tanbaid !
Gŵyl lwyddiannus yn ôl y wên ar wynebau’r mynychwyr. Yn ôl y trefnwyr, Ceiri, Janice a Jina, y peth pwysicaf oedd dwyn pobl leol ynghyd, a phrofi (i ddyfynnu cân plant ysgol Nefyn) mai yn wir ‘Nefyn yw ein nefoedd ni’.
Gyda diolch o galon i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd at wneud Gŵyl Fadrun yn ŵyl hapus, Gymraeg ac yn dangos cefnogaeth i’n Hamgueddfa ni.
Iechyd da!
Mae'r Amgueddfa yn falch iawn bod CwrwLlyn, ein bragdy lleol, wedi cynhyrchu brag arbennig i ddathlu ein sgerbwd, Madrun. Enw'r cwrw yw... MADRUN wrth gwrs, a bydd ar werth yng ngwyl Fadrun ar Ordfennaf 9fed ac mewn tafarndai lleol. Yn ysgafn (3.9) ond yn llawn blas, cwrw Madrun yw'r cwrw i fwynhau'r haf hwn. Iechyd da!
Hoffai'r Amgueddfa ddiolch o galon i Snowdonia Fire & Security am noddi gweithgareddau'r Amgueddfa eleni.
Ailgydio yn ein partneriaeth gyda'n cymdogion yn Nant Gwrtheyrn
Braf oedd ailgydio yn ein partneriaeth gyda'n cymdogion yn Nant Gwrtheyrn, a chroesawu criw o 'siaradwyr newydd' ein haith, gyda ei thiwtor Eirian. Daliwch ati, da 'chi a dowch yn ol! Croeso i bawb i ymarfer eu Cymraeg yma!
Noddwr newydd 2022
Mae'r Amgueddfa yn falch o gyhoeddi bod cwmni golchi dillad Johnsons' (Afonwen yw'r enw llafar gwlad i ni) wedi cytuno i noddi'r Amgueddfa am 2022-3. Diolch o galon, Cedri. Rydym yn falch o arddangos logo'r cwmni yma ac ar ein rhaglen o weithgareddau. Os oes cwmni arall sy'n dymuno ein noddi, cysyllter gyda ni trwy ebost, byddwn wrth ein boddau yn clywed oddi wrthych !
Taith gerdded hanes i Garn Fadrun.
Dyma'r criw a aeth yng nghwmni 'r hanesydd a thywysydd profiadol Dawi Griffiths i ben Garn Fadrun yn ddiweddar. Diolch, Dawi am roi dy amser yn ddi-ddal, a diolch i bawb a gefnogodd y daith er budd yr Amgueddfa. Aethon i Garn Boduan llynedd gyda fo , lle fydd hi yn 2023, tybed?
Ymweliad arbennig
Bu’r Arddangosfa ‘Blue Funnel’ sydd yn yr Amgueddfa Forwrol yn Nefyn ar hyn o bryd (tan 17 o Orffennaf) yn boblogaidd iawn, ond roedd ymweliad á hi yn ddiweddar gan Carys Davies o Chwilog yn achlysur arbennig. Daeth hi yna’n unswydd i weld yr ‘Olympus Cup’ a roddwyd i’r Amgueddfa gan ei thad, y diweddar Capten Hugh Davies.
Mae hanes y cwpan yn ddiddorol iawn. Enillwyd y tlws gan griw llong Capten Hugh Davies , yr ‘Agapenor’ yn ystod caethiwed 15 llong yng nghamlas Suez yn ystod y ‘Six Day War’ yn 1967. Trefnwyd amrywiaeth o weithgareddau i griwiau’r llongau yn ystod y cyfnod anodd ac ansicr hwn er mwyn cadw’u hysbryd yn gadarn, gan gynnwys twrnament pél-droed pump-bob- ochr rhwng criwiau’r llongau. Tím yr ‘Agapenor’ fu’n fuddugol a chyflwynwyd yr ‘Olympus Cup’ i’w Capten, Hugh Davies.
Diolch i’n Gwirfoddolwyr arbenigol, Elinor, Carys, Margaret, Gwerfyl a Diane am roi’r Arddangosfa at ei gilydd, ac yn arbennig i Elinor a drefnodd ymweliad Carys.
Mae 'r Amgueddfa yn falch o gyhoeddi bod Mêt wedi ymuno gyda'r criw.
Janice Evans yw'r aelod newydd, a bydd hi'n cymryd cyfrifoldeb am y siop a'r caffi, yn ogystal â bod yn ddolen gyswllt hollbwysig gyda'n gwirfoddolwyr. Croeso ar fwrdd, Janice! (Gyda diolch i AHNE Llŷn am ariannu'r swydd hon).
Arddangosfa Blue Funnel
Yn ystod yr wythnosau cyntaf mae'r nifer o ymwelwyr a ddaeth i weld yr Arddangosfa arbennig hon wedi bod yn syfrdanol ! Mae'r Arddangosfa ar gael bob diwrnod yn ystod oriau agor arferol, ond rydym yn croesawu grwpiau trwy drefniant blaenorol hefyd, ac yn gallu cynnig sgwrs, ffilm, lluniaeth fel rhan o'r pecyn, felly beth am drefnu eich ymweliad !
Dyma luniau o griw o ymwelwyr o Gaergybi
Nwyddau Madrun
Gyda diddordeb yn ein sgerbwd, Madrun, yn cynyddu, rydym wedi creu nifer o eitemau i'w gwerthu yn ein siop. Mygiau llawn lliw, mygiau tseina sepia, coasters a 'Nawtwll' gem canoloesol. Tritiwch eich hunain!
Helfa Drysor Nefyn
Ar ddydd Mawrth, Ebrill y 12fed, cynhaliwyd Helfa Drysor drwy dref Nefyn. Roedd angen i'r timau edrych am gliwiau i fedru ateb y 15 cwestiwn. Roedd 'Bob Ross' a 'Jackson Five' yn fuddugol wrth ddewis enw o het, gan gael pob cwestiwn yn iawn. Aeth yr elw i'r Amgueddfa.
Pasg hapus!
Daeth criw da o blant i'r amgueddfa i fwynhau sesiwn o hanes a chrefftau. Cawsom stori am yr wythnos fawr, sut i glapio am wyau, arwyddocad Sul y Blodau (rhoddwyd blodau wrth fedd Madrun, ein sgerbwd), addurnwyd wyau, ac, wrth gwrs, helfa wyau. Diolch i'r mamau, anti Dwynwen, nain a thad am helpu!
Rydym yn agored!
Gyda nwyddau newydd yn y siop, danteithion yn y caffi a llawer o eitemau newydd i'w gweld yn yr Amgueddfa. : ein sgerbwd a'i bedd, procer bach gloyw fy Nain, paentiad confoi mewn storm, basged benwaig: rhaid i chi alw!
- Ymwelwyr cyntaf y tymor newydd!
Ymwelwyr cyntaf y tymor newydd!
- 040422-newyddion-2-lrg
- 040422-newyddion-3-lrg
Hanner Tymor llawn llesiant a hwyl !
Hwre ! Mae'r Amgueddfa wedi bod yn diasbedain i swn plant unwaith eto yn ystod hanner tymor.
Dyma luniau o'r gweithgaredd cyntaf yn dathlu cyrhaeddiad Madrun, einn sgerbwd o Oes y Tywysogion. Bu'r plant yn cyfarfod gyda Madrun a chlywed un o'r straeon amdani gan Janet. Cawsom fynd allan i'r fynwent i chwilota cyn dychwelyd i wneud amrywiaeth o grefftau. Da iawn, bawb, ac rydym yn edrych ymlaen at eich gweld eto yn fuan i glywed mwy am Madrun.
Ar fore gorau'r wythnos daeth un teulu bach i'r helfa ar y traeth. Am hwyl! A nid y plant yn unig oedd yn gwirioni ar y creaduriaid a gwybodaeth Anita, ein harweinydd. Digwyddiad i wneud eto yn wir - paid a cholli'r cyfle y tro nesaf
Mae'r Amgueddfa eisiau diolch yn ddiffuant i Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru a'n Llywodraeth am ariannu'r digwyddiadau hyn fel rhan o Wyl Amgueddfeydd Cymru a Gaeaf Llesiant.
- yn-y-fynwent
yn y fynwent 23.2.22
- 230222-gweithgareddau-madrun
gweithgareddau Madrun 23.2.22
- 230222-sgerbydau
sgerbydau ! 23.2.22
- 230222-broits-maseun
broits Maseun 23.2.22
- 230222-broets-gwaith
ar y traeth 25.2.22
- 25222-ar-y-traeth
ar y traeth 25.2.22
- unucorn-ar-y-traeth
unucorn ar y traeth 25.2.22
- 25222
25.2.22
Helfa Drysor Goleudy Enlli
Diolch i bawb gymerodd rhan yn yr helfa drysor i ddathlu penblwydd goleudy Enlli yn 200 oed. Daeth un ar ddeg tîm i gyd, ac o’r rheiny cafodd pump ohonynt farciau llawn. Ar gyfer y prif wobr, tynnwyd enw o het, a ‘Bulbs Bryn Hafod’ oedd yn fuddugol, gyda’r pedwar tîm arall a gafodd pob cwestiwn yn iawn, sef ‘Tîm Llewyrch Enlli’, ‘Wil ac Eurwen’, ‘Teulu Hughes’ a ‘Cewri Boduan’, yn derbyn gwobrau hefyd. Yn ystod y daith, cafwyd cyfle i ddysgu mwy am hanes y goleudy, gan fynd o’r Amgueddfa i Porth Y Swnt, Aberdaron, ble mae optig y goleudy. Diolch i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am eu cydweithrediad yn y digwyddiad hefyd. Bydd yr elw yn cael ei rannu rhwng yr Amgueddfa a’r Ymddiriedolaeth.
Ffair Nadolig
Cynhaliwyd ein Ffair Dolig ar ffurf Cabaret eleni, gyda'r gwestai yn cael dewis y gerddoriaeth fyw. Wrth yr allweddellau roedd Geraint, Janet, Laura Wyn a Jina. Oherwydd cyfyngiadau Covid, ychydig o gynulleidfa oedd yn bosib ar y tro, ac roeddent yn gwisgo haenau o ddillad i gadw'n gynnes (rydym yn cadw ffenestri a drws yn agored, hyd yn oed ym mis Rhagfyr oer). Roedd pawb yn falch o gael eu paned a mins pei cynnes i gynhesu! Enillydd yr hampr Nadolig oedd Mrs Laura Wyn Roberts. Diolch i bawb a roddodd nwyddau at diwrnod a gododd dros £250 at goffrau'r Amgueddfa ar ddiwedd blwyddyn heriol.
Hwyl G'lan Gaeaf
Er y bu rhaid canslo'r daith gerdded ysbrydion oherwydd y tywydd, roedd yr Amgueddfa yn 'llawn' (yn dilyn rheolau Covid) ar gyfer noson o Straeon Bwganod Nefyn gyda Meinir Pierce Jones. Cafwyd hwyl yn chwarae gemau 'ers talwm' ac enillydd y cystadleuaeth Lantar' oedd Jacob.
Digon posib bydd hwn yn ddigwyddiad i'w ychwanegu i'n Calendr o weithgareddau blynyddol...
Diolch i bawb am gefnogi'r fenter ac yn arbennig i Meinir am ein diddanu (heb ein dychryn gormod!)
Ein Hanes ni
Daeth criw da at ei gilydd o bob oed i fynychu gweithdy Rhys Mwyn ar hanes Nefyn. Wedi cyflwyniad byr aethpwyd â ni ar daith trwy'r dref yn darganfod cliwiau am ein hanes... y twmpath, yr enw, y darn o dir, y dyddiad ... ia, mae hanes ymhobman - yn enwedig yn ein tref hanesyddol ni. Diolch i Rhys, i Ifan (Hunaniaith) ac i bawb am gefnogi'r fenter.
Bydd Rhys o gwmpas Llŷn yn arwain nifer o deithiau cerdded i fryngaerau'r fro fel rhan o Wŷl Archeolegol y mae'r EcoamgueddfaLIVE yn ei chynnal 23-30ain.
Am fwy o fanylion : LLŶN ARCHAEOLOGICAL FESTIVAL | LIVE Ecomuseums
Paned Da, pnawn da
Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i gefnogi ein Paned Pnawn ddydd Sadwrn diwethaf. Llwyddon ni i godi £432 o bunnau i'w rhannu rhwng yr Amgueddfa ac Elusen MacMillan.
Enillwyr y Raffl :
Mary Evans (Tocyn Fferyllfa Nefyn), Jean Coker (potel o win),Janet Wyn (bocs nwyddau), William Trenholme (kilner Jar), Eirwen Hulmston (Cacen lemwn), Megan Williams (Siocledi), Laura Wyn (siocledi), Delyth Trenholme (Peli ogla da), Dilys Williams (llyfrau nodiadau) Iwan Evans (siocledi).
Diolch i bawb am eu rhoddion a help ar y diwrnod.Diolch yn arbennig i Janice Evans am drefnu'r digwyddiad, ac i Tom am ddangos i ni sut i osod y Gazebo !
Hydref 14 1881 - Llongdrylliad y Cyprian
Heddiw, mae'n union140 o flynyddau ers llongddrylliad y Cyprian enwog. Cofiwch gofrestru i glywed yr hanes yn llawn a gweld y casgliad o luniau yn ymwneud â'r llong - a chyda ddau Gyprian arall gyda diweddau trychinebus ! Geraint Jones bydd yn ein tywys trwy'r stori, ac y mae holl arian a godir o'r noson yn cael ei rannu rhwng ein Bad Achub lleol (Porthdinllaen) a'r Amgueddfa.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am yr llongdrylliad
Newyddion da o lawenydd mawr!
Mae "Hen brocer bach gloew fy Nain" yn dychwelyd i Nefyn yr wythnos hon (Medi 30, 2021), ac bydd yn cael ei arddangos yn yr Amgueddfa! Gyda diolch i Storiel, Bangor am fenthyg yr artiffact i ni, ac yn arbennig i Elinor Ellis am ei hymdrechion i gael y darn bach yma o'n hanes (a hanes personol teulu Elinor) yn ôl i Nefyn!
Pererin wyf...
Mae'n debyg bod y daith yn digwydd yn flynyddol, ond dyna oedd y tro cyntaf i Jina, ein Swyddog Treftadaeth, ymuno gyda'r criw o bererinion oedd yn cerdded hyd Llwybr Gogleddol y Pererinion o Ddinas Basing i Ynys Enlli. 'Cerdded i'r gwaith' oedd y syniad, a chael profiad newydd. Mae'n siwrne hardd, heriol ac yn bendant yn werthchweil! Dyma ychydig o luniau o'r daith.
Mae tywydd braf yn fonws wrth gwrs !
Os ydych chi'n cerdded hyd y llwybr hwn, neu hyd Llwybr yr Arfordir ( mae'r ddau yn cyd-rhedeg am gyfnodau) cofiwch wneud trefniadau i alw yn yr Amgueddfa am luniaeth ac am eich stamp! Mae nwyddau Pererindod ar gael yma, yn cynnwys Pasbort y Pererin.
Cynhaliwyd 'gwyl bro Nefyn' cyntaf ar Fedi 4.
Digon o weithgareddau, yn cynnwys helfa, ffilmiau, gwaith llaw, taith hanes a chyfle clymu. Rydym yn edrych ymlaen at wyl bro 2022 yn barod! Seren y pnawn oedd y maelgi, diolch i ffilm syfrdanol gan Jake Davies. Diolch hefyd i Meic Massarelli a Rodney Jones am eu cyfraniadau.
Lluniau : gwneud Maelgwn o bapur tywod a chregyn.
Trychfilod - a mwy !!
Daeth criw brwd o blant - ac oedolion - i ymuno yn yr Helfa Trychfilod y tu cefn i'r Amgueddfa. Seren y sioe oedd Sioncyn !!
Gyda diolch i Hunaniaith am noddi'r digwyddiad, i Anita ( Antur Natur) am ei gwaith hwyliog, ac i bawb a ddaeth. (Mae Sioncyn wedi mynd adra hefyd bellach...)
- 270821-prysurdeb-helfa-trychfilod
Prysurdeb helfa trychfilod
- 270821-sioncyn-y-gwair
Sioncyn y Gwair
- 270821-trychfilod-awst-helwyr-yn-cael-seibiant
Trychfilod Awst - helwyr yn cael seibiant
- 270821-chwist-chwilen
Chwist chwilen
- 310821-cerdyn-natur
#haf o hwyl
Daeth criw da o ffrindiau i'r sesiwn olaf fore Llun 23ain o Awst. Ac o'r diwedd! Roedd yn ddigon braf a heulog i gynnal y gweithgareddau tu allan. Am fore prysur! Gorffennwyd y llun, cawsom helfa drysor, stori, cân a gemau. Diolch i Lywodraeth Cymru ac i gapten Mel am drefnu'r hwyl.
- 240821-haf-o-hwyl-pawb-yn-brysur
haf o hwyl - pawb yn brysur
- 240821-haf-o-hwyl-all-aboard
haf o hwyl - all aboard !
- 240821-haf-o-hwyl-llun-y-mor
#haf o hwyl llun y mor
Gohirio dros dro
Yn anffodus bydd rhaid gohirio ein Sesiwn ar Nefyn yn Oes y Tywysogion ddydd Mercher 18fed, tan yr hydref. Diolch i'r rhai a ddangosodd ddiddordeb - cewch wybod am y dyddiad newydd wrth gwrs.
#haf o hwyl
Dechreuodd y sesiynau hwyliog hyn i blant 4-7oed ddoe. Er y glaw (bu rhaid symud tu mewn i'r Amgueddfa i gynnal rhan mwyaf o'r gweithgareddau), gwibiodd y bore heibio gyda gwaith celf, modelu, helfa, stori a chân yn llenwi'r dwy awr ! Mae ychydig o le ar ol ar gyfer y sesiw nesaf, dydd Llun 16fed, croeso i bawb !
Gyda diolch i Lywodraeth Cymru am ariannu'r fenter hon.
Trît bach ychwanegol i'r sesiwn oedd ymweliad Iestyn a'i ffidl ! Diolch am ddiddanu'r plant
- 120821-amser-stori
amser stori sesiwn 1
- 120821-alaw
alaw wrth ddisgwyl am y criw !
- 120821-haf-o-hwyl
Dyma enillydd ein cystadleuaeth 'collage', Jack o Edern.
Dyma enillydd ein cystadleuaeth 'collage', Jack o Edern. Daeth Jack i'r Amgueddfa gyda'i fam a'i Nain i dderbyn ei wobr. Dowch, dach chi, yma hefyd i weld ei waith ( a gwaith yr ymgeiswyr eraill) sy'n profi bod ein mynwent yn llecyn hardd llawn byd natur !
Diwrnod tu allan - sesiwn cyntaf
Daeth criw o blant a phobl ifanc ynghyd i fwynhau gweithgareddau awyr agored yn ein tiroedd yn ddiweddar dan gynllun Cyngor Gwynedd ac "Elfennau Gwyllt" Diwrnod llawn bwrlwm a sbri a'r tywydd braf yn goron ar y cyfan ! Gwyliwch ein gwefan am ragor o ddigwyddiadau dan gynllun #Haf o Hwyl !
Taith (boeth) i gopa Garn Boduan.
Sadwrn Gorffennaf 17, a'r tymheredd yn 24 gradd wrth i ni adael cysgod yr Amgueddfa yn y bore, roedd hi'n amlwg ein bod yn ei mentro hi wrth anelu am Garn Boduan,279m (915 troedfedd) ! Ond, yn laddar o chwys, cyrhaeddodd pawb y copa yn ddiogel i fwynhau'r golygfeydd ysblennydd i bob cyfeiriad. Cafwyd sgyrsiau difyr ac addysgiadol ar nodweddion brynceiri ac yn arbennig ar Garn Boduan ei hun gan arweinydd gwybodus y daith, Dawi Griffiths.
Diolch i bawb (yn cynnwys y pedwar ci) a ddaeth gyda ni.
Garn Fadrun y tro nesaf !
- 190721-dewi-griffith-wedi-paratoin-drwyadl
Dawi Griffith - wedi paratoi'n drwyadl
- 190721-seibiant
Seibiant...
- 190721-ychydig-o-wybodaeth-ar-y-daith
Ychydig o wybodaeth ar y daith...
- 190721-wedi-cyrraedd-y-copa
Wedi cyrraedd y copa!
Gwobrau Enwi Madrun
Dyma’r ddau ddisgybl lwcus ennillodd ein gwobrau am enwi y sgerwbd, ‘Madrun’. Llongyfarchiadau i Guto Bryn Williams, 11 oed a Mabon Arwel Williams, 9 oed! Diolch i Ysgol Pentreuchaf ac Ysgol Tudweiliog am gael ymweld i gyflwyno’r ghwobrau.
- 300621-guto
Guto Bryn Williams
- 300621-mabon
Mabon Arwel Williams
Taith gerdded ddaeareg o amgylch Cilan
Cynhaliwyd taith gerdded yn ddiweddar dan arweiniad medrus Daniel Evans. Gwenodd yr haul ar y criw a aeth i edrych ar brydferthwch ardal Cilan a'i hynodrwydd daearegol. Pnawn gwerth chweil yn wir! Beth am i chi ymuno ar ein taith nesaf - i fyny i ben Garn Boduan i ddysgu am ein hanes cynnar, yr hen geiri a mwynhau'r golygfeydd godidog (tywydd yn caniatau!).
(Lluniau taith Cilan, gyda diolch i Sion Owen).
- 250621-amgylch-cilan-1
Y Tir i'w ddarganfod...
- 250621-amgylch-cilan-2-lrg
Daniel yn esbonio beth o ddaeareg yr ardal
- 250621-amgylch-cilan-3-lrg
Ymlaen i ganfod rhagor a mwynhau'r golygfeydd