Be Sy Mlaen
Sgyrsiau'r Haf - 7yh
Dewch draw i'r Amgueddfa i wrando ar y darlithoedd fydd ymlaen ar nosweithiau Iau am 7yh mis Awst.
6 Awst - Rob Crossley - Deep Time Travel: from Anglesey and the Llŷn to Darwin's "Origin of Species"
13 Awst - David Jenkins - Llongau Newcastle a llongau Pwllparc - mentrau morwrol dau deulu o Edern
20 Awst - Huw Roberts - Tri brawd a thair llong
27 Awst - John Dilwyn Williams - Ffordd dyspeg Porth Dinllaen 1802-1874
£5 yn cynnwys raffl
Darlithoedd yn iaith y teitl
Amgueddfa Forwrol Llyn, Nefyn, LL53 6LB
Newyddion
Prynhawn Nadolig
Diolch i bawb ddaeth i’n Prynhawn Nadolig gyda Mair Tomos Ifans, roedd yn brynhawn hwyliog iawn, ac yn gyfle i ddysgu mwy am y traddodiad Plygain a charolau traddodiadol. Bu i bawb fwynhau mins pei Cegin Vernau hefyd. Diolch i gynllun Noson Allan am ariannu. Bu cyfle i ganu ambell garol hefyd i gael pawb i ysbryd y Nadolig.
Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol
Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Amgueddfa yn chael ei chynnal yma ar nos Fawrth yr ail o Ragfyr 2025 am 6:30 os oes gennych ddiddordeb dod.
Cyfle gwirfoddoli
Mae gennym gyfle gwirfoddoli cyffrous yma yn yr Amgueddfa. Diolch i nawdd Cronfa Cymunedol Adra, rydym am wneud podlediad o atgofion pobl am Nefyn...










