Arddangosfeydd Digidol
Dyma gasgliad digidol o hen arddangosfeyddi chi fwynhau. Rydym yn gobeithio diweddaru’r casgliad i gynnwys fersiwn arlein o’n holl arddangosfeydd yn y dyfodol
Bob blwyddyn mae gan yr amgueddfa arddangosfeydd byrdymor amrywiol. Oherwydd mai arddangosfeydd dros dro ydynt, rydym yn anelu at sicrhau dilyniant trwy drefnu arddangosfa ar-lein yn syth wedyn. Bydd yr arddangosfeydd ar-lein yn sicrhau ei bod yn bosibl cael mynediad atynt o bedwar ban byd ac y byddant hefyd ar gael i genedlaethau’r dyfodol. Gellir gweld yr eitem isood ar-lein yn awr a’r bwriad yw ychwanegu at y casgliad yn flynyddol.
Arddangosfa ddigidol yn dilyn hynt rhai o bobl ifanc Pen Llŷn dros flwyddyn, wrth iddynt ddechrau eu bywyd ar y mor, ein treftadaeth forwrol i’r dyfodol!
Mae Hwylio 'Mlaen (Mehefin 3-30ain 2016) yn arddangosfa ddigidol a diriaethol sy’n dilyn hynt pobl ifanc Penrhyn Llŷn dros gyfnod o flwyddyn (cyfnod y prosiect oedd Chwefror 2015-Chwefror 2016), wrth iddynt gychwyn eu bywyd ar y môr, ein treftadaeth forwrol newydd. Nod y prosiect yw portreadu’r diwylliant morwrol byw a dyfodol treftadaeth forwrol yr ardal. Mae’r delweddau, y fideos a’r hanesion a gofnodwyd gan y bobl ifanc, yn dangos y gwahanol gyfleoedd sydd i’w cael am yrfaoedd ar y môr yn lleol ac ar draws y byd, a hefyd yn gofnod o greu etifeddiaeth forwrol y presennol ar gyfer y dyfodol.
Cafodd yr arddangosfa arloesol hon ei datblygu a’i rheoli gan un o ymddiriedolwyr ifanc yr amgueddfa ac aelod o’i phwyllgor, Jamie Davies, o Nefyn sy’n 24 oed. Y symbyliad tu ôl iddi oedd y sylweddoliad fod arddangosfeydd amgueddfeydd, ac yn arbennig amgueddfeydd morwrol, yn canolbwyntio gormod ar y gorffennol yn rhy aml yn hytrach na’r dyfodol. Fe wnaeth gweld hyn, ynghyd â’r heriau sy’n codi o ymgysylltu â chynulleidfa ifanc, greu cyfle am brosiect ac arddangosfa i’r amgueddfa.
Rhannwyd dros 200 o ffotograffau yn ystod y prosiect. Gallwch weld yr arddangosfa ddigidol lawn yma:
Cydnabyddiaeth: Jamie Davies, GwirVol, Nautilus International a'r holl gyfranogwyr
Joe - 18 - Pwllheli
Gwyddoniaeth Forwrol, Coleg Morwrol Fleetwood
Cadét Swyddog Bwrdd, Seacor Marine
Staff Cyffredinol, OFFAXIS
Gwirfoddolwr, Bad Achub Pwllheli
Siwan - 24 - Pwllheli
Gweithio i Halycon Yachts- cwmni sy’n danfon cychod hwyliau ar hyd a lled y byd
Dechrau cwrs Gwyddoniaeth Forwrol, Coleg Morwrol Fleetwood yn 2016
Aelod ac un o griw rasio Clwb Hwylio Pwllheli
Hyfforddwr CHIPAC, Clwb Hwylio Pwllheli
Josh - 20 - Nefyn
Gwyddoniaeth Forwrol, Coleg Morwrol Fleetwood
Cadét Swyddog Bwrdd, OOCL
Gwirfoddolwr, Bad Achub Porthdinllaen
Aelod o griw rasio Clwb Hwylio Pwllheli
Wedi gweithio yn lansio cychod yn SCYC, Abersoch yn ystod gwyliau haf
Wedi hwylio toppers, 29ers gyda’i efail Jake gan lwyddo i gael eu derbyn i sgwad ryngbarthol Volvo RYA (Y Gymdeithas Hwylio Frenhinol) Prydain ac academi hwylio 29er Cymru
Lisa - 24 - Morfa Nefyn
Yn gweithio i Svitzer Marine Cyf. (sy’n darparu gwasanaethau llongau) yn Aberdaugleddau
Wedi gweithio i gwmni Maersk fel Cadét Swyddog Bwrdd
Wedi astudio Gwyddoniaeth Forwrol yng Ngholeg Morwrol Fleetwood
Gwirfoddolwr, Bad Achub Porthdinllaen
Thomas - 23 - Llanbedrog
Prif adeiladwr llongau- Ace Racing Yachts, Pwllheli
Wedi gweithio i Sailing Holidays Ltd o gwmpas Ynysoedd Groeg
Wedi astudio Peirianneg yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli
Jake - 20 - Nefyn
Yn astudio Bywydeg Forol Gymhwysol ym Mhrifysgol Bangor
Wedi gweithio fel Ceidwad cynorthwyol i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhorthdinllaen
Bu’n gweithio yn SCYC, Abersoch yn ystod gwyliau’r haf
Aelod o griw rasio Clwb Hwylio Pwllheli
Wedi hwylio toppers, 29ers gyda’i efaill Josh gan lwyddo i gael eu derbyn i sgwad ryngbarthol Volvo RYA (Y Gymdeithas Hwylio Frenhinol) Prydain ac academi hwylio 29er Cymru
Cai - 33 - Aberdaron
Ail Swyddog (DPO) gydag MPI Offshore (cwmni gosod tyrbinau gwynt)
Bu’n gweithio yn Gulf Offshore N.S. Cyf. (Llwyfan Cyflenwi Olew Môr y Gogledd) a’r Hebridean Princess (un o longau mordeithio’r cwmni Hebridean Island), Cwmni Stena Line a P&O Ferries (Ro-Ro/Ro Pax Ferries)
Arklow Shipping (Llongau Cludo Cyflenwadau Swmpus ar hyd yr Arfordir)
Wedi bwrw prentisiaeth fel cadét gyda P&O Ferries (Irish Sea Ltd)
Bu’n astudio Gwyddoniaeth Forol yng Ngholeg Morwrol South Tyneside
Matthew - 21 - Morfa Nefyn
Cadét Swyddog Bwrdd
Bu’n astudio Gwyddoniaeth Forol yng Ngholeg Morwrol Fleetwood
Wedi gweithio yn iard gychod y teulu, Firmhelm, ym Mhwllheli
Aelod o griw rasio Clwb Hwylio Pwllheli
Carwyn - 23 - Pwllheli
Wedi gweithio ar Gychod Diogelwch yng Nghlwb Hwylio Pwllheli
Gwirfoddolwr a chyn-aelod Uned Pwllheli a Phen Llŷn, Cadetiaid Morol
Astudiodd Adeiladu Llongau yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli
Dyfed - 33 - Morfa Nefyn
Rheolwr gyfarwyddwr hunangyflogedig, capten/perchennog Davies Shellfish Cyf.
Fo ydi capten Steel Venture, sy’n hwylio o Nefyn
Mae’n pysgota am wichiaid a chregyn bylchog
Fideo
Video gan Andrew Scott (Llyn Sub Aqua Club) dynnwyd ym Mawrth 2012
Awst 7fed 2014: SS Gwynfaen - 110 years on. A joint presentation by Oswestry Sub Aqua Club and Llyn Sub Aqua Club.
Darlith gan Eric a Bill o Oswestry Aqua Club am y llong SS Gwynfaen a suddodd wrth Porthdinllaen 110 mlynedd yn ol.
Lluniau o'r ddarlith a'r creiriau
I weld y luniau - cliciwch yma
Oes yna creiriau eraill o'r llongdrylliad?
Arddangosfa Ailddarganfod y Cyprian (Gŵyl Arfordir Llŷn)
Yn ystod y cyfnod 8-22 Awst 2013, wnaeth Amgueddfa Forwrol a Chanolfan Treftadaeth Llŷn gynnal arddangosfa yn ein Canolfan Haf ar y Groes, Nefyn oedd yn adrodd hanes llongddrylliad yr SS Cyprian a suddodd oddi ar Benrhyn Cwmistir, Edern ym mis Hydref 1881. Daeth y llongddrylliad yn enwog yn sgil gweithred arwrol y Capten, John Alexander Strachan, a gollodd ei fywyd wrth geisio achub bachgen, John William Klahn, oedd yn teithio ar y llong yn gudd.
‘Ailddarganfod y Cyprian’ oedd yr arddangosfa fwyaf cynhwysfawr hyd yma, gydag arteffactau a dogfennau, ac ymchwil newydd.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch Jamie Davies 07773346323 neu jamesgarethdavies@yahoo.co.uk
Fideo
Trawsgrifiad John Harold Morris (2013) o'r fideo uchod - cliciwch yma
Lluniau o'r arddangosfa a'r creiriau
I weld mwy o luniau - cliciwch yma
Captain John Alexander Strachan - cliciwch yma
Dolenni
The wreck report: Board of Trade Wreck Report for 'Cyprian', 1881 - cliciwch yma
Gyda diolch i:
AONB Llŷn - Gwyl Arfordirol Llŷn Coastal Festival 2013
Jamie Davies
Amgueddfa Forwrol Llŷn Maritime Museum
Martyn Croydon (www.llyn.info)
Gareth Jenkins (Photographer; garethhj@gmail.com)
National Museum Wales
Harold Morris
Pete Wilkinson
Geraint Jenkins and
Edward Goddard