Cyfeillion yr Amgueddfa
Mae ymuno â Chyfeillion yr Amgueddfa, a thalu tanysgrifiad blynyddol rhesymol, yn ffordd dda o’n cefnogi. Mae’r Cyfeillion yn derbyn cylchlythyron yn rheolaidd yn sôn am ddatblygiadau newydd ac yn nodi digwyddiadau i ddod. Maent hefyd yn cael eu gwahodd i ddigwyddiadau penodol.
Gallwch ymaelodi trwy gwblhau’r ffurflen gais ar y safle yma. Byddem yn ddiolchgar os gallech dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol, ac mae’n haws a llawer rhatach gyrru’r cylchlythyron os oes gennych e-bost.
Mae yna hefyd ffurflen Cymorth Rhodd. Os ydych yn talu digon o dreth incwm gall y Cyfeillion dderbyn 20% o’ch taliad yn ychwanegol, sydd yn dod yn swm sylweddol i helpu’r Amgueddfa.
Ffurflen 'Gift Aid' - cliciwch yma
Ffurflen Aelodaeth Cyfeillion - cliciwch yma
Gobeithio y byddwch yn ymuno. Os gwelwch yn dda gyrrwch eich ffurflenni i:
Amgueddfa Forwrol Llyn
Stryd y Mynach
Nefyn
Pwllheli
Gwynedd
LL53 6LB