Be Sy Mlaen

Sgwrs gyda Jean Brandwood
Dewch draw i’r Amgueddfa ar nos Iau yr 11eg o Fedi am 7 i glywed Jean Brandwood yn sgwrsio am ei llyfrau 'A Welsh Learner’s Ramble Along the Llŷn Coastal Path' ac 'A Welsh Learner’s Hill and Eisteddfod Ramble in Llŷn' a’r profiadau y tu ôl iddynt. Mynediad yn £5.
Newyddion
Cyfle Gwirfoddoli 16eg o Orffennaf 2025
Os ydych yn awyddus i ddatblygu sgiliau a chael profiadau perthnasol i fynd ymlaen i fyd Amgueddfeydd, mae cyfleoedd gwirfoddoli yma, megis gweld sut mae Amgueddfa yn rhedeg o ddydd i ddydd, profiad o fod yn rhan o drefnu a chynnal digwyddiadau, bod ar ddyletswydd wrth i ymwelwyr ddod, ac ati. Gellir ffonio 01758 721 313 neu e-bostio afllmm@yahoo.com am fwy o wybodaeth.