Gwirfoddoli

Mae’r Amgueddfa yn awyddus iawn i estyn croeso cynnes i bobl wirfoddoli gyda ni. Beth am ymuno gyda’r tîm gwirfoddolwyr sy’n helpu i redeg yr Amgueddfa yn ystod y cyfnod rhwng y Pasg a Diolchgarwch? Cewch ddewis gwneud un sesiwn bob wythnos (neu bythefnos) o 2.5 awr neu dair awr yn y bore neu’r prynhawn i groesawu ymwelwyr a’u tywys o gwmpas yr amgueddfa neu i helpu yn y siop neu ar y ddesg yn y dderbynfa. Gallwch ddod gyda ffrind neu gymar os dymunwch. Mae digon o ddewis o dasgau gwahanol i bobl nad ydynt yn dymuno gweithio mor gyhoeddus fel garddio, glanhau, gofalu am y creiriau ac ymchwil. Dewch atom! Rydym yn griw croesawgar a siriol a llawn hwyl.
Dyma a ddywedodd rai gwirfoddolwyr am y profiad o wirfoddoli gyda’r Amgueddfa:
"Mae’n ffordd dda o wneud ffrindiau, dysgu sgiliau newydd a gwella hunan hyder"
"Wrth wirfoddoli efo'r Amgueddfa dwi wedi dod i 'nabod pobl ddifyr iawn, pobl efallai na fyddwn wedi dod ar eu traws fel arall. Mae gweld y brwdfrydedd sydd gan rai yn brofiad ac yn ysgogiad!”
“Mae’r gwirfoddolwyr yn griw hwyliog a chyfeillgar iawn”
“Rydw i yn teimlo fy mod yn cyfrannu at fy nghymuned ac mwynhau gwneud hynny am fod gen i ddiddordeb mewn hanes ac ati.”
Ffurflen Gais Gwirfoddolwyr - cliciwch yma
I weld mwy o luniau - cliciwch yma